1 / 27

Modiwl 6: Rheoli eich arian – benthyca

Modiwl 6: Rheoli eich arian – benthyca. Amcanion y modiwl

Download Presentation

Modiwl 6: Rheoli eich arian – benthyca

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 6: Rheoli eich arian – benthyca

  2. Amcanion y modiwl • Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae ‘egwyddorion sylfaenol benthyca’ yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru. • Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun ‘benthyca arian’. • Sylwch: Bydd gwahaniaethu, syniadau ymestyn a chwestiynu effeithiol yn cael eu hawgrymu'n aml yn y nodiadau o fewn y PowerPoint i athrawon/hyfforddwyr eu defnyddio yn ôl yr angen.

  3. Nodau’r dysgwyr • Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r egwyddorion sylfaenol sy’n gysylltiedig â’r broses o ‘fenthyca arian’. • Bydd dysgwyr yn gallu: • esbonio ystyr ‘benthyca’, ‘benthyg’, ‘credyd’ a ‘dyled’ • ystyried cynilo fel dewis arall i fenthyca • disgrifio rhai cwestiynau allweddol i’w gofyn wrth ystyried mynd i ddyled • rhestru rhai gwahanol fathau o fenthyca a dyled • nodi’r manteision a’r anfanteision ar gyfer rhai mathau cyffredin o fenthyca. • Gellir defnyddio’r modiwl hwn ar draws Cyfnodau Allweddol 3 a 4. Bydd nodau gwahanol gan y dysgwyr, a bydd rhai ohonyn nhw’n cynnwys y pwyntiau uchod.

  4. Cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh a gweld ble mae ‘deall egwyddorion benthyca arian’ yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.Mae deilliannau dysgu sy’n gysylltiedig â benthyca wedi’u marcio mewn teip trwm yn y tabl.

  5. Mae’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu gallu i reoli eu harian.Tynnir sylw at y rhain mewn teip trwmar y sleid nesaf.

  6. Ddylwn i fenthyca? Gweithgaredd cychwynnol: Trafodaeth Pam mae pobl yn benthyca arian?

  7. Gweithgareddau benthyca • Gweithgaredd 1: Ffyrdd o fenthyca arian • Gweithgaredd 2: Cwestiynau pwysig i’w gofyn/hystyried wrth fenthyca arian • Gweithgaredd 3: Ystyried yr opsiynau benthyca arian i brynu car • Gweithgaredd 4: Deall y termau ‘benthyciwr’, ‘rhoddwr benthyg’, ‘credyd’ a ‘dyled’ • Gweithgaredd 5: Beth yw credyd a dyled? • Gweithgaredd 6: Dweud ie neu na i ddyled • Gweithgaredd 7: Llythyrau at Jade • Gweithgaredd 8: Byw nawr, talu wedyn

  8. Gweithgaredd 1: Ffyrdd o fenthyca arian Ble neu gan bwy fydd pobl yn benthyca arian?

  9. Gweithgaredd 1: Ffyrdd o fenthyca arian Benthyciad banc Ffrindiau/ teulu Benthyciwr stepen y drws Cwmnïau arian Gorddrafft banc Cerdyn credyd Benthycwyr arian didrwydded Hurbwrcas Benthyciad undeb credyd Cyfrif cerdyn siop Benthyciad diwrnod tâl Catalog

  10. Gweithgaredd 2: Cwestiynau pwysig i’w gofyn/hystyried wrth fenthyca arian Defnyddiwch ‘Taflen weithgaredd rheoli arian: Ddylwn i fenthyca?’. Mae dysgwyr yn cael y senario canlynol. Mae dysgwyr yn cael rhestr o 10 cwestiwn y dylai Geoff eu hystyried neu eu gofyn i’r banc. Mae’n rhaid i’r dysgwyr benderfynu ar bwysigrwydd pob un. Mae swydd newydd gan Geoff yn y dref. Mae e am brynu beic a fyddai’n golygu benthyca arian o’r banc.

