1 / 4

Atalnodi (1)

Atalnodi (1). “”. dyfynodau. Mae dyfynodau’n cael eu defnyddio i ddangos bod rhywun yn siarad…. e.e. “ Mam, ydy’r bwyd yn barod? ” gofynnodd y ferch yn ddiamynedd. “ Paid a swnian, ” atebodd ei mam. “ Ond rydw i’n llwglyd, ” cwynodd y ferch unwaith eto.

stuart
Download Presentation

Atalnodi (1)

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Atalnodi (1)

  2. “” dyfynodau Mae dyfynodau’n cael eu defnyddio i ddangos bod rhywun yn siarad…. e.e.“Mam, ydy’r bwyd yn barod?” gofynnodd y ferch yn ddiamynedd. “Paid a swnian,” atebodd ei mam. “Ond rydw i’n llwglyd,” cwynodd y ferch unwaith eto.

  3. Sut i ddefnyddio dyfynodau? • Mae angen prif lythyren yn y gair cyntaf o fewn dyfynodau fel rheol. e.e. “Mam”, ydy’r bwyd yn barod. • Bydd atalnod llawn, atalnod, gofynnod neu ebychnod cyn yr ail ddyfynnod fel rheol. e.e. “Mam, ydy’r bwyd yn barod?” “Ond, rydw i’n llwglyd.”

  4. Ymarfer 2.Rhowch ddyfynodau yn y stori hon: Roedd Steffan wedi blino ar ôl diwrnod hir yn yr ysgol Adref gwaeddodd wrth ddod trwy’r drws gan ychwanegu ond rydw i wedi blino Diwrnod da gofynnodd ei fam iddo wedi gwneud llawer o waith heddiw Diwrnod hir a diflas atebodd Steffan Paid â chwyno trwy’r amser dysgu yw pwrpas ysgol meddai ei fam Aeth Steffan i eistedd o flaen y teledu gan dynnu ei esgidiau mwdlyd Dim ar y gadair gwaeddodd Mam Oes gen ti waith cartef heno ychwanegodd yn dawel gan wybod y byddai hyn yn gwylltio’r bachgen Yr un stori bob nos, gad lonydd i mi atebodd Steffan yn gas Poeni am dy ddyfodol ydw i cariad meddai ei fam yn drist Fy nyfodol i, fy mhenderfyniad i ysgyrnygodd y bachgen gwyllt cyn rhedeg i fyny’r grisiau fel eliffant Paid di â gadael pan ydw i’n siarad machgen i meddai ei fam yn cychwyn colli ei thymer Doedd dim ateb ond sŵn y drws yn cau gyda chlep

More Related