1 / 22

Ymsefydlu Llywodraethwyr Newydd

Uned Cynnal Llywodraethwyr. Ymsefydlu Llywodraethwyr Newydd. Canllaw i Gyrff Llywodraethu.

kaden
Download Presentation

Ymsefydlu Llywodraethwyr Newydd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Uned Cynnal Llywodraethwyr Ymsefydlu Llywodraethwyr Newydd Canllaw i Gyrff Llywodraethu

  2. Diolch ichi am gytuno i wasanaethu fel aelod o gorff llywodraethu un o ysgolion yr Awdurdod. Mae aelodau’r Cyngor, ynghyd â phenaethiaid a staff yr ysgolion, yn gwerthfawrogi’r amser sy’n cael ei roi, o’u gwirfoledd, gan bobl fel chi, sy’n fodlon cymryd rhan i sicrhau bod plentyn lleol yn cael addysg o safon. • Fel llywodraethwr newydd, bydd gennych chi gyfle i fanteisio ar yr amrywiaeth mawr o gefnogaeth, cymorth a hyfforddiant sydd ar gael oddi wrth y canlynol: • Y Rheolwr Cefnogaeth Llywodraethwyr • Swyddog Gweinyddol/Swyddog Cefnogaeth dynodedig eich ysgol • Aelodau eraill y corff llywodraethu • Staff yr ysgol a staff yr AAL • i’ch galluogi i gymryd rhan fel rhan o’r tîm

  3. Bydd unrhyw Lywodraethwr sydd â medr neu ddiddordeb penodol, yn eu gwaith gartref neu yn eu bywyd cymdeithasol, yn cael eu hannog i rannu hyn ac i ymwneud â phob agwedd ar waith y Corff Llywodraethol. • Nod y cyflwyniad yma yw rhoi gwybodaeth am y broses ymsefydlu ar gyfer Llywodraethwyr newydd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: • cymryd y camau cyntaf i’ch cyflwyno’ch hun • y dogfennau perthnasol y dylech eu cael • yr hyfforddiant a’r gweithgareddau datblygu sydd ar gael

  4. Beth sy’n gallu cael ei wneud ? Dylai Llywodraethwyr newydd gael eu paratoi i chwarae rhan gweithgar yn y Corff Llywodraethu cyn gynted â phosibl. Mae’n rhaid i hyn gynnwys: • Rhoi gwybodaeth lawn iddyn nhw am waith y Llywodraethwyr • Llenwi bylchau yn eu gwybodaeth am y pynciau trafod cyfredol ym myd addysg • Cynnig cefnogaeth am gymaint o amser â phosibl • Gweithio mewn ffordd anffurfiol a heb hierarchaeth, er mwyn i’r Llywodraethwyr newydd wneud cyfraniad o’r cychwyn cyntaf Mae hyn yn golygu bod angen: • Ymroddiad ymhlith y Corff Llywodraethu cyfan • Gweithdrefn sy’n sicrhau na fydd Llywodraethwyr yn llithro drwy’r rhwyd, ond eu bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol

  5. Ym 1998, dechreuwyd defnyddio cyfnod o bedair blynedd mewn swydd. Mae hynny’n golygu y gallai Llywodraethwyr newydd ymuno â’r Corff Llywodraethu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Mae hefyd yn golygu y gallai trosiant fod yn broses reolaidd a pharhaus. Mae llawer o gŵynion wedi’u gwneud yn y blynyddoedd diwethaf fod gormod o wybodaeth yn cael ei rhoi. Mae’n bwysig bod Llywodraethwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ac nid eu boddi o dan ormod o wybodaeth. Bydd defnyddio’r canllaw yma yn helpu i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth angenrheidiol, ond bob yn dipyn, er mwyn iddyn nhw ymdopi.

  6. Modelau Arferion Da Mae llawer o gyrff llywodraethu Sir Gaerfyrddin wedi dechrau defnyddio cynlluniau i helpu Llywodraethwyr newydd i ddod yn gyfarwydd â’u rôl newydd yn gyflym. Mae rhestr o’r rhain ar gael isod. Cyflwyno Mae’n gallu bod yn anodd cael eich cyflwyno i ddwsin a rhagor o wynebau newydd i gyd ar yr un pryd. Yn lle hynny, fe allech chi ystyried dangos enwau pawb ar ddarnau o gerdyn ar y bwrdd o’u blaen. Neu fe allai bathodynnau enw gael eu defnyddio.

  7. Mentora Cyn gynted ag y caiff Llywodraethwr newydd ei benodi, mae Llywodraethwr profiadol yn cael ei enwi yn gyflym i’w helpu yn y rôl newydd. Mae’r Llywodraethwr profiadol yn gweithredu fel ‘mentor’. Mae’r mentor yn helpu’r Llywodraethwr newydd drwy wneud y canlynol : • Cwrdd â nhw gyda’r cyn cyfarfod cyntaf y corff Llywodraethu, fel bod y Llywodraethwr newydd yn adnabod o leiaf un o’r rhai sy’n bresennol • Mynd drwy’r papurau ar gyfer y cyfarfod cyntaf gyda’r Llywodraethwr newydd, gan dynnu sylw at faterion syff o bwys i’r ysgol a helpu gyda phroblemau fel jargon • Esbonio rheolau’r cyfarfod, fel ‘siarad drwy’r Cadeirydd’