  11. Gweithgaredd 3: Ystyried yr opsiynau benthyca arian i brynu car Adnodd:Rheoli Arian, Gweithgaredd 13, ‘Fy nghar cyntaf’ (tudalennau 101–105) Lawrlwytho’r adnodd yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/atebol/maths/cym/index.html

  12. Gweithgaredd 3: Ystyried yr opsiynau benthyca arian i brynu car Fy nghar cyntaf Mae’r adnodd yn rhoi wyth math o opsiwn benthyca i’r dysgwyr i fenthyca £2,000 dros flwyddyn. Rhoddir y cyfraddau canran a’r cyfanswm i’w ad-dalu hefyd. Mae hyn yn cyflwyno’r dysgwyr i’r cysyniad o dalu yn ôl mwy na’r hyn rydych yn ei fenthyca. Nid yw’r gweithgaredd yn defnyddio APR (sy’n cael sylw yng Ngweithgaredd 5). Gall athrawon argraffu’r adnodd a gadael allan y swm ‘talu yn ôl’. Y dasg fyddai i’r dysgwyr gyfrifo faint sydd angen ei dalu yn ôl gan ddefnyddio’r cyfraddau canran a nodir.

  13. Gweithgaredd 4: Deall y termau ‘benthyciwr’, ‘rhoddwr benthyg’, ‘credyd’ a ‘dyled’ Adnodd:Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Dylai’r gweithgaredd Testun 4 ‘Beth yw credyd a dyled?’ (tudalennau 36–37) gael ei ddefnyddio gyda Thaflen adnoddau 1 (tudalen 41). Lawrlwytho’r adnodd ynwww.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy

  14. Rhoddwr benthyg Benthyciwr Credyd Dyled Gweithgaredd 4: Deall y termau ‘benthyciwr’, ‘rhoddwr benthyg’, ‘credyd’ a ‘dyled’ Gweithgaredd trafod: Beth yw ystyr y termau hyn? Gweler Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru ,Testun 4 'Beth yw credyd a dyled?' (tudalennau 36–37) a Thaflen adnoddau 1 (tudalen 41).

  15. Gweithgaredd 5: Beth yw credyd a dyled? Adnodd:Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Dylai’r gweithgaredd Testun 4 ‘Beth yw credyd a dyled?’ (tudalennau 36–37) gael ei ddefnyddio gyda Thaflenni adnoddau 2 a 3 (tudalennau 42–43) o’r enw ‘Cardiau ysgogi’ a ‘Thabl APR’. Lawrlwytho’r adnodd yn www.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy

  16. Gweithgaredd 5: Beth yw credyd a dyled? Beth yw credyd a dyled? Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys trafodaeth am APR. Mae’r dysgwyr yn cael dewis o wyth cerdyn ysgogi (pedair enghraifft isod).

  17. Gweithgaredd 5: Beth yw credyd a dyled? • Beth yw credyd a dyled? • Mae’r cwestiynau isod yn ceisio annog trafodaeth am yr wyth math o fenthyca a gwerthoedd APR. • Beth ydych chi’n ei wybod ac yn teimlo am bob math o fenthyca? • Pa fathau o fenthyca allech chi ystyried eu defnyddio a phryd? • Pa rai allech chi ystyried eu hosgoi a pham?

  18. Gweithgaredd 6: Dweud ie neu na i ddyled Adnodd: Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru Dylai gweithgaredd Testun 4 ‘Dweud ie neu na i ddyled’ (tudalennau 38–39) gael ei ddefnyddio gyda Thaflenni adnoddau 4–6 (tudalennau 44–48). Lawrlwytho’r adnodd yn www.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy

  19. Gweithgaredd 6: Dweud ie neu na i ddyled • Mae’r gweithgaredd yn ystyried rhai sefyllfaoedd pan fydd rhywun yn meddwl mynd i ddyled (cael benthyciad). • Mae’r dysgwyr yn darllen y senarios ac yn penderfynu beth ddylai pob person ei wneud. • Mae rhai cwestiynau i’w gofyn i’r dysgwyr yn cynnwys y canlynol. • Pa fenthyciwr sy’n cynnig yr opsiwn gorau? • All y benthyciwr fenthyca llai? • Oes gwir angen iddo ei brynu? • Allen nhw cynilo i’w brynu yn lle hynny?

