1 / 19

Diwygio’n gweithdrefnau cymhwyster i ymarfer

Diwygio’n gweithdrefnau cymhwyster i ymarfer Newidiadau i’r ffordd rydym yn delio ag achosion ar ddiwedd ymchwiliad Sleidiau trafod i gleifion a’r cyhoedd. Rôl y GMC. Ein rôl yw diogelu, hybu a chynnal iechyd a diogelwch y cyhoedd gan sicrhau safonau priodol mewn meddygaeth trwy:

yuval
Download Presentation

Diwygio’n gweithdrefnau cymhwyster i ymarfer

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Diwygio’n gweithdrefnau cymhwyster i ymarfer Newidiadau i’r ffordd rydym yn delio ag achosion ar ddiwedd ymchwiliad Sleidiau trafod i gleifion a’r cyhoedd

  2. Rôl y GMC • Ein rôl yw diogelu, hybu a chynnal • iechyd a diogelwch y cyhoedd gan • sicrhau safonau priodol mewn • meddygaeth trwy: • gadw cofrestrau diweddar o feddygon cymwys. • meithrin arfer meddygol da. • hybu addysg feddygol safon uchel. • delio’n gadarn ac yn deg gyda meddygon yr amheuir eu cymhwyster i ymarfer.

  3. Ein proses gwrandawiadau presennol • Ar hyn o bryd, cyfeiriwn fwyafrif yr achosion at wrandawiad ac mae hyn yn cynnwys rhai achosion lle nad oes anghydfod ynghylch y ffeithiau arwyddocaol. • Mae gwrandawiadau’n llawn straen i bawb sydd ynghlwm. • Caiff cyhuddiadau y gallai’r panel gasglu eu bod yn ddi-sail yn nes ymlaen eu cyhoeddi yn y cyfryngau weithiau.

  4. Ein rôl • Ein rôl yw diogelu’r cyhoedd, nid cosbi meddygon. • Golyