1 / 24

Data, Gwybodaeth a Dealltwriaeth

Data, Gwybodaeth a Dealltwriaeth. Data. Ffeithiau a ffigurau Llythrennau, rhifau, neu gyfuniad o lythrennau a rhifau Gwerthoedd sy’n ddiystyr ar eu pennau eu hunain. Enghreifftiau o Ddata. 150170 Saesneg 23 1066. Does gan y data uchod ddim ystyr. Cyd-destun. Gwybodaeth.

Download Presentation

Data, Gwybodaeth a Dealltwriaeth

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Data, Gwybodaeth a Dealltwriaeth

  2. Data • Ffeithiau a ffigurau • Llythrennau, rhifau, neu gyfuniad o lythrennau a rhifau • Gwerthoedd sy’n ddiystyr ar eu pennau eu hunain

  3. Enghreifftiau o Ddata • 150170 • Saesneg • 23 • 1066 Does gan y data uchod ddim ystyr Cyd-destun

  4. Gwybodaeth • Data ag ystyr achos ei gyd-destun • Wedi ei brosesu ar ffurf sydd yn ddefnyddiol i’r defnyddiwr

  5. Gwybodaeth Data + Fformwla ar gyfer Gwybodaeth Cyd-destun

  6. Enghreifftiau o Wybodaeth • 15/01/70 yw dyddiad geni Lisa • Mae’r arholiad trwy gyfwng y Saesneg • Dim ond 23 diwrnod cyn bod rhaid talu • Mae’r cyfrifiadur yn costio £1066 Mae gan y gosodiadau uchod ystyr

  7. Gwybodaeth (Data + Cyd-destun) • 15/01/70 yw dyddiad geni Lisa • Mae’r arholiad trwy gyfwng y Saesneg • Dim ond 23 diwrnod cyn bod rhaid talu • Mae’r cyfrifiadur yn costio £1066 Mae gan y gosodiadau uchod ystyr Data

  8. Gwybodaeth • Yn deillio o wybodaeth trwy osod rheolau arni • Mae’n bosib gwneud penderfyniadau wrth gymhwyso’r ddealltwriaeth at yr wybodaeth

  9. Gwybodaeth • Dealltwriaeth yw canlyniad dehongli gwybodaeth Gallai “Rhaid i ni archebu mwy o getris inc ar gyfer yr argraffydd” fod yn wybodaeth sy’n deillio o gyfri’r nifer o getris heb eu defnyddio sydd yn weddill. • Defnyddiwn wybodaeth i greu setiau o reolau: “Mae hi’n gaddo eira a rhew yr wythnos nesaf; rhaid i ni felly archebu mwy o wrthrewyddion.”

  10. Y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth a dealltwriaeth • Mae gwybodaeth wedi ei seilio ar ffeithiau • Mae dealltwriaeth wedi ei seilio ar reolau, ac mae’r rheolau hyn wedi eu seilio ar debygolrwydd yn hytrach na sicrwydd Mae gwasgedd atmosfferig uchel yn wybodaeth. Mae proffwydi’r tywydd yn dehongli’r wybodaeth yma, e.e. mae gwasgedd uchel yn golygu tywydd sefydlog

  11. Robert 11st 6lb Sam 9st 9lb Nia 10st 9lb Huw 10st 7lb Sara 7st 5lb Katie 8st Mari 9st 1lb David 14st 4lb Joe 12st 2lb Dan bwysau Canolig Dros bwysau Barn ar werth Rhestrir pwysau 9 disgybl ym mlwyddyn 12 isod: Lluniwch dabl gyda’r penawdau canlynol, gan osod pob disgybl yn y categori cywir : Cymharwch eich canlyniadau!

  12. Dan bwysau Canolig Dros bwysau Barn ar werth (defnyddiwch pin bwrdd gwyn)

  13. Ffynonellau data • Data wedi ei gasglu o ffynhonnell • Data wedi ei gasglu yn anuniongyrchol • Data wedi ei drosglwyddo / ei brynu • Data o set ddata

  14. Data wedi ei gasglu o ffynhonnell • Wedi ei gasglu fel rhan o drafod Cerdyn ffyddlondeb • Wedi ei gasglu mewn archwiliad wedi ei gofnodi ar daflen Darllenydd Marciau Optegol(OMR) wedi ei gofnodi mewn cyfweliad neu holiadur • Wedi ei gasglu trwy samplo Data o synwyryddion, e.e. gorsaf dywydd, ystadegau traffig

  15. Data wedi ei gasglu’n anuniongyrchol • Data sy’n cael ei ddefnyddio at bwrpas gwahanol i’r pwrpas gwreiddiol • Mae cwmni cerdyn credyd yn defnyddio data am bob trafod er mwyn rhoi bil i’r cwsmer. Mae’r data yna yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i arferion prynu cwsmeriaid er mwyn danfon hysbysebion penodol. Mae hyn yn ddefnydd anuniongyrchol o ddata.

