1 / 23

Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant

Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant. ‘Sdim Curo Plant! Children are Unbeatable! Cymru. Beth Ddywed Plant. ‘Mae’n gwneud i chi deimlo’n drist’ (merch 8) ‘Mae’n llosgi eich pen ôl’ (bachgen 5) ‘Mae’n ofnadwy .... poenus’ (merch 9) ‘Teimlo fel eich bod yn mynd i farw’ (merch 6)

alesia
Download Presentation

Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Rhoi Diwedd ar Gosb Gorfforol i Blant ‘Sdim Curo Plant! Children are Unbeatable! Cymru

  2. Beth Ddywed Plant • ‘Mae’n gwneud i chi deimlo’n drist’ (merch 8) • ‘Mae’n llosgi eich pen ôl’ (bachgen 5) • ‘Mae’n ofnadwy .... poenus’ (merch 9) • ‘Teimlo fel eich bod yn mynd i farw’ (merch 6) • ‘Teimlo’n sâl’ (bachgen 6) • ‘Tu mewn eich corff yn brifo’ (merch 6) (Children Talk: About Smacking, SC 2003)

  3. Diben y Cyflwyniad • Rhoi gwybodaeth am • fater cosbi plant yn gorfforol • y sefyllfa gyfreithiol gyfredol yn y Deyrnas Unedig • Hyrwyddo trafodaeth ac ateb cwestiynau • Trafod ffyrdd y medrech chi neu’ch sefydliad gefnogi’r neges DIM cosb gorfforol

  4. 'Sdim Curo Plant!Children Are Unbeatable! • Sefydlwyd yn 2000 • Rhan o ymgyrch/cynghrair o unigolion a sefydliadau ar draws y DU • Ymgyrchu dros: • Newid y gyfraith – dileu amddiffyniad ‘cosb resymol’ • Hyrwyddo dulliau ‘cadarnhaol’ didrais o reoli ymddygiad plant – dim cosb gorfforol

  5. Y sefyllfa gyfreithiol bresennol • Plant yw’r unig grwp o ddinasyddion Prydeinig y mae’n gyfreithiol eu bwrw • Mae “cosb resymol” yn amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o “ymosod cyffredin” • Mae ‘cerydd rhesymol’ yn hen amddiffyniad cyfraith gyffredin yn dyddio’n ôl i 1860 a gaeth ei ddisodli fel rhan o Ddeddf Plant 2004 a ddaeth i rym ar 15 Ionawr 1005 • Pleidleisiodd 10 o ASau Cymru ar gyfer y cymal (a drechwyd) a fyddai wedi rhoi amddiffyniad cyfartal i blant

  6. Ymosodiad cyffredin ar gyfer plant yw: • Bregusrwydd y dioddefwr, megis pan fydd y dioddefwr yn ... blentyn y mae oedolyn wedi ymosod arno (lle mae’r ymosodiad yn achosi unrhyw un o’r anafiadau y cyfeiriwyd atynt yn isbaragraff (vii) uchod, heblaw drwy gochni’r croen, y cyhuddiad fel arfer fydd ymosodiad yn achosi gwir anaf corfforol, er fod yn rhaid i’r erlynwyr gadw mewn cof fod y diffiniad o ymosodiad yn achosi gwir anaf corfforol yn golygu fod angen i’r digwyddiad fod yn fwy na dros dro a dibwys);

  7. Diben Diwygio’r Gyfraith • Yw rhoi’r un amddiffyniad i blant dan y gyfraith ag sydd gan oedolion • Nid gwneud troseddwyr o rieni • Yw diogelu plant • Yw hyrwyddo perthynas iach • Yw gostwng gwrthdaro o fewn a’r tu allan i’r cartref • Yn enghraifft o ddefnyddio’r gyfraith fel erfyn addysgol

