1 / 3

Nodiadau Athro – Dadansoddi cynnyrch – pwrpas.

Nodiadau Athro – Dadansoddi cynnyrch – pwrpas.

ginata
Download Presentation

Nodiadau Athro – Dadansoddi cynnyrch – pwrpas.

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Nodiadau Athro – Dadansoddi cynnyrch – pwrpas. Y cefndir – Mae hi’n dibynnu ym mha drefn rydych yn penderfynu cwblhau’r uned hon – steil o flaen pwrpas, pwrpas o flaen steil – sefyllfa’r iâr a’r wy. Mae dadl y dylai ffurf ddilyn pwrpas – ond yn ein profiad ni mae’r disgyblion yn teimlo’n gartrefol wrth ddefnyddio agweddau esthetig cynnyrch fel man cychwyn. Rydym yn newid o flwyddyn i flwyddyn felly rydym wedi cynnwys sleid dyblyg ar ddechrau’r cyflwyniadau ar steil a phwrpas. Y cefndir – Arwain disgyblion i edrych yn feirniadol ar gynnyrch. Yn ein profiad ni mae hyn yn allweddol ar gyfer gwella’u sgiliau dylunio. Pwynt dysgu/trafod posibl Amlinellu’r rhesymau pam bod dadansoddi cynnyrch yn arf defnyddiol i bob dylunydd/disgybl e.e. cymharu pwrpas, siap, maint, defnyddiau. Mae dadansoddi cynnyrch yn ddull posibl o hybu cynhyrchu syniadau h.y. bagiau dylunwyr eraill fel ffynhonell ysbrydoliaeth. Gellid cynnwys trafodaeth ar hawlfraint yma. Y cefndir –Crëwyd y dudalen hon er mwyn cyfleu i’r disgyblion amlinelliad eang o’r holl nodweddion y gellir eu hystyried wrth ddadansoddi cynnyrch bag. Rydym wedi nodi pwrpas a steil fel y ddau brif agwedd ffocws i’w dadansoddi. Mae agweddau eraill wedi cael eu cynnwys ond nid ydynt yn nodau allweddol – byddwn yn delio â’r rhain yn nes ymlaen yng Nghyfnod Allweddol 3 e.e. grwpiau targed, y tymhorau, ayyb. . Pwynt dysgu/trafod posibl e.e. mae’r sleid cyflwyniad yn ceisio gwneud i’r disgyblion feddwl am y prif nodweddion y bydd angen iddynt eu hystyried wrth ddadansoddi bag ac, yn dilyn o hynny, wrth gynllunio cynnyrch bag.

  2. Y cefndir – Mae cyswllt yn cael ei sefydlu â’r dudalen flaenorol trwy leihau’r deiagram chwalu syniadau a’i osod yn y gornel top ar y chwith. Mae’r cylch coch yn pwysleisio ffocws y dadansoddi – pwrpas. Mae Flash ar gael i’w lwytho i lawr ac mae hyn yn caniatau’r disgyblion i lusgo a gollwng gwrthrychau i mewn i’r bag. Mae hi’n bosibl symud rhai o’r gwrthrychau’n defnyddio’r sleid cyflwyniad hwn – ond nid yn y fformat ‘View Show’. Pwynt dysgu/trafod posibl – Pwrpas bag – a yw’n dylanwadu ar ei siap? Ydy pwrpas yn allweddol bob tro wrth benderfynu ar siap bag? Pam mai cynnyrch ar steil ysgrepan yw’r mwyafrif o fagiau ysgol? Ydyn nhw’n gallu enwi bagiau sydd wedi’u cynllunio’n unswydd i ateb pwrpas. Pa fath o fagiau sy’n trendi ar hyn o bryd a pham? Efallai y bydd rhai o’r cynnyrch sy’n cael ei ddarlunio’n ysgogi trafodaeth. Y cefndir – Dyma esiampl o dudalen yn llyfryn y disgyblion. Rydym wedi canfod y strategaeth ganlynol yn ddefnyddiol – arddangos tudalen y mae’r disgyblion ar fin ei chwblhau ar y sgrîn (tudalen sydd ddim wedi cael ei chwblhau). Yna, un ai cwblhau’r dudalen ar y sgrîn gyda’r disgyblion neu ddangos taflenni papur sydd wedi cael eu cwblhau’n rhannol. Un o’n hamcanion yma yw gwella iaith dechnegol y disgyblion neu eu gwybodaeth o eiriau disgrifio sy’n berthynol i decstilau. Pwynt dysgu/trafod posibl – Caiff y disgyblion ‘gasgliad bagiau i’w trin.’ Gallai’r rhain fod un ai’n fagiau sydd wedi gael eu gwneud gan ddisgyblion blaenorol neu eu bagiau ysgol personol hwy. Gofynnir i’r disgyblion nodi agweddau cadarnhaol y bagiau gyda golwg ar gynnwys y nodweddion hynny yn eu gwaith dylunio eu hunain. .

  3. Y cefndir – Mae lluniau mawr o’r bagiau’n hawdd iawn i bawb eu gweld, mae hyn yn galluogi’r disgyblion i gyd i gymryd rhan yn y drafodaeth. Pwynt dysgu/trafod posibl – Anogir y disgyblion i egluro’u rhesymau pam bod agwedd o’r dyluniad bag yn nodwedd gadarnhaol – mae’n rhaid cyfiawnhau rheswm fel pocedi e.e. pocedi mawr neu bocedi gyda ffasner sip i’w gwneud yn ddiogel. Mae pob ateb yn gynyddol fwy manwl ac o’r herwydd gallant ddangos dyfnder eu dealltwriaeth. Anogir hyn ym mhob un o’r tasgau dadansoddi cynnyrch. Gallai esiampl arall gynnwys y strapiau – mae strapiau llydan yn gwneud y bag yn haws i’w gario neu mae’r strapiau llydan yn gwasgaru pwysau’r bag dros yr ysgwyddau ayyb.

More Related