1 / 23

Datblygiad Cynaliadwy yn yr Amason

Datblygiad Cynaliadwy yn yr Amason. Beth yw cynaliadwyedd?. Datblygiad Cynaliadwy. Ystyr datblygiad cynaliadwy yw bod dyn yn gallu elwa o gynhyrchion y goedwg law heb ei dinistrio yn y broses.

hall-jarvis
Download Presentation

Datblygiad Cynaliadwy yn yr Amason

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Datblygiad Cynaliadwy yn yr Amason Beth yw cynaliadwyedd?

  2. Datblygiad Cynaliadwy Ystyr datblygiad cynaliadwy yw bod dyn yn gallu elwa o gynhyrchion y goedwg law heb ei dinistrio yn y broses.

  3. “Mae’n amhosibl i ni adael yr Amason fel y mae hi. Mae gennym boblogaeth o 25 miliwn sy’n byw yn y goedwig ac sydd angen cefnogaeth. Pe byddem ni’n penderfynu rhwystro unrhyw fath o ddatblygiad, fe fyddai pobl yn darganfod ffyrdd anghyfreithlon i ddefnyddio’r goedwig law ac fe fyddai datgoedwigo yn cynyddu. Mae’n rhaid parhau i ddefnyddio’r goedwig law ond mae’n rhaid ei defnyddio mewn ffyrdd cynaliadwy.” • Llywodraeth Brasil

  4. Dyma enghreifftiau o ffyrdd anghynaliadwy o ddatblygu’r goedwig law. Logio coed Ransio Gwartheg Ffermio Torri a Llosgi Mwyngloddio Cynhyrchu Trydan-dwr

  5. Pam mae angen cynaliadwyedd? .

  6. Plannu Coed • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr.

  7. Plannu Coed • Mae torri coed yn weithgaredd anghynaliadwy o fewn y goedwig law ond pe bai pawb yn plannu coed yn eu lle ar ôl eu torri nhw, fe fyddai’r goedwig law yn byw yn hirach. • Er mwyn bwydo eu hunain a’u teuluoedd, bydd ffermwyr yn plannu cnydau sy’n tyfu’n gyflym ar ddarn o dir sydd wedi ei ddatgoedwigo. • Bydd coed sy’n tyfu’n arafach yn cael eu plannu mewn rhesi rhwng y cnydau. Mewn rhai blynyddoedd, fe fydd ffermwyr yn gallu gwneud bywoliaeth o ffrwythau’r coed. • Yna, bydd coed sy’n cymryd blynyddoedd i dyfu a sy’n werthfawr iawn er enghraifft mahogani yn cael eu plannu yma ac acw. • Drwy wneud hyn, mae’r goedwig law yn cael ei ail-phlannu ond mae pobl yn gallu ei defnyddio o hyd.

  8. Tapio Rwber • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr

  9. Tapio Rwber • Mae hinsawdd y goedwig law yn berffaith ar gyfer tyfu coed rwber. Gall tapwyr rwber gasglu latecs o’r coed heb dorri’r goeden i lawr. Gellir allforio’r latecs yma i wledydd mwy datblygedig ac fe fydd hyn yn helpu i ddileu dyled y wlad. • Mae tapio rwber yn weithgaredd traddodiadol yn y goedwig, mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd. • Mae rwber synthetig sydd wedi ei wneud o olew yn cael ei gynhyrchu yn ddiweddar ac felly mae’r galw am latecs wedi disgyn.

  10. Tapio Rwber • Meddyliwch am nwyddau a ddefnyddiwch chi bob dydd sydd wedi eu cynhyrchu o rwber. • Beth yw manteision defnyddio latecs dros rwber synthetig?

  11. Rheoli Datgoedwigo • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr

  12. Rheoli Datgoedwigo • Mae’r llywodraeth bellach yn ceisio rheoli yn union faint o goed gaiff eu torri yn yr Amason. Mae torri coed wedi ei wahardd yn gyfan gwbl o rai ardaloedd. Mewn ardaloedd eraill gellir torri rhai o’r coed ond dim pob un. • OND, mae’n rhaid plannu coed newydd yn eu lle bob tro.

