1 / 1

Olew clofau

Olew clofau. Ein profiad ni yn “Datgelu Cyfrinachau Cemegol”.

langer
Download Presentation

Olew clofau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Olew clofau Ein profiad ni yn “Datgelu Cyfrinachau Cemegol” Datblygwyd y gweithdy yma gan Brifysgol Caerdydd a Techniquest er mwyn cyflwyno’r dulliau mae cemegwyr yn eu defnyddio i ynysu ac adnabod cyfansoddion cemegol. Mae’r enghreifftiau sy’n cael eu dewis yn berthnasol i’r cwricwlwm A2 Cemeg ac mae’r gweithgareddau yn cynnwys cyfle i ynysu’r sylweddau naturiol sy’n bwysig wrth greu blas ac aroglau mewn ffrwythau a deunydd planhigol arall. Mi gawsom gyfle i ddefnyddio offer labordy i ynysu ein samplau ein hunain ac i gynnal profion cyffredin arnynt. Roedd yn gyflwyniad arbennig o dda i’r cemeg organig y byddwn yn ei astudio eleni. Buom ar daith o amgylch yr Ysgol Gemeg yn y prynhawn a gwelsom y sbectromedrau modern a soffistigedig sy’n caniatau mesuriadau manwl o burdeb ac astudiaeth o adeileddau a phriodweddau cemegol. Gwelsom ychydig o ‘wyddoniaeth Hollywood’ yn dangos bod rhai meddyginiaethau pwysig yn cael eu hechdynnu o sylweddau naturiol a bod ‘olew clofau’ yn effeithiol iawn wrth leddfu poen dannoedd. Mi wnaethom echdynnu limonen o orennau a lemonau, menthon o bupur-fintys ac ewgenol o flagur clofau. Mae Limonen yn bresennol mewn orennau a lemonau ond mae ffurf arall ohono (sy’n arogli ac yn blasu yn gwbl wahanol) mewn sber-fintys. Mae Ewgenol mewn olew clofau. Mi wnaethom gynnal profion cemegol syml ar ein hechdynion a gwelsom yn hwyrach sut y gallwn ddefnyddio sbectrosgopeg i ddadansoddi’n samplau yn fanwl iawn. Mae gan Adran Gemeg Prifysgol Caerdydd sbectromedrau sydd werth cannoedd o filoedd o bunnoedd a gall y peiriannau hyn ddadansoddi samplau microsgopig gan roi bob math o wybodaeth ddefnyddiol. Cawsom gyfle i ddadansoddi sampl mewn sbectromedr is-goch. Mae gan sbectrosgopeg nifer o ddefnyddiau pwysig a defnyddir sbectromedrau bob dydd mewn gwaith ymchwil, diwydiant a meddygaeth. Mae sawl gwahanol math o sbectrosgopeg a phob un yn cynnig gwahanol wybodaeth am y cyfansoddyn sy’n cael ei ddadansoddi. Mae’r cyffur Paclitaxel yn cael ei ddefnyddio i drin canser. Cafodd ei ddarganfod ym 1967 ar ôl i gemegwyr ynysu’r cyfansoddyn o risgl coeden ‘Ywen y Môr Tawel’, cyn adnabod ei weithgaredd gwrth-diwmor. Dyma’r dulliau cyntaf a ddefnyddir gan gemegwyr ar gyfer adnabod cyfansoddion, mesur eu purdeb ac astudio’u priodweddau. Mae technegau sbectroscopeg yn allweddol bwysig ym mhob agwedd o gemeg, bioleg a ffiseg ac mewn meysydd megis meddygaeth, fferylliaeth, gwyddoniaeth fforensig, gwyddoniaeth amgylcheddol ac yn y blaen – ble bynnag a phryd bynnag mae angen adnabod cyfansoddyn cemegol neu ei burdeb. a. Mae’r holl gemegion a ddefnyddir ym mhob diwydiant – mwyngloddio, trafnidiaeth, peirianneg, bwyd, electroneg, tecstiliau, cosmetigion ac yn y blaen – yn ddibynnol ar sbectrosgopeg o ryw fath neu gilydd. Mae datblygiad dulliau sbectrosgopeg newydd neu well yn faes o ymchwil sylweddol mewn cemeg modern. b. a. Sbectromedr NMR 400MHz b. Sbectromedr mas manylder uchel Ysgol Gyfun Bro Morgannwg c. Cromatograffaeth hylif (HPLC) a spectromedr mas c.

More Related