  8. Cosb Gorfforol – diffiniad ymchwil “Cosb gorfforol yw defnyddio grym corfforol gyda’r bwriad o wneud i’r plentyn brofi poen, ond dim anaf, i gywiro neu reoli ei ymddygiad. Mae’r diffiniad hwn yn sôn am y ‘bwriad o wneud i’r plentyn brofi poen’ am ddau reswm. Y rheswm cyntaf yw ei wahaniaethu oddi wrth weithredoedd sydd â dibenion eraill ond a all hefyd achosi poen, megis gosod eli gwrthseptig ar friw. Yr ail reswm yw gwneud y ffaith yn glir fod achosi poen yn fwriadol, ac nid yn sgil-effaith.” (Strauss 1996)

  9. Ymchwil 1: Cysylltu Cosb Gorfforol a Cham-drin Corfforol Enghreifftiau o dystiolaeth gynyddol o gysylltiad • NSPCC 1980-89: roedd y rhan fwyaf o achosion o gam-driniaeth a erlynwyd wedi dechrau fel ‘cosb gyffredin a aeth yn rhy bell’ • ‘Astudiaeth mynychder’ Canada 1993: roedd 85% o’r holl achosion sylweddol o gamdriniaeth yn ymwneud â “chosb” • Astudiaeth Durrant yn Sweden 1999: ar ôl y gwaharddiad ar gost gorfforol rhieni, gostyngodd marwolaethau plant ar ddwylo rhieni o 1 y flwyddyn i 1 mewn saith mlynedd o gymharu gydag 1 yr wythnos yn y Deyrnas Unedig

  10. Ymchwil 2: Effeithiau cosb gorfforol – meta-ddadansoddiad o 88 astudiaeth • Natur fwy ymosodol – fel plentyn ac oedolyn • Llai o allu ar gyfer cydymdeimlad • Llai o fewnoli agweddau foesol disgyblaeth • Mwy o debygolrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol fel oedolyn – yn cynnwys cam-drin cymar a/neu blentyn • Tystiolaeth o effaith ar iechyd meddwl • Peth cynnydd mewn cydymffurfiaeth ar unwaith – yn lleiaf rhwng 2-6 oed ac ymysg bechgyn (E.Thompson Gershoff,2002)

  11. Ymchwil 3: Canlyniadau eang smacio plant • Pum gwaith y gyfradd o ddiffyg cydymffurfiaeth ymysg plant bach • Cynnydd pedair gwaith mewn ymosodiadau difrifol ar frodyr a chwiorydd • Dwywaith y gyfradd o ymosodedd corfforol ymysg plant chwech oed yn erbyn plant eraill yn yr ysgol • Sylweddol fwy o rai 4 oed yn methu cyflawni y potensial gwybyddol y gwnaethant ei ddangos yn 1 oed • Cynnydd o 84% yn y tebygolrwydd o ymddygiad treisgar yn y glasoed (Amrywiol)

  12. Ymchwil 4: Effeithiau cadarnhaol peidio defnyddio – neu roi’r gorau i – gosb gorfforol • Lle mae ADHD ac ymosodedd yn cydfodoli, mae newid disgyblaeth dreisgar/gorfodol adref yn delio gyda’r anrhefn ymddygiad (Paterson 2001) • Yr unig blant nad oedd eu hymddygiad ymosodol yn gwella drwy raglen arbennig oedd y rhai yr oedd eu mamau’n defnyddio disgyblaeth dreisgar adref (Webster Stratton 2001)

  13. Cyd-Destun 1: Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • 191 o wledydd wedi cadarnhau. Cadarnhaodd y Deyrnas Unedig yn 1991 • Erthygl 19 - Diogelu rhag trais corfforol .... camdriniaeth gan rieni, gwarcheidwaid, gofalwyr • Erthygl 24 – Cymryd mesurau i ddiddymu arferion traddodiadol yn niweidiol i iechyd plant

  14. Cyd-Destun 2: Ewrop Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol • Erthygl 3 - ni fydd neb yn gorfod dioddef triniaeth neu gosb annynnol neu ddiraddiol • 1998 – Achos A v UK, barnu bod Llyworaeth y DU yn torri Erthygl 3 Siarter Cymdeithasol Ewropeaidd • Erthygl 17 yn galw am waharddiad yn y gyfraith yn erbyn unrhyw fath o drais yn erbyn plant

