1 / 11

O ddrylliog ddinas Bethlehem

O ddrylliog ddinas Bethlehem. ‘Mae gen i fwy o fywyd i’w fyw’. Bethlehem heddiw. Prin yw’r gobaith heddiw yn Ninas Ddrylliog Bethlehem Ar draws Israel a thir meddiant Palestina mae llawer o blant yn byw mewn ofn a dychryn oherwydd y trais a’r rhyfela. Bethlehem heddiw.

emmy
Download Presentation

O ddrylliog ddinas Bethlehem

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. O ddrylliog ddinas Bethlehem

  2. ‘Mae gen i fwy o fywyd i’w fyw’

  3. Bethlehem heddiw Prin yw’r gobaith heddiw yn Ninas Ddrylliog Bethlehem Ar draws Israel a thir meddiant Palestina mae llawer o blant yn byw mewn ofn a dychryn oherwydd y trais a’r rhyfela.

  4. Bethlehem heddiw Lleolir tref hynafol Bethlehem ar y Lan Orllewinol, tua phum milltir o Jerwsalem (Meddianwyd y Lan Orllewinol, gan gynnwys Dwyrain Jerwsalem a Llain Gasa gan Israel ers 1967)

  5. Mudiad y YMCA Mae’r YMCA, partner Cymorth Cristnogol yn cynnal rhaglenni datblygu ar y Lan Orllewinol, yn ardal Beit Sahour. Mae’n cynnig gwasanaeth cynghori, ac adferiad corfforol a hyfforddiant swyddi ar gyfer y rhai ag anafwyd yn feddyliol ac yn gorfforol gan y gwrthdaro.

  6. Mae Noor Rabia yn 17 oed. Collodd ei law dde mewn ffrwydrad tair blynedd yn ôl Collodd ei hunan hyder yn llwyr a gadawodd yr ysgol.

  7. Diolch i’r YMCA, anfonwyd Fatin al Shoppi i gynghori Noor. Yn ystod y dair blynedd ddiwethaf cafodd gymorth i fedru delio â’i golled, dychmygu dyfodol gwahanol, a derbyn arian i brynu llaw brosthetig.

  8. Gobaith am ddyfodol newydd ‘Gwnaeth Fatin i mi weld fod gen i fwy o fywyd i’w fyw – mwy o obaith.’ Bellach, dychwelodd Noor i’r ysgol ac mae’n gallu paratoi yn well ar gyfer ei ddyfodol.

  9. Beth am estyn cymorth i blant tebyg i Noor y Nadolig hwn? Gall £8.50 dalu am sesiwn grŵp therapi celf i blentyn sy’n dioddef trawma. Gall £25 ariannu diwrnod o hyfforddiant galwedigaethol yn y grefft o gerfio pren olewydd, i berson anabl. Gall £55 gynnig sesiwn deuddydd o gynghori i blentyn a brofodd trawma seicolegol.

  10. Arwain ni i Fethlehem Arglwydd. Dangos eto’r baban Iesu – Brenin y Brenhinoedd mewn preseb. Atgoffa ni dy fod wedi dod atom, heb rwysg, ond mewn cariad tawel, afrad yn sibrwd chwyldro: ‘rhyddid rhag gormes a newydd da i’r tlawd’. Arwain ni i fannau drylliedig – defnyddia ni i adeiladu gobaith a gweithio i’w trawsnewid. Amen. ‘

  11. www.christianaid.org.uk/christmas

More Related