1 / 17

Lluniwch restr o’r defnyddiau y gallech eu defnyddio. Cortyn Glud Papur sidan Plastr Paris Ffabrig

Lluniwch restr o’r defnyddiau y gallech eu defnyddio. Cortyn Glud Papur sidan Plastr Paris Ffabrig Glanhawyr pibell Papur wal Secwins sy’ dros ben Tywod Allwch chi feddwl am fwy?. Gwead.

dooley
Download Presentation

Lluniwch restr o’r defnyddiau y gallech eu defnyddio. Cortyn Glud Papur sidan Plastr Paris Ffabrig

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Lluniwch restr o’r defnyddiau y gallech eu defnyddio. Cortyn Glud Papur sidan Plastr Paris Ffabrig Glanhawyr pibell Papur wal Secwins sy’ dros ben Tywod Allwch chi feddwl am fwy? Gwead Mae’r arlunydd Emrys Williams yn defnyddio gwead yn ei luniau er mwyn rhoi naws i’w waith. Sut allwn ni greu gwead yn ein lluniau?

  2. Beth yw gwead? Gwead yw’r swmp sydd i arwyneb. Gall gwead hefyd gyfleu sut deimlad all fod i’r arwyneb. Dyma rai geiriau i ddisgrifio gwead: garw llyfn pigog tolciog gwastad tonnog Allwch chi feddwl am fwy? Chwiliwch am wead yn eich ystafell ddosbarth? Ewch ar ‘Helfa Drysor’ o amgylch y dosbarth. Sut fyddwch chi’n cofnodi’r gweadau hyn? Gwnewch rwbiad gwead Creon cwyr trwchus Papur cetris Gosodwch y papur dros yr arwyneb gweadog a rhwbiwch gan ddefnyddio ymyl y creon cwyr. Lluniwch gasgliad dosbarth o’ch rhwbiadau. Pa batrymau welwch chi? Mae’r arlunydd Emrys Williams yn symud y paent yn gelfydd o gwmpas y cynfas er mwyn creu gwead yn ei waith.

  3. Gludwch bapur sidan, cortyn, gwlân, modroc ar gerdyn er mwyn creu gwahanol effeithiau gweadol. Paentiwch pan fyddan nhw wedi sychu. Her: Chwiliwch am ffyrdd o greu gwead yn eich gwaith drwy ddefnyddio technegau cyfrwng cymysg. Taenwch lanwydd mewnol ar gerdyn. Gwnewch olion gweadog yn y llanwydd. Gadewch i sychu. Paentiwch er mwyn tynnu sylw at y gwead.

  4. Mae’r arlunydd Ivor Davies yn casglu gwrthrychau a defnyddiau diddorol yn ei stiwdio. Bydd e’n defnyddio’r rhain i greu ei gyfosodiadau cyfrwng cymysg. Bydd arlunwyr yn aml yn creu gwaith drwy ddefnyddio casgliad o ddefnyddiau. Cyfrwng cymysg yw’r enw ar hyn.

  5. Yn ei stiwdio, mae Ivor Davies yn siarad am ei waith gyda grŵp o blant. Pa gwestiynau fyddech chi’n eu gofyn i’r arlunydd?

  6. Sut allwn ni gofnodi gwahanol weadau? Gwnewch rwbiadau gweadol. Tynnwch ffotograffau o arwynebau diddorol. Gwnewch frasluniau o’r patrymau r’ych chi’n gallu’u gweld. Casglwch, torrwch a gludwch ddefnyddiau gweadol diddorol ar eich taflen ymchwil. Edrychwch ar eich taflenni ymchwil a siaradwch am eich gwaith. Lluniwch oriel o weadau yn eich ystafell ddosbarth. Her: Lluniwch ‘Oriel o Weadau’.Casglwch a chofnodwch weadau diddorol.

More Related