1 / 10

CA3 – Gwneud Dewisiadau ar gyfer CA4 (1)

CA3 – Gwneud Dewisiadau ar gyfer CA4 (1). Gwybodaeth + cefnogaeth = dewis da. Pa swydd sydd gen i?. I ddechrau’r wers. Mae gen i fywyd prysur yn Affrica. Edrychwch ar rai o’r pethau a wnaf bob wythnos a dysgais y sgiliau hyn i gyd yn yr ysgol a’r coleg.

Download Presentation

CA3 – Gwneud Dewisiadau ar gyfer CA4 (1)

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. CA3 – Gwneud Dewisiadau ar gyfer CA4 (1) Gwybodaeth + cefnogaeth = dewis da

  2. Pa swydd sydd gen i? I ddechrau’r wers Mae gen i fywyd prysur yn Affrica. Edrychwch ar rai o’r pethau a wnaf bob wythnos a dysgais y sgiliau hyn i gyd yn yr ysgol a’r coleg. E-bostio pobl Ysgrifennu adroddiadau ar gynnydd Dysgu oedolion i ddarllen Cynghori pobl ar fwyta’n iach Siarad Ffrangeg Gwirio am lygredd yn y dŵr Trwsio cysgodfeydd sydd wedi’u torri Cael gwybod costau ar gyfer offer newydd Gwneud galwadau ffôn Cyfweld pobl ar gyfer swyddi

  3. Ateb i’r cwestiwn: ‘Pa swydd sydd gen i?’ • Alex ydw i. • Dw i’n wirfoddolwr gyda’r Groes Goch yn Affrica. • Collais allan ar gymryd blwyddyn Fwlch ar ôl gorffen fy addysg coleg felly penderfynais gymryd saib o’m gyrfa a dw i’n byw yn Affrica nawr, yn helpu pentref i adeiladu a sefydlu ysgol

  4. Beth yw Llwybr Dysgu? • Llwybr Dysgu yw profiad dysgu pob unigolyn 14-19 oed. Mae’n cynnwys Craidd Dysgu a dewis opsiynau • Bydd dysgwyr yn dewis opsiynau sy’n gweddu i’w diddordebau, galluoedd a dulliau dysgu (gyda chymorth a chyfarwyddyd) sy’n eu helpu i wireddu eu potensial • Bydd pob dysgwr 14 i 16 oed yn astudio’r pynciau hyn: • Saesneg, Cymraeg (fel iaith gyntaf neu ail iaith) Mathemateg, Gwyddoniaeth ac Addysg Gorfforol • Addysg Grefyddol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Addysg a Chyfarwyddyd Gyrfaoedd ac Addysg Gysylltiedig â Gwaith. • Yr opsiynau yw’r cymwysterau achrededig fel TGAU, NVQ ac eraill a byddan nhw’n amrywio yn ôl ysgolion unigol a’r Rhwydwaith 14-19 lleol.

  5. Opsiynau sydd ar gael • Yn ein hysgol ni rydym yn cynnig y pynciau hyn:

  6. Gwneud eich dewisiadau • Rhaid i chi gadw’ch opsiynau ar agor • Bydd gennych gyfle i ddewis pynciau pellach pan fyddwch yn 16-19 oed • Edrychwch yn adran Blwyddyn 9 www.gyrfacymru.com • Defnyddiwch y cymorth sydd ar gael i chi i’ch helpu i wneud eich dewisiadau • Athrawon / tiwtoriaid • Cynghorydd Gyrfa / Anogwr Dysgu • Rhieni

  7. Rydych yn ei hoffi, neu’n meddwl ei fod yn ddiddorol Mae eich rhieni yn meddwl ei fod yn syniad da, ond dydych chi ddim yn meddwl yr un peth Rydych yn ei wneud yn dda Mae’n swnio’n dda er nad ydych wedi dysgu mwy amdano Bydd yn cyfuno’n dda gyda phynciau eraill Mae’n ddefnyddiol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol Mae eich ffrindiau yn ei wneud Rydych yn meddwl y bydd yn hawdd Cewch ddatblygu sgiliau newydd Allwch chi ddim meddwl am unrhyw beth arall i’w ddewis Rydych yn hoffi’r athro sy’n dysgu’r pwnc Mae eich athrawon yn meddwl ei fod yn addas i chi Rydych chi’n meddwl y dylech ei wneud – er nad ydych wedi dysgu mwy amdano Rydych yn meddwl y byddwch yn ei wneud yn dda neu amlygwch, o’r rhestr hon, y rhesymau positif ar gyfer gwneud eich dewisiadau Mae dewisiadau positif yn ddewisiadau cytbwys

  8. Rydych yn ei hoffi neu’n meddwl ei fod yn ddiddorol Rydych yn meddwl y byddwch yn gwneud yn dda Rydych yn ei wneud yn dda Cewch ddatblygu sgiliau newydd Bydd yn cyfuno’n dda gyda phynciau eraill Mae’ch athrawon yn meddwl ei fod yn addas i chi Mae’n ddefnyddiol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol Mae eich ffrindiau yn ei wneud Mae eich rhieni yn meddwl ei fod yn syniad da, ond dydych chi ddim yn meddwl yr un peth Rydych yn meddwl y bydd yn hawdd Allwch chi ddim meddwl am unrhyw beth arall i’w ddewis Rydych yn hoffi’r athro sy’n ei ddysgu Mae’n swnio’n dda Rydych yn meddwl y dylech ei wneud – er nad ydych wedi dysgu mwy amdano Rhai rhesymau am wneud eich dewisiadauPositif Negyddol

  9. Meddwl amdanoch chi’ch hun Cryfderau yn yr ysgol Gwendidau yn yr ysgol Pethau rydych yn eu hoffi yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol Pethau dydych chi ddim yn eu hoffi yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol

  10. Marsial Awyr Gwaedydd (Phlebotomist) Gweithredydd bŵm Sommelier Pa lun sy’n cydfynd â’r swydd? Mae swyddi newydd yn ymddangos – bydd rhaid cael gwybod mwy amdanyn nhw

More Related