1 / 15

Jemeima Niclas

Jemeima Niclas. CA 1. Dynes fawr, dew oedd Jemeima Niclas. Crydd oedd hi. Roedd hi bob amser yn gwisgo siol goch a het ddu uchel. Ym mis Chwefror 1797, roedd Thomas Williams yn cerdded yr arfordir yn chwilio am ei ddefaid pan welodd dair long rhyfel.

job
Download Presentation

Jemeima Niclas

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Jemeima Niclas CA 1

  2. Dynes fawr, dew oedd Jemeima Niclas. Crydd oedd hi. Roedd hi bob amser yn gwisgo siol goch a het ddu uchel.

  3. Ym mis Chwefror 1797, roedd Thomas Williams yn cerdded yr arfordir yn chwilio am ei ddefaid pan welodd dair long rhyfel.

  4. Glaniodd y Ffrancod wrth ymyl Garn Fawr, Pencaer.

  5. Cyn bo hir, roedd y Ffrancod yn rhedeg ar draws gwlad yn lladd ac yn llosgi. Ymosododd nifer o’r milwyr ar ffermdy Trehwyel, a’i wneud yn bencadlys.

  6. Yn hen ffermdy Brestgarn roedd hen gloc wyth niwrnod. Meddyliodd un Ffrancwr fod rhywun yn cuddio y tu mewn i’r cloc. Saethodd ergyd i mewn i’r cloc, ond doedd neb y tu mewn iddo.

  7. Doedd dim ofn y Ffrancwyr ar Jemeima Niclas. Daliodd hi dri o’r Ffrancwyr.

  8. Daliodd Jemeima lawer o Ffrancwyr a’u rhoi yn y carchar yn Abergwaun.

  9. Daeth Jemeima a merched Abergwaun at ei gilydd i helpu milwyr Cymru. Cerddon nhw yn ol ac ymlaen ar y bryn fel milwyr.

  10. Wrth weld y siolau coch a’r hetiau du, meddyliodd y Ffrancwyr fod byddin arall o filwyr yn barod i ymosod arnynt. Cafodd y Ffrancwyr tipyn o ofn.

  11. Ildiodd y Ffrancwyr. Yn y Royal Oak, Abergwaun arwyddwyd cytundeb. Cafodd y Ffrancwyr eu rhoi yn y carchar.

  12. Mae carreg goffa ym Mhencaer, uwchben y traeth, lle glaniodd y Ffrancwyr ar Chwefror 22, 1797.

  13. Mae carreg fedd Jemeima Niclas yn mynwent eglwys Abergwaun.

  14. Atebwch • Roedd Jemeima yn ddynes • Roedd hi’n gwisgo • oedd gwaith Jemeima. • Roedd Thomas Williams yn chwilio am ei • Gwelodd Thomas Williams ar y mor.

  15. Dewisiwch yr ateb cywir • Ble wnaeth y Ffrancwyr eu pencadlys? • Ble roedd y cloc? • Ble arwyddwyd y cytundeb? • Pa sir mae Abergwaun? • Beth yw prifddinas Ffrainc? ParisRoyal OakSir Benfro Brestgarn Trehywel

More Related