  20. Gweithgaredd 7: Llythyrau at Jade Adnodd: Taflen adnoddau rheoli arian: Llythyrau at Jade Gweithgaredd: Mae’r dysgwyr yn darllen y llythyrau at Jade ac yn trafod ei hamgylchiadau ariannol gwahanol dros gyfnod o 25 mlynedd.

  21. Gweithgaredd 7: Llythyrau at Jade Llythyrau at Jade Mae’r gweithgaredd hwn yn adrodd hanes menyw ifanc ffug o’r enw Jade Carpenter drwy gyfres o lythyrau wedi’u hysgrifennu ati gan wahanol bobl a sefydliadau. Mae’r llythyrau i gyd am arian ac maen nhw’n dangos hanes Jade yn raddol mynd i ddyled. Mae’r llythyr cynted wedi’i ddyddio 2000, pan oedd Jade yn 10 oed, ac mae’r llythyr olaf, Dyfarniad Llys Sirol, wedi’i ddyddio 2025, pan mae hi’n 35 oed.

  22. Gweithgaredd 8: Byw nawr, talu wedyn Adnodd: Rheoli Arian Gweithgaredd 14, ‘Byw nawr, talu wedyn’ (tudalennau 107–111) Lawrlwytho’r adnodd yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=44956&lang=cy

  23. Gweithgaredd 8: Byw nawr, talu wedyn Mae rhan gyntaf y gweithgaredd hwn ar ffurf cwis. Mae’r dysgwyr yn ymateb i 10 datganiad sy’n dangos eu hymagwedd at gredyd a dyled. Mae ail ran y gweithgaredd yn dasg ‘gwybodaeth doredig’ am gymeriad o’r enw Joy sydd wedi mynd i ddyled. Mae’r dysgwyr yn rhannu’r wybodaeth ar y cardiau er mwyn creu darlun llawn o’r hyn sydd wedi mynd o’i le i Joy a sut y gellid fod wedi osgoi ei thrafferthion ariannol. Mae cynllun gweithgaredd manwl yn cael ei roi gyda’r adnodd.

  24. Rhagor o adnoddau: Adding up to a lifetime Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 i Gyfnod Allweddol 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl: • Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn) • Bywyd gwaith • Perthnasoedd • Bywyd newydd • Ymddeoliad egnïol. www.addinguptoalifetime.org.uk Mae amrywiaeth o bynciau rheoli arian wedi’i chynnwys. Mae tiwtorial sain gyda phob modiwl y gallwch wrando arno yn Gymraeg neu yn Saesneg.

  25. Gwefannau ac adnoddau • www.moneyadviceservice.org.uk/cyMae’n rhoi cyngor a llyfrynnau gwybodaeth am ddim. Gweler y llyfryn perthnasol ar gyfer y modiwl hwn o’r enw ‘Borrowing money’. • www.barclaysmoneyskills.com/en/Information/resource-centre.aspxPecyn Adnoddau Cyfnod Allweddol 2 Sgiliau Arian Barclays (lawrlwytho).Pecyn Adnoddau Cyfnod Allweddol 3 Sgiliau Arian Barclays (lawrlwytho).Pecyn Adnoddau Cyfnod Allweddol 4 Sgiliau Arian Barclays (lawrlwytho). • www.pfeg.org Mae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. • www.nationwideeducation.co.uk/finance-education/personal/teachers/04-11_counting-on-cost-of-money/fact-work-sheets-welsh.phpSgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau* a thaflenni gwaith*i ddysgwyr 4 i 18 a mwy (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein). * Fersiynau Cymraeg ar gael. • www.bbc.co.uk/learningzone/clips/cashk-tz-pt-2-3-credit/12162.html Clip cartŵn pum munud yn dangos sut y mae prynu eitem ar gerdyn credyd yn arwain at dalu mwy (addas i ddysgwyr Blwyddyn 7).

More Related