1 / 13

Isotopau Diffyg Màs E = mc 2

Egni Niwclear. Isotopau Diffyg Màs E = mc 2. Isotopau.

gunda
Download Presentation

Isotopau Diffyg Màs E = mc 2

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Egni Niwclear Isotopau Diffyg Màs E = mc2

  2. Isotopau Diolch i'r sbectromedr màs, llwyddodd Ffisegwyr i fesur màs atomau elfennau. Yn y ffordd hon, gwnaethant ddarganfyddiad nodedig, sef nad oes gan atomau o elfen benodol yr un màs bob amser. Y peth sy'n gyffredin i bob un ohonynt yw eu gwefr bositif! niwtron Efelychiad sbectromedr màs Dau isotop hydrogen

  3. Isotopau Mewn geiriau eraill, atomau yw isotopau sydd â'r un rhif atomig, ond rhifau màs gwahanol. Arweiniodd hyn at chwilio am ronyn is-atomig ychwanegol a fyddai'n gyfrifol am y màs ychwanegol, ond a fyddai heb wefr. Y gronyn ychwanegol hwn yw'r NIWTRON. Parwch y termau â'r diffiniadau cywir. Niwclid Y nifer o brotonau yn y niwclews. Mae'n dweud pa elfen yw'r niwclid Rhif Màs Atom ag adeiledd niwclear penodol. Rhif Atomig Gronyn niwclear Niwcleon Cyfanswm y nifer o niwcleonau yn y niwclews

  4. Isotopau Rhowch gylch o amgylch isotopau'r un elfen â'r un lliw. 12 12 14 13 X X X X 6 5 6 6 Mae hyn yn gywir Rhif màs A = N + Z 12 12 X C 6 6 Rhif atomig Z = nifer o brotonau Y symbol cemegol ar gyfer yr elfen hon

  5. Isotopau Mae gan rai elfennau nifer fawr o isotopau. Mae rhai isotopau'n ansefydlog, sy'n golygu y byddant yn dadfeilio'n ddigymell i ffurfio niwclysau mwy sefydlog trwy allyrru gronynnau ac egni. Fodd bynnag, mae'r ganran o isotopau o elfen benodol a gloddir ar y Ddaear yn hynod o gyson waeth ym mha ran o'r Byd y cafodd ei hechdynnu.

  6. Uned màs atomig Gan fod màs atomau a niwcleonau'n rhy fach i gael eu mesur gyda dulliau confensiynol, mae hefyd yn gyfleus diffinio’r uned màs atomig (u): 1 u = 1.660566 x 10-27 kg Yn yr unedau hyn masau proton, niwtron ac electron yw: mp = 1.007276 u mn = 1.008665 u me = 0.000549 u

  7. Diffyg màs 40 20 Màs atomig Ca yw 39.96259 u. Cyfrifwch gyfanswm màs y gronynnau sy'n gwneud yr atom Ca. 40 20 Mae'r isotop Ca a ystyrir uchod wedi'i ffurfio o 20 proton, 20 nwitron a 20 electron: 20 x 1.00728 u + 20 x 1.00867 u + 20 x 0.00055 u = 40.3300 u Pam mae hyn yn digwydd? Ymddengys bod y ddeddf cadwraeth màs wedi’i thorri. Yn wir mae màs y gronynnau unigol yn fwy na'u màs pan gaiff pob un ohonynt eu ffitio i mewn i atom sengl.

  8. Diffyg màs Yr unig ffordd o esbonio canlyniad y tryloywder blaenorol yw trwy ddamcaniaeth Perthnasedd Einstein lle mae'n hafalu egni E â'r swm cywerth o fàs m drwy'r hafaliad enwocaf yn Ffiseg: Y gormodedd o fàs a gyfrifwyd gennym yn y gronynnau unigol sy'n ffurfio'r isotop o Ca yw cywerthedd màs yr egni sydd ei angen i wahanu'r atom i'w ronynnau unigol Dm.

  9. Diffyg màs Gallwn gyfrifo Dm. 39.96259 u + Dm = 40.33000 u Dm = 40.33000 u – 39.96259 u = 0.36741 u Yr enw ar y gwahaniaeth hwn rhwng màs atom a'i ronynnau unigol yw DIFFYG MÀS Dm. Màs y gronynnau unigol Màs yr atom cyfan Cywerthedd màs yr egni i wahanu atom

  10. Diffyg màs Nid yw'r diffyg màs hwn yn ymddangos yn fawr o’i gymharu â'r ddau fàs a gyfrifwyd, ond yr hyn mae'n ei ddweud wrthym yw faint o egni sy’n cael ei ryddhau pan gaiff atom ei ffurfio o'i ronynnau cyfansoddol: DE = Dmc2 Cyfrifwch DE ar gyfer yr enghraifft a astudiwyd. DE = Dmc2 = (0.36741 x 1.66056 x 10-27 kg) x (2.998 x 108 m/s)2 = 5.484 x 10-11 J A yw hwn yn egni mawr neu bach?

  11. Diffyg màs Mae'n haws mynegi egnïon mewn adweithiau niwclear mewn electron-foltiau na jouleau. Electron-folt yw: 1 eV = 1.60 x 10-19 J 1 MeV = 1.60 x 10-13 J Ymchwiliwch i, a disgrifiwch ddiffiniad geiriol o’r electron-folt. Beth yw cywerthedd egni y diffyg màs yn y broblem a astudiwyd? DE = 5.484 x 10-11 J / 1.602 x 10-19 J = 342.4 MeV

  12. Diffyg màs Cyfrifwch gywerthedd egni 1 uned màs atomig. m = 1 u = 1.66 10-27 kg E = mc2 = 1.66 10-27 kg x (3 x 108)2= 1.494 x 10-10 J = = 931 MeV Mewn gwirionedd, 1 MeV = 1.6 x 10-13 J 1 u = 931 MeV Ac ar gyfer y gwahaniaeth màs Dm yn yr enghraifft yw: 0.36741 x 931 MeV = 342.4 MeV

  13. Diffyg màs • Mae gan bob niwclid ddiffyg màs ac yn ogystal mae'r diffyg màs fesul niwcleon yn newid o un niwclid i'r llall. Yn wir, mae'r diffyg màs fesul niwcleon yn cynyddu'n gyflym o'r atomau ysgafnach i gyrraedd uchafswm gydag Fe. Ar ôl Fe mae'r diffyg màs hwn yn gostwng yn araf eto. • Mae goblygiadau pwysig i'r ffaith fod y diffyg màs fesul niwcleon yn wahanol ar gyfer gwahanol niwclidau: • ni ellir gwneud atomau drwy ddod â'r nifer cywir o brotonau, niwtronau ac electronau at ei gilydd (mae'r gwrthyriad rhwng protonau'n rhy gryf i ennill ar dymheredd cyffredin) • mae'n bosibl ad-drefnu'r protonau, electronau a niwtronau mewn atom i ffurfio gwahanol niwclidau.

More Related