1 / 16

Oliver Cromwell. Arwr ynteu Gelyn y bobl?

Oliver Cromwell. Arwr ynteu Gelyn y bobl?. Mawrth 1657. Iddo ef mae’r diolch ein bod wedi trechu ein gelynion. Rydyn ni’n edrych ymlaen am heddwch dan ei arweiniad. Oliver , y chi rydyn ni eisiau fel ein Brenin newydd!.

odette
Download Presentation

Oliver Cromwell. Arwr ynteu Gelyn y bobl?

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Oliver Cromwell.Arwr ynteu Gelyn y bobl?

  2. Mawrth 1657 Iddo ef mae’r diolch ein bod wedi trechu ein gelynion. Rydyn ni’n edrych ymlaen am heddwch dan ei arweiniad. Oliver , y chi rydyn ni eisiau fel ein Brenin newydd! Mae Oliver Cromwell yn ddyn da. Mae wedi’n harwain drwy’r Rhyfel Cartref, un o’r cyfnodau mwyaf peryglus yn ein hanes. Ar sail y gosodiadau hyn, beth roedd pobl yn ei feddwl o Cromwell yn 1657?

  3. Roedd Oliver Cromwell wedi marw ers dwy flynedd. Cafodd ei alw’n fradwr gan y Senedd, a chafodd ei gorff marw ei hongian. Ionawr 1661 O’r diwedd mae Oliver Cromwell yn cael yr hyn mae’n ei haeddu. Ar sail y gosodiadau hyn beth roedd pobl yn ei feddwl o Cromwell yn 1661? Pam y gallai pobl fod wedi newid eu meddyliau amdano?

  4. Oliver Cromwell Ffeil o Ffeithiau • Cafodd y portread hwn ei beintio tua 1650; Cromwell ar y pryd oedd y dyn cryfaf yn y wlad. “Peintiwch y darlun ohonof yn union fel rydw i a pheidiwch â’m harddu o gwbl. Dangoswch bob llinell, ploryn, dafaden a phopeth arall a welwch arnaf. Neu ni roddai ffyrling i chi amdano.”

  5. Oliver Cromwell Ffeil o Ffeithiau Roedd yn mwynhau gweithgareddau awyr agored fel hela a marchogaeth. Roedd yn ddyn emosiynol iawn. Roedd ganddo dymer wyllt. Gallai fod yn gas iawn wrth bobl. Ni fyddai’n gwisgo’n daclus. Pan oedd yn siarad gerbron y Senedd yn 1640, roedd ei ddillad yn fudr. Roedd yn credu mewn gonestrwydd a siarad plaen.

  6. Oliver Cromwell Ffeil o Ffeithiau Weithiau byddai Cromwell yn cymryd dyddiau i wneud penderfyniad. Dro arall byddai’n penderfynu ar amrantiad. Pan aeth Cromwell i’r Senedd am y tro cyntaf gwnaeth lawer o gamgymeriadau syml. Gallai meddyg modern ddweud bod Cromwell yn dioddef o iselder ysbryd. Gwnaeth Cromwell lawer o elynion. Roedd rhai’n dweud ei fod yn greulon a hunanol. Mynnai Cromwell ei fod yn gweithredu bob amser er budd y wlad. Roedd Cromwell yn 43 mlwydd oed pan oedd yn ymladd yn y Rhyfel Cartref. Dywedodd ei fod ‘wedi mwynhau’r profiad’.

  7. Oliver Cromwell Ffeil o Ffeithiau - Tasg • Ysgrifennwch ffeil o eiriau sy’n disgrifio Oliver Cromwell. Defnyddiwch eich geiriau eich hun neu eiriau a ddefnyddiwyd eisoes i’w ddisgrifio.

  8. Oliver Cromwell a Chrefydd Pam roedd crefydd mor bwysig i Cromwell?

  9. Oliver Cromwell a Chrefydd • Yn y 1600au roedd y rhan fwyaf o bobl Prydain yn grefyddol. • Bydden nhw’n yn mynd i’r eglwys bob Sul.

  10. Oliver Cromwell a Chrefydd Roedd dwy brif grefydd bryd hynny • Y grefydd Gatholig (Catholigiaeth) • Y grefydd Brotestannaidd (Protestaniaeth)

  11. Oliver Cromwell a Chrefydd Yr Eglwys Gatholig • Y Pab yn Rhufain yw pennaeth yr eglwys • Dylai’r Beibl a’r gwasanaethau fod yn Lladin • Dylai’r eglwysi fod wedi’u haddurno’n wych • Dylai’r offeiriaid wisgo dillad lliwgar • Ni ddylai offeiriaid briodi • Y Nadolig a’r Pasg i’w dathlu

  12. Oliver Cromwell a Chrefydd Protestaniaid cymhedrol • Y Brenin yw pennaeth yr eglwys • Y Beibl ar gael yn Saesneg a Chymraeg • Caniatâd i gael addurn ar rai dillad • Yr offeiriaid i gael gwisgo dillad lliwgar • Gallai offeiriaid briodi • Y Nadolig a’r Pasg i’w dathlu.

  13. Oliver Cromwell a Chrefydd Y Piwritaniaid • Duw yw pennaeth yr eglwys, nid y brenin • Dylai’r Beibl a’r gwasanaethau fod yn Saesneg neu yn Gymraeg • Dylai’r eglwysi fod yn ddi-addurn • Ni ddylai’r offeiriaid wisgo dillad lliwgar • Gallai offeiriaid briodi • Ni ddylid dathlu’r Nadolig na’r Pasg

  14. Oliver Cromwell a Chrefydd Tasg 1. Pam roedd y Catholigion yn casáu Eglwys Loegr? 2. Pam roedd y Piwritaniaid yn casáu Eglwys Loegr gymaint? 3. A yw Eglwys Loegr yn swnio’n fwy Piwritanaidd na Chatholig? 4. I ba ‘grŵp’ roedd Oliver Cromwell yn perthyn?

  15. Cromwell Arwr ynteu Gelyn y bobl?

More Related