  15. Cyd-Destun 3: Gwledydd Eraill Mae 23 o wledydd wedi diwygio’r gyfraith ar sail egwyddor er mwyn gwahardd smacio: Yr Almaen (2000) Awstria(1989) Bwlgaria (2000) Chile (2007) Croatia(1999) Cyprus(1994), Denmarc(1997) Ffindir (1983), Groeg (2006) Gwlad yr Iâ(2003) Hwngari (2005) Yr Iseldiroedd (2007) Israel(2000) Iwcrân (2004) Latvia(1998) Norwy(1987) Portiwgal Seland New.(2007) Romania (2004) Sbaen (2007) Sweden(1979), Uruguay (2007) Venezuela (2007) http://www.endcorporalpunishment.org

  16. Sweden 1979 Sweden oedd y wlad gyntaf i wahardd smacio • cefnogaeth y cyhoedd dros gosb gorfforol 53% (1965) i 11% (1994) • dim cynnydd mewn erlyniadau • nifer is o blant mewn gofal • tystiolaeth fod rhieni yn gofyn am help ynghynt • dim cynnydd mewn ymddygiad ‘gwrthgymdeithasol’ (A Generation Without Smacking - SC 2000)

  17. Beth Dywed Plant? • Mae’n gwneud i chi deimlo’n drist’ (merch 8) • ‘Mae’n llosgi eich pen ôl’ (bachgen 5) • ‘Mae’n ofnadwy .... poenus’ (merch 9) • ‘Teimlo fel eich bod yn mynd i farw’ (merch 6) • ‘Teimlo’n sâl’ (bachgen 6) • ‘Tu mewn eich corff yn brifo’ (merch 6) (Children Talk: About Smacking - SC 2003)

  18. Agweddau Llywodraeth • San Steffan yn dweud NA i newid • Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymrwymedig ers Hydref 02 i newid y gyfraith

  19. Llywodraeth Cynulliad Cymru Maes cyfrifoldeb heb ei ddatganoli C C C yn ymrwymedig ers Hydref 02 i newid y gyfraith Gwlad gyntaf y DU i gymryd safiad ar sail egwyddor ac yn gyson wrth gydnabod: • hawliau plant (Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn), • mater amddiffyn plant • rhan o agenda Cam-drin yn y Cartref • angen cefnogaeth rhieni Cyflwyno tystiolaeth sawl gwaith i San Steffan Awyddus i ganfod ffordd i hyrwyddo safiad y Cynulliad

  20. Llyfryn Llywodraeth y Cynulliad • Mae llyfryn ar Rianta Cadarnhaol gyda’r neges “Dim Smacio” yn cael ei ddatblygu drwy’r Fforwm Magu Blant • I fynd gyda “O Amser Brecwast i Amser Gwely” ac “Ymddygiad dros ben llestri ...” http://www.plantyngnghymru.org.uk/areasofwork/parenting/forparents/bookletsforparents/index.html

  21. Pecyn Cymorth Help wrth Law • Pecyn cymorth i newid agweddau ac ymddygiad yn ymwneud â chosb gorfforol plant • Lansiwyd gan SCP! ym Mawrth 2008 • Gall amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolyn ddefnyddio’r deunyddiau • Pecyn cymorth ar y we gyda dolenni i adnoddau eraill a gweithgareddau a dalenni gwybodaeth ar y safle http://www.pecyncymorthhelpwrthlaw.info/

  22. Mae Taro Plant yn Anghywir a Dylair’f Gyfraith Ddweud Hynny! Mae Cosb Gorfforol yn: • torri hawliau dynol plant • achosi niwed ac anaf • aneffeithiol • drais/cam-drin yn y cartref • rhoi’r neges ‘trechaf treised, gwannaf gweidded’ • ychwanegu at lefelau trais yn y gymdeithas

  23. Gair Olaf i’r Plant Ni ddylai person mawr fwrw person bach dim unrhyw un byth Amy 6 oed

More Related