  8. helpu’r Llywodraethwr newydd i weld pa ddiddordebau a medrau a allai fod o gymorth i’r Corff Llywodraethu • Trefnu bod y Llywodraethwr newydd yn cael ei gyflwyno neu ei chyflwyno i aelodau eraill y Corff Llywodraethu cyn eu cyfarfod cyntaf(os oes modd) neu yn ystod y cyfarfod • eistedd gyda’r Llywodraethwr newydd yn ystod eu cyfarfod cyntaf i ateb unrhyw gwestiynau am drefn pethau neu gwestiynau eraill • Trefniadau ffurfiol neu anffurfiol ar gyfer cyfieithu mewn cyfarfodydd dwyieithog

  9. Cyflwyno’n Anffurfiol Pan gaiff y Llywodraethwr newydd ei benodu neu ei phenodi, bydd Cadeirydd yn trefnu bod pob aelod o’r Corff Llywodraethu’n cyrraedd 15 munud cyn dechrau swyddogol y cyfarfod . Awgrymir bod diodydd poeth ac oer yn cael eu cynnig a bod y Cadeirydd yn cyflwyno’r Llywodraethwr newydd i’r aelodau eraill yn unigol. Diddordebau ac eitemau i’r Agenda Cyn cyfarfod cyntaf y Corff Llywodraethu, bydd y Cadeirydd yn chwilio am gyfle i siarad â’r Llywodraethwr newydd am eu diddordebau a’u medrau. Os oes gan y Llywodraethwr newydd bryderon yr hoffen nhw eu codi, bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod y rhain yn cael sylw yn yr agenda ar gyfer cyfarfod y Corff Llywodraethu, ac yn ystod y cyfarfod bydd yn gofyn i’r Llywodraethwr newydd siarad am yr eitem pan fydd yn codi ar yr yr agenda.

  10. Y Llywodraethwr Newydd Gwybodaeth a chymorth yn y mis cynta

  11. Bydd Llywodraethwyr newydd am gael gwybod : • beth yw diben y swydd • faint o amser y mae’n mynd i’w gymryd • pa gymorth fydd ar gael • sut i ddod i wybod beth sy’n mynd ymlaen yn yr ysgol Mae cyfarfod â’r Cadeirydd a/neu’r Pennaeth yn gyfle gwych i roi gwybod i’r Llywodraethwr newydd am y pethau hyn, yn ogystal â’r materion cyfredol sy’n effeithio ar yr ysgol. Dylai cyfarfod hwylus ac anffurfiol roi cyfle i’r Llywodraethwr newydd ofyn y cwestiynau syml ond hynod bwysig hynny sy’n angenrheidiol wrth ymgymryd ag unrhyw rôl newydd neu anghyfarwydd.

  12. Yn ystod y mis cyntaf ar ôl cael eu penodi, dylai’r gefnogaeth a’r wybodaeth ganlynol gael eu cynnig i Lywodraethwyr

  13. Y Llywodraethwr Newydd Gwybodaeth a chymorth yn y 3 mis cyntaf

  14. Dylai’r Pennaeth a/neu’r Cadeirydd drefnu i’r Llywodraethwr newydd ymweld a’r ysgol cyn gynted ag y gellir. Bydd hyn yn gyfle i’r Llywodraethwr newydd ddod yn gyfarwydd â’r ysgol a chyfarfod â rhai o’r staff

  15. Cymorth i Lywodraethwyr Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth a deuniadau ysgrifenedig ar gael i lywodraethwyr i’w helpu i gyflawni eu delytswyddau. Dyma restr o rai o rhain: Cynulliad Cenedlaethol Cymru • ‘Canllaw Llywodraethwyr Ysgolion i’r Gyfraith’ • Argaraffiad newydd a gyhoeddwyd yn Ionawr 2001.

  16. Llywodraethwyr Cymru • ‘Llawlyfr Llywodraethwyr Ysgol’ – 3ydd argraffiad a gyhoeddwyd yn haf 2000 • Llinell gymorth 0845 6020100 (cyfradd leol) • Ymwelwch â’r wefan – www.governorswales.org.uk • Swyddogion maes yn cael eu cyflogi i gefnogi Cymdeithasau Llywodraethwyr yn lleol • Cynadleddau i gynyrchiolwyr y Cyndethasau Llywodraethwyr lleol

  17. Uned Cefnogaeth Llywodraethwyr Sir Gaerfyrddin • Yn cefnogi llywodraethwyr yn Sir Gaerfyrddin • Cynhadledd flynyddol i gynrychiolwyr yr holl gyrff llywodraethu yn Sir Gaerfyrddin • Swyddogion Cefnogaeth Llywodraethwyr profiadol ar gael i gefnogi cyrff llywodraethu a llywodraethwyr unigol • Cymorth ar gael dros y ffôn • Rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant llywodraethwyr ar gael pob tymor • Cylchlythyr rheolaidd • Deyniadau cymorth ysgrifenedig

  18. The Governor Support Team Ken Davies Rheolwr yr Uned 01267 224516 Jane Rees Swyddog Gweinyddol 01267 224508 Rhiannydd Jones-Evans Cynorthwy-ydd Gweinyddol 01267 224564 Zara James Cynorthwy-ydd Clercol 01267 224519

  19. Canolfan Ragoriaeth Cymru Gyfan mewn Hyfforddiant ac Ymchwil Llywodraethwyr • Ymchwil ar hyfforddiant llywodraethwyr yng Nghymru • Cyngor, gwybodaeth a cylchlythyrau • Gwasanaethau ymgynghorol

More Related