1 / 49

Yr Undeb Ewropeaidd

Yr Undeb Ewropeaidd. Cyfnodau yn Natblygiad yr Undeb Ewropeaidd. Cymuned Glo a Dur Ewrop Y Gymuned Economaidd Ewropeaidd UERATOM Y Gymuned Ewropeaidd Yr Undeb Ewropeaidd. CGDE.

mauli
Download Presentation

Yr Undeb Ewropeaidd

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Yr Undeb Ewropeaidd

  2. Cyfnodau yn Natblygiad yr Undeb Ewropeaidd • Cymuned Glo a Dur Ewrop • Y Gymuned Economaidd Ewropeaidd • UERATOM • Y Gymuned Ewropeaidd • Yr Undeb Ewropeaidd

  3. CGDE • 1951, sefydlwyd Cymuned Glo a Dur Ewrop (CGDE) gyda chwe aelod): Gwlad Belg, Gorllewin yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc, yr Eidal a’r Iseldiroedd. • Gosodwyd y pŵer i gymryd penderfyniadau am y diwydiannau glo a dur yn y gwledydd hyn yn nwylo corff annibynnol o’r enw yr “Awdurdod Uwch".

  4. GEE • Ym 1957 llofnododd Gwlad Belg, Gorllewin yr Almaen, Lwcsembwrg, Ffrainc, yr Eidal a’r Iseldiroedd Gytundeb Rhufain i ffurfio’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (GEE) • Y nod oedd creu un farchnad gyffredin.

  5. UERATOM Ym 1957 crewyd y Gymuned Ynni Atomig Ewropeaidd (UERATOM) hefyd gan y chwe gwlad gyda’r nod o gydweithredu mewn ynni atomig.

  6. Y Gymuned Ewropeaidd • Ym 1967 unwyd y GEE, CGDE ac UERATOM ynghyd dan y GEE • Ym 1993 daeth y Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn Gymuned Ewropeaidd pan ddaeth y Cytundeb ar Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Maastricht) i rym.

  7. Yr Undeb Ewropeaidd • I gymhlethu pethau fwy fyth, enwodd Cytundeb Maastricht y GEE yn Undeb Ewropeaidd pan fydd yn ymdrin â’r sylfeini hyn am fwy o Undeb wleidyddol. • Felly cafodd y GEE ddau enw newydd: y Gymuned Ewropeaidd (pan fydd yn ymdrin â materion economaidd) a’r Undeb Ewropeaidd (pan fydd yn ymdrin â materion gwleidyddol ehangach).

  8. Ac i gymhlethu pethau hyd yn oed yn fwy….. • Yn dechnegol, pan fydd yr Undeb Ewropeaidd yn ymdrin â rhai materion, dylid ei alw yn Gymunedau Ewropeaidd!

  9. Undeb Ewropeaidd • Yr Undeb Ewropeaidd yw’r enw a ddefnyddir amlaf. • Wrth ymdrin â chyfraith Ewropeaidd, mae’n dechnegol gywir cyfeirio at ‘gyfraith y Gymuned Ewropeaidd’ yn hytrach na ‘chyfraith yr Undeb Ewropeaidd’. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn cyfeirio’n unig at gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

  10. Aelodaeth • Ymunodd y Deyrnas Unedig ym 1973 • Ar hyn o bryd mae 27 aelod o’r Undeb Ewropeaidd/Gymuned Ewropeaidd/Cymunedau Ewropeaidd

  11. Y Cytundebau • Bu nifer o Gytundebau pwysig a sefydlodd yr • Undeb Ewropeaidd • Cyfeirir weithiau at y Cytundebau wrth enw’r ddinas lle’u llofnodwyd. • Defnyddir y Cytundebau yn aml ynghyd i ffurfio rhyw fath o gyfansoddiad i’r Undeb Ewropeaidd.

  12. Prif Gytundebau Sefydlu • Y ddau brif Gytundebau sefydlu yw: • Cytundeb Rhufain 1957 (ers 1993 tueddir i gyfeirio at hwn fel Cytundeb y Gymuned Ewropeaidd neu Gytundeb y GE) • Y Cytundeb ar yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Maastricht) 1993.