  13. Eco Dwristiaeth • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr

  14. Eco Dwristiaeth • Mae gan nifer o bobl o amgylch y byd ddiddordeb yn y goedwig law ond tan yn ddiweddar, mae wedi bod yn anodd iddynt ymweld â’r lle. • Mae cwmniau eco dwristiaeth wedi dod yn boblogaidd yn ddiweddar gan eu bod yn sicrhau nad yw eu gwyliau yn effeithio ar yr amgylchedd o gwbl. • Mae nifer o ffyrdd o wneud hyn e.e. defnyddio cynnyrch lleol, mynd â grwpiau bychain o bobl, cyflogi pobl lleol a sicrhau eu bod yn cael y cyflogau maent yn eu haeddu. • Mae gwyliau cwmnïau eco-dwristiaeth yn costio ychydig mwy na gwyliau arferol, ond mae’r rhan helaeth o bobl yn fodlon talu’r gost ychwanegol os yw’n golygu bod yr amgylchedd yn cael ei warchod.

  15. Eco-Dwristiaeth • A hoffech chi fynd ar eich gwyliau i’r Amason? Pam? • Fyddech chi’n fodlon talu côst ychwanegol er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod? • Ydych chi’n cytuno bod twristiaeth yn ffordd dda o ddod ag arian i bobl y goedwig law neu ydych chi’n meddwl y dylai pobl gael swyddi mwy traddodiadol?

  16. Prosesu Nwyddau • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr

  17. Prosesu Nwyddau • Gall trigolion y goedwig law wneud arian drwy werthu’r nwyddau crai maen nhw’n eu tyfu. Ond, gallant wneud mwy o arian drwy brosesu’r nwyddau yma cyn eu gwerthu. • Er enghraifft, gallant gael mwy o arian am gypyrddau sydd yn barod i’w gwerthu na allant gael am goeden sydd angen ei thrin. • Mae nifer o bobl bellach wedi sefydlu ffatrïoedd bychain sydd yn prosesu nwyddau cyn eu allforio yn y gobaith y gallen nhw wneud mwy o arian.

  18. Prosesu Nwyddau • Beth yw anfantais y cynllun yma i wledydd eraill? • Ydych chi’n cytuno bod trigolion y goedwig law yn haeddu cael mwy o arian am y nwyddau maent yn eu cynhyrchu?

  19. Paneli Solar • Beth yw manteision ac anfanteision y cynllun hwn? • Gwnewch restr

  20. Paneli Solar • Wedi astudio hinsawdd y goedwig law yn barod, rydych yn deall bod y goedwig yn derbyn llawer o haul bob dydd. • Mae llawer o dir yn cael ei golli er mwyn cynhyrchu trydan-dŵr. Mae wedi ei brofi bod torri coed a boddi’r tir ar gyfer cynhyrchu trydan-dŵr yn gwaethygu cynhesu byd-eang drwy ryddhau llawer o garbon deuocsid. • Mae cynhyrchu trydan drwy ddefnyddio paneli solar yn mynd i gynhyrchu llawer o drydan dibynadwy a hynny heb wneud cymaint o ddifrod i’r amgylchedd.

  21. Paneli Solar • Ydych chi’n meddwl ei bod yn bosibl i baneli solar gael eu dosbarthu i bob rhan o’r goedwig law? • Beth yw’r ffordd orau o gynhyrchu trydan yn y goedwig law yn eich barn chi?

  22. Mwyaf Lleiaf Pa ddulliau fydd fwyaf llwyddiannus yn eich barn chi? Rhowch glic chwith i ddewis label, yna’i lusgo. Clic chwith eto i ollwng. Eco dwristiaeth Prosesu Nwyddau Rheoli datgoedwigo Paneli Solar Plannu coed Tapio rwber

  23. Tasg Estynedig • YDY CYNALIADWYEDD YN BOSIBL O FEWN Y GOEDWIG LAW? • Rhowch gyflwyniad i’r goedwig law. Pam maen nhw mor bwysig? • Beth yw’r rhesymau dros ddatgoedwigo? • Yn eich barn chi ydy cynaliadwyedd yn bosibl? Pam ydych chi’n • meddwl hyn? • Cyflwynwch y 4 syniad gorau am gynaliadwyedd yn eich barn chi.

More Related