  16. Data wedi ei drosglwyddo / ei brynu • Data wedi ei drosglwyddo / ei brynumae’r rhain yn ddulliau o gael data. Yna bydd y data yn cael ei ddefnyddio at bwrpas gwahanol i’r pwrpas gwreiddiol

  17. Data o setiau data • Data a gynhyrchwyd trwy brosesu’r data gwreiddiol o’r ffynhonnell • gallai’r nifer o duniau o ffa pob sydd mewn archfarchnad ar ddechrau a diwedd mis fod yn ffynhonnell wybodaeth. • canlyniad prosesu’r wybodaeth yw’r nifer o duniau a werthwyd mewn mis. • ArchifauDefnyddio data a gasglwyd eisoes, e.e. enwau a chyfeiriadau pobl a fynychodd cwrs TG.

  18. Effaith safon y ffynhonnell ddata ar y wybodaeth • Holiaduron AnnibynadwyPe gofynnir am ddata gan yr unigolyn anghywir, ni ellir dibynnu ar y data er ei fod yn gywir. E.e. gofyn barn lyseuwr ar gig. • Data AnghyflawnGall nwyddau adael siop mewn sawl ffordd wahanol: trwy werthiant wedi ei gofnodi gan ddarllenyddion cod bar yw’r brif ffordd. Pe bai’r rheolwyr yn dibynnu’n llwyr ar y data hwn, byddai’r wybodaeth yn anghywir am fod nwyddau yn cael eu dwyn neu eu difrodi.

  19. Effaith safon y ffynhonnell wybodaeth ar y ddealltwriaeth • GIGO (Garbage In Garbage Out)Os yw’r ffynhonnell wybodaeth yn anghywir, bydd y ddealltwriaeth a geir wedyn hefyd yn anghywir • Ffactorau sy’n effeithio ar safon y data: • Perthnasedd (os nad yw’r wybodaeth yn berthnasol) • Oed (os nad yw’r wybodaeth yn gyfoes) • Cyflawnrwydd (os yw peth o’r wybodaeth ar goll) • Cyflwyniad (os nad oes modd cael at y wybodaeth achos y modd y mae hi wedi ei chyflwyno) • Lefel manyldeb (Gormod neu rhy ychydig o wybodaeth - bydd y ddau yn effeithio)

  20. Codio data • Newid y data gwreiddiol yn fersiwn llai er mwyn ei storio ar gyfrifiadur trefnu misoedd y flwyddyn yn Ion, Chwe, Maw trefnu Gwryw a Benyw yn G a B

  21. Problemau wrth godio data • Nid yw’r data o reidrwydd yn drachywire.e. gwallt sy’n frown golau yn cael ei godio fel brown • Rhaid i’r defnyddiwr wybod y codiauOs nad yw’r defnyddiwr yn gyfarwydd â’r codiau, ni all ef/hi ddehongli’r data

  22. Manteision codio data • Mae angel llai o le i storioMae angen llai o le i storio Maw yn hytrach na Mawrth • Gall chwiliadau fod yn gyflymach ac yn fwy cywirMae’n gyflymach i chwilio a chymharu data oherwydd mae llai ohono yn cael ei storio • Dilysu hawsMae llai o godiau yn ei gwneud yn haws i’w defnyddio at reolau a sicrhau mai dim ond y codiau sy’n bodoli sy’n cael eu defnyddio • Gall fod yn haws i’w gofioGall godiau byr fod yn haws i’w cofio nag enwau llawn

  23. Costau cynhyrchu gwybodaeth • Caledwedd • I gasglu, prosesu ac allbynnu’r data • Lle i storio’r data • Prynu a chynnal cyfarpar • Meddalwedd • Er mwyn storio a phrosesu data • Trwyddedau meddalwedd a chytundebau cynnal • Adnoddau llafur • Cyflogi pobl i gasglu, cofnodi a chynnal data • Hyfforddi staff • Angen pobl i ddehongli data a chynhyrchu adroddiadau ar ddata

  24. Gwybodaeth fel nwydd • Defnyddir gwybodaeth at sawl pwrpas: • Gwneud penderfyniadau • Cynllunio • Rheoli • Cofnodi trafodion • Mesur perfformiad • Rhaid i’r costau fod yn llai na’r buddion mwyaf i gyd y buddion, mwyaf i gyd y byddwch yn barod i dalu

More Related