  13. Cytundebau Eraill • Mae Cytundebau eraill hefyd wedi creu diwygiadau pell-gyrhaeddol ac wedi cyflwyno newidiadau sefydliadol mawr • Dyma rai o’r rhai mwyaf pwysig: • Cytundeb Uno 1967 • Deddf Gyfun Ewrop 1987 • Cytundeb Amsterdam 1997 • Cytundeb Nice 2003.

  14. Prif Sefydliadau Dyma brif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd: • Senedd Ewrop • Cyngor yr Undeb Ewropeaidd • Y Comisiwn Ewropeaidd • Y Llys Iawnderau • Llys yr Archwilwyr.

  15. Sefydliadau Pwysig Hefyd, mae nifer o sefydliadau pwysig eraill megis: • Banc Canolog Ewrop • Y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol • Pwyllgor y Rhanbarthau • Banc Buddsoddi Ewrop

  16. Senedd Ewrop • Ers 2007 cafwyd 785 Aelod o Senedd Ewrop (ASE) a etholir gan bleidleiswyr pob Aelod-Wladwriaeth. • Etholir ASE bob pum mlynedd trwy bleidlais gyffredinol uniongyrchol

  17. Senedd Ewrop • Mae nifer yr ASE a etholir gan Aelod-Wladwriaeth yn dibynnu ar faint ei phoblogaeth. • Er enghraifft, mae gan yr Almaen, gyda’r boblogaeth fwyaf, 99 ASE, tra bod gan Malta, gyda phoblogaeth fechan, 5 yn unig.

  18. Senedd Ewrop • Mae Senedd Ewrop yn gweithio yn Ffrainc, Gwlad Belg a Lwcsembwrg. • Cynhelir sesiynau llawn (lle bydd yr holl ASE yn bresennol) yn Strasbourg, canolfan y Senedd. • Cynhelir cyfarfodydd pwyllgorau’r Senedd ac unrhyw sesiynau llawn ychwanegol ym Mrwsel, tra bod yr Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol yn Lwcsembwrg.

  19. Swyddogaethau Senedd Ewrop • Mae’n rhannu gyda’r Cyngor y pŵer i ddeddfu, h.y., i wneud cyfreithiau Ewropeaidd. • Mae’n rhannu awdurdod cyllidebol gyda’r Cyngor, ac felly gall ddylanwadu ar wariant yr UE. Mae ganddo’r pŵer i wrthod neu fabwysiadu’r gyllideb. • Mae’n arfer peth goruchwyliaeth cyfyngedig dros y Comisiwn.

  20. Yhe Cyngor • Y Cyngor yw prif gorff gwneud penderfyniadau’r UE. • Mae un gweinidog o bob aelod-wladwriaeth yn mynychu, yn dibynnu ar yr agenda. Er enghraifft, os trafodir materion cyllidebol, yna bydd gweinidog cyllid pob Aelod-Wladwriaeth yn eistedd.

  21. Swyddogaethau’r Cyngor • Dyma brif gorff deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd; • Mae’n cydgordio polisïau economaidd yr Aelod-Wladwriaethau; • Mae’n gwneud cytundebau rhyngwladol ar ran yr UE;

  22. Swyddogaethau’r Cyngor • Mae’n rhannu awdurdod cyllidebol gyda’r Senedd; • Mae’n cymryd y rhan fwyaf o’r penderfyniadau am y polisi tramor a diogelwch cyffredin a chyd-gordio cydweithrediad heddlu a barnwriaethol yr Aelod-Wladwriaethau mewn materion troseddol.

  23. Y Cyngor • Mae pob gwlad yn cymryd yn ei thro i fod yn Llywydd y Cyngor am 6 mis. • O bryd i’w gilydd mae arlywyddion a/neu brif weinidogion yr Aelod-Wladwriaethau, ynghyd â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yn cyfarfod fel “Cyngor Ewrop”.

  24. Y Comisiwn • Y Comisiwn Ewropeaidd sy’n gyfrifol am gynnal buddiannau cyffredinol yr Undeb. • Penodir y Llywydd ac Aelodau’r Comisiwn gan yr Aelod-Wladwriaethau wedi iddynt gael eu cymeradwyo gan Senedd Ewrop.

  25. Y Comisiwn • Comisiynwyr yw’r enw ar aelodau’r Comisiwn. Penodir un Comisiynydd o bob Aelod-Wladwriaeth. • Y Comisiwn sy’n gyfrifol am ofalu y gweithredir polisïau’r Undeb.

  26. Prif Ddyletswyddau’r Comisiwn • Mae ganddo’r hawl i ddrafftio deddfwriaeth a chyflwyno cynigion deddfwriaethol i’r Senedd a'r Cyngor; • Mae’n gyfrifol am weithredu deddfwriaeth Ewropeaidd, y gyllideb a’r polisiau a gymeradwywyd gan y Senedd a'r Cyngor;

  27. Prif Ddyletswyddau’r Comisiwn • Mae’n diogelu’r Cytundebau a, chyda’r Llys Iawnderau, yn sicrhau y cymhwysir cyfraith y Gymuned yn gywir; • Mae’n cynrychioli’r Undeb Ewropeaidd yn rhyngwladol ac yn trafod cytundebau rhyngwladol, yn bennaf ym maes masnach a chydweithredu.

  28. Y Llys Iawnderau • Mae’r Llys Iawnderau yn sicrhau fod Cyfraith Ewropeaidd yn cael ei ddehongli a’i chynnal yn gywir • Mae iddo 27 barnwr. • Caiff y Llys Iawnderau ei gynorthwyo gan y Llys Gwrandawiad Cyntaf; ei brif dasg yw ymdrin â chamau cyfreithiol a ddygir gan unigolion yn erbyn penderfyniadau sefydliadau’r Gymuned.

  29. Llys Iawnderau: Adfocadau Cyffredinol • Cynorthwyir y Llys gan wyth ‘adfocad cyffredinol’. • Eu rôl yw cyflwyno barn resymol ar yr achosion a ddygir gerbron y Llys.

  30. Llys Iawnderau: Dyletswyddau Dyma ddau o ddyletswyddau pwysig y Llys Iawnderau: • Dod i farn mewn camau yn erbyn Aelod-Wladwriaethau am eu methiant o gyflawni ymrwymiadau Cytundebau; a • Rhoi dyfarniadau cychwynnol ar Gyfraith Ewropeaidd mewn achosion a yrrir ato gan lys domestig mewn Aelod-Wladwriaeth

  31. Camau am fethu â chyflawni ymrwymiadau dan Gytundebau. • Dygir y camau hyn gan y Comisiwn yn erbyn Aelod-Wladwriaeth neu gan Aelod-Wladwriaeth yn erbyn Aelod-Wladwriaeth arall. • Seiliau’r camau yw bod un o’r Aelod-Wladwriaethau wedi methu cyflawni ei ymrwymiadau dan y Cytundebau.

  32. Dyfarniadau cychwynnol ar gyfraith y GE • Gall llys cenedlaethol ofyn i’r Llys roi dehongliad o gyfraith y Gymuned. • Bydd y Llys yn rhoi dyfarniad y gall y llys cenedlaethol ddefnyddio i benderfynu ar achos.

  33. Y Llys Archwilwyr • Mae’r Llys Archwilwyr yn bwrw golwg ar reolaeth ariannol yr Undeb Ewropeaidd • Mae’r Llys Archwilwyr yn rheolaidd yn gweld fod rheolaeth ariannol yr Undeb Ewropeaidd yn wael iawn.

  34. Banc Canolog Ewrop Mae hwn yn gyfrifol am lunio a gweithredu polisi arianyddol Ewrop, cynnal trafodion cyfnewid tramor a sicrhau gweithredu systemau talu.

  35. Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop • Mae’n cynrychioli barn gwahanol grwpiau cymdeithasol ac economaidd yn yr Undeb Ewropeaidd. • Rhaid ymgynghori ag ef ar faterion yn ymwneud â pholisi economaidd a chymdeithasol. • Gall roi barn ar ei liwt ei hun ar faterion eraill sydd yn ei farn ef yn bwysig.

  36. Pwyllgor y Rhanbarthau • Mae’n sicrhau y perchir hunaniaeth a hawliau rhanbarthol a lleol. • Rhaid ymgynghori ag ef ar faterion yn ymwneud â pholisi rhanbarthol, yr amgylchedd ac addysg.

