1 / 15

Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd , Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd , Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant. Y Tri Sector Gofal. Edrychwch ar y logos hyn. Pa sefydliadau maen nhw'n eu cynrychioli? Beth yw'r prif wahaniaethau rhyngddyn nhw?. Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant.

astin
Download Presentation

Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd , Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 1: GwasanaethauIechyd, GofalCymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  2. Y Tri Sector Gofal Edrychwch ar y logos hyn. Pa sefydliadau maen nhw'n eu cynrychioli? Beth yw'r prif wahaniaethau rhyngddyn nhw? Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  3. Cyhoeddus, Preifat neu Wirfoddol? Edrychwch ar y lluniau hyn a phenderfynu pa sector gofal maen nhw'n ei ddangos. Yna, cliciwch ar bob delwedd i gael yr ateb. Y sector preifat Y sector preifat Y sector (statudol) cyhoeddus Gwasanaethau nad ydyn nhw'n gwneud elw, ac yn cael eu darparu gan elusennau fel arfer. Maen nhw'n dibynnu ar gyfraniadau, arian y loteri, grantiau gan y llywodraeth a thaliadau eraill. Mae gwasanaethau yn cael eu darparu gan y Llywodraeth, a threthi a chyfraniadau yswiriant gwladol sy'n talu amdanyn nhw’n bennaf. Unigolion neu gwmnïau mawr sy'n berchen ar y gwasanaethau, ac fel arfer maen nhw'n cael eu rhedeg er mwyn gwneud elw ac yn cael eu hariannu drwy godi tâl am y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu. Cliciwch y blychau lliw i gael rhagor o wybodaeth. Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  4. Y Pedwerydd Sector Gofal Mae'r llun hwn yn dangos un sector gofal arall. Ydych chi'n gwybod beth yw hyn? Cliciwch y llun i gael gwybod. Gofal Anffurfiol Gofal sy'n cael ei ddarparu gan unrhyw un nad yw'n cael ei dalu am ei wasanaethau fel perthynas, ffrind neu grwpiau eglwys a grwpiau gwirfoddol. Gall gwasanaethau gynnwys ymolchi, gwisgo, siopa neu goginio. Cliciwch y blwch lliw i gael rhagor o wybodaeth. Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  5. Gwahanol sectorau yn cydweithio Edrychwch ar y delweddau hyn. Sut gallai gwahanol sectorau gydweithio yn y sefyllfaoedd hyn? Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol roi cytundeb i sefydliadau preifat ddarparu gofal preswyl neu ofal cartref nyrsio. Mae gofalwyr anffurfiol yn gweithio gyda'r GIG i roi cymorth i unigolion mewn ysbyty, er enghraifft drwy ddod â dillad glân a bwyd iddyn nhw a chynnig cyswllt cymdeithasol. Pan fydd gwahanol sectorau'n cydweithio, mae'n cael ei alw'n economi gymysg o ofal. Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  6. Gwahanol Sectorau ar waith Cliciwch ar yr eicon fideo i weld clip am Tom sydd â syndrom Down. Mae ei fam yn sôn am y gwahanol wasanaethau mae wedi’u cael. Wrth wylio, meddyliwch am y gwahanol wasanaethau hyn a sut maen nhw wedi effeithio ar Tom. Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  7. Y Sector Statudol: Gofal Iechyd Mae gofal iechyd yn y sector hwn yn cael ei ddarparu mewn ysbytai ac yn y gymuned gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau'r GIG am ddim yn y man darparu. Allwch chi feddwl am wasanaethau efallai y bydd rhaid i chi dalu amdanyn nhw? Gwasanaethau deintyddol Wigiau a chymhorthau ffabrig (bra ar ôl llawdriniaeth, gwregysau i'r stumog neu'r asgwrn cefn) ? Profion llygaid ? Gwasanaethau i dalu amdanynt Ambell daith ambiwlans Mae pobl sydd ar incwm isel, pobl sydd â chyflyrau iechyd penodol neu bobl mewn rhai grwpiau oedran yn cael eu heithrio rhag talu'r ffioedd hyn. Cliciwch ymai gael manylion. Doleniwefan BMA Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  8. Gwasanaethau Iechyd Cymunedol Meddygon teulu Deintyddion Fferyllwyr Optegwyr Hosbisau Gwasanaethau Adsefydlu Y Sector Statudol : Strwythur Gofal Iechyd Gwasanaethau Gofal Sylfaenol: Dyma gam cyntaf y driniaeth pan fydd rhywun yn sâl – ac mae'n cael ei darparu gan wasanaethau yn y gymuned e.e. canolfannau iechyd, optegwyr. Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd Yr Adran Iechyd a Gweithrediaeth y GIG Gofal trydyddol: Dyma drydydd cam y driniaeth ac mae'n arbenigol dros ben. Mae'n cael ei darparu fel arfer mewn hosbis neu ganolfan ysbyty arbenigol. Gofal eilaidd: Dyma ail gam y driniaeth pan fydd rhywun yn sâl ac mae'n cael ei darparu fel arfer gan ysbyty. Awdurdodau Iechyd Strategol Ymddiriedolaethau'r GIG (Gofal Eilaidd) Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Gofal Trydyddol Gofal Iechyd Sylfaenol Gofal Iechyd Eilaidd Gofal Iechyd Trydyddol Gwasanaethau Anabledd Dysgu Ysbytai Gwasanaethau Iechyd Meddwl Ambiwlansys Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  9. Y Sector Statudol: Gwasanaethau Gofal Iechyd Pa wasanaethau gwahanol sydd ar gael ar gyfer y grwpiau defnyddwyr isod? Cofnodwch eich syniadau isod neu glicio yma i gael tabl gwag i'w lenwi. Oedolion ac unigolion hŷn Babanod a phlantifancUnigolion â phroblemauiechydmeddwl Babanod a phlantifanc Cliciwch i ddatgelu rhai o'r gwasanaethau y gallech eu cynnwys. Gofal Iechyd Sylfaenol Meddygon teulu, nyrsys, deintyddion Hybu Iechyd Therapi galwedigaethol Podiatreg Adsefydlu Cynllunio teulu Gwasanaethau mamolaeth Meddygon teulu, nyrsys, ymwelwyr iechyd Gwasanaethau ysbytai Therapi lleferydd Seicoleg plant Gwasanaethau llygaid Gwasanaeth amddiffyn plant Therapyddion Meddygon teulu, Seiciatrig Gymunedol Ysbyty dydd Therapi grŵp Canolfan ddydd galw heibio Cwnsela Seicotherapyddion Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  10. Y Sector Statudol: Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol sy'n darparu gwasanaethau cymdeithasol a'r llywodraeth ganolog sy'n talu amdanyn nhw drwy ddefnyddio'r dreth incwm. Maen nhw ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Pa Wasanaethau Cymdeithasol gwahanol y gellid eu darparu i'r unigolion canlynol? Cofnodwch eich syniadau isod neu glicio yma i gael tabl gwag i'w lenwi. Unigolion hŷn Unigolionaganableddau Plant a theuluoedd Cliciwch i ddatgelu rhai o'r gwasanaethau y gallech eu cynnwys. Gofal Cartref Cludiant Gofal dydd Tai â chymorth/tai gwarchod Cefnogaeth i blant ag anableddau Cymorth teuluol Gwasanaethau maethu a mabwysiadu Gofal Cartref Gofal seibiant Gofal dydd Cludiant Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  11. Y Sector Statudol: Gwasanaethau Plant Awdurdodau Lleol yn bennaf drwy eu Hadrannau Addysg. Gelwir y rhain yn AALlau. Allwch chi feddwl am rai o'r Gwasanaethau maen nhw'n eu darparu? Cofnodwch eich syniadau, yna cliciwch i weld ein hawgrymiadau. Cofnodwcheichsyniadau yma: • Caiff llefydd am ddim mewn ysgol eu darparu i bob plentyn o 'oed ysgol gorfodol' (5 oed). • Caiff llefydd am ddim mewn sefydliadau addysg gynnar eu darparu i blant 3 a 4 oed. • Cofrestru a monitro darparwyr gwasanaethau plant eraill, fel gwarchodwyr plant a meithrinfeydd preifat. Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  12. Y Sector Annibynnol: Preifat Mae gwasanaethau'r sector preifat yn gweithredu'n annibynnol ar y sector statudol ond mae rhaid iddyn nhw gydymffurfio o hyd â deddfwriaeth a chanllawiau'r llywodraeth. Fel arfer maen nhw'n cael eu rhedeg fel busnesau ac yn cael eu hariannu drwy ffioedd sy'n cael eu codi am y gwasanaethau. Allwch chi feddwl am wasanaethau eraill y sector preifat sydd ar gael yn y tri chategori hyn? Cofnodwch eich syniadau isod. GofalIechyd GofalCymdeithasol Gwasanaethau Plant Cliciwch i ddatgelu rhai o'r gwasanaethau y gallech eu cynnwys. Cartrefi preswyl Cartrefi Nyrsio Gofal Cartref Gofal dydd Meithrinfeydd Ysgolion preifat Ysbytai Canolfannau triniaeth arbenigol e.e. optegwyr Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  13. Y Sector Annibynnol: Gwirfoddol Elusennau ydy mudiadau'r sector gwirfoddol ac maen nhw'n cael eu hariannu'n bennaf drwy gyfraniadau a grantiau. Fel arfer maen nhw'n canolbwyntio ar afiechydon, cyflyrau ac anableddau penodol. Edrychwch ar y gwahanol elusennau gofal hyn. Ar ba sector gwasanaeth y maen nhw'n canolbwyntio? Gwasanaethau Plant Iechyd Gofal Cymdeithasol Allwch chi feddwl am fudiadau eraill y sector gwirfoddol sy'n cynnig darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol? Cliciwch yma i gael tabl gwag i'w lenwi. Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  14. Cyhoeddus, Preifat a Gwirfoddol Ewch ati i baru'r datganiadau isod â'r sectorau cywir. Cliciwch bob un i ddangos y lliw sy'n cyfateb i'r sector ar y dde. Maennhw'ncaeleuhariannudrwygoditâlam wasanaethau Maen nhw'n canolbwyntio'n aml ar afiechydon, cyflyrau ac anableddau penodol Yn cynnwys elusennau cofrestredig Sector cyhoeddus(1 cliciwch) Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau am ddim Maen nhw'n cael eu hariannu gan y Llywodraeth drwy drethi Mae'r rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau yn fyrrach fel arfer Sector preifat (2 cliciwch) Maen nhw'n cael eu hariannu drwy gyfraniadau a grantiau Maen nhw'n cael eu rhedeg fel busnesau Mae'n rhaid talu am ambell wasanaeth Sector gwirfoddol (3 cliciwch) Mae'n darparu lle am ddim mewn ysgol i bob plentyn dros 5 oed Mae'n bosib bod y cyfleusterau'n well Y GIG yw'r prif ddarparwr gwasanaeth Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

  15. Darpariaeth gwasanaeth yn eich ardal leol Rydych chi wedi bod yn meddwl am yr amrywiaeth o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant sydd ar gael. Ewch ati nawr i wneud eich ymchwil eich hun er mwyn gweld beth yw'r ddarpariaeth yn eich ardal leol a'i disgrifio. Cliciwch yma i agor tablau gwag y gallwch chi eu defnyddio i gofnodi'ch ymchwil a chreu cyfeiriadur o wasanaethau. Modiwl 1: Gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant

More Related