  37. Pwyllgor y Rhanbarthau • Mae’n cynnwys cynrychiolwyr awdurdodau rhanbarthol a lleol. • Er enghraifft, mae Cymru a’r Alban yn rhanbarthau’r Undeb Ewropeaidd ac o’r herwydd mae cynrychiolwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban yn eistedd ar Bwyllgor y Rhanbarthau.

  38. Banc Buddsoddi Ewrop Mae hwn yn cyllido prosiectau buddsoddi sydd yn bwysig i ddatblygiad yr Undeb Ewropeaidd.

  39. Gwneud Cyfraith Ewropeaidd Mae tri phrif weithdrefn sy’n llywodraethu gwneud cyfraith Ewropeaidd: • Gweithdrefn Cyd-benderfyniad; • Gweithdrefn Gydsynio; • Gweithdrefn Ymgynghori.

  40. Gwneud Cyfraith Ewropeaidd • Mae’r cam cyntaf yn cychwyn gyda chynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd. • Y cam diwethaf ym mhob gweithdrefn yn y pen draw yw Cyngor y Gweinidogion. • Nid oes modd gwneud unrhyw gyfraith Ewropeaidd heb ganiatâd y Cyngor.

  41. Y Weithdrefn Cyd-benderfyniad • Mae hwn yn darparu am ddau ddarlleniad yn olynol o gynnig gan y Comisiwn, gan y Senedd a'r Cyngor. • Os na all y Cyngor a’r Senedd gytuno, yna sefydlir “pwyllgor cymodi" er mwyn dod i gytundeb.

  42. Y Weithdrefn Cyd-benderfyniad • Cyflwynir y cytundeb wedyn i’r Senedd a'r Cyngor am drydydd darlleniad gyda golwg ar ei fabwysiadu yn derfynol. • Ar y pwyllgor cymodi mae cynrychiolwyr y Cyngor a’r Senedd (a chynrychiolydd o’r Comisiwn).

  43. Rhaid meysydd yr ymdrinnir â hwy gan y Weithdrefn Gyd-benderfynu • Yr hawl i symud a phreswylio • Symudiad rhydd gweithwyr • Nawdd cymdeithasol i weithwyr mudol • Trafnidiaeth • Y farchnad fewnol • Cyflogaeth • Cyfle cyfartal a thriniaeth gydradd • Addysg

  44. Y Weithdrefn Gydsynio • Cyflwynwyd y Weithdrefn Gydsynio gan Ddeddf Gyfun Ewrop (1986). • Mae’n golygu bod yn rhaid i’r Cyngor gael cydsyniad Senedd Ewrop cyn cymryd rhai penderfyniadau pwysig iawn. • Gall y Senedd wrthod neu dderbyn cynnig ond ni all ei newid.

  45. Rhaid meysydd yr ymdrinnir â hwy gan y Weithdrefn Gyd-benderfynu • Tasgau penodol Banc Canolog Ewrop • Y weithdrefn etholiadol am Senedd Ewrop • Rhai cytundebau rhyngwladol • Derbyn aelod-wladwriaethau newydd

  46. Y Weithdrefn Ymgynghori • Ceisir barn Senedd Ewrop gan y Comisiwn. • Pan fo’r Comisiwn wedi derbyn y farn hon, gall newid ei gynnig yn unol â hynny. • Caiff y cynnig wedyn ei archwilio gan y Cyngor, a all ei fabwysiadu fel y mae neu ei newid gyntaf.

  47. Gweithdrefn Ymgynghori • Fodd bynnag, os penderfyna’r Cyngor wrthod cynnig y Comisiwn, rhaid i hyn fod yn benderfyniad unfrydol.

  48. Rhaid meysydd y mae’r Weithdrefn Ymgynghori yn ymdrin â hwy • Adolygu’r Cytundebau • Camwahaniaethu ar sail rhyw, hil neu darddiad ethnig, argyhoeddiad crefyddol neu wleidyddol, anabledd, oedran neu dueddiad rhywiol • Dinasyddiaeth yr UE • Amaethyddiaeth • Fisas, lloches, mewnfudo a pholisïau eraill cysylltiedig â rhyddid pobl i symud.

  49. Cwestiwn Traethawd (a) Amlinellwch waith prif sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd. [12] (b) Gwerthuswch bwerau deddfwriaethol Senedd Ewrop. [13] Cyfanswm 25 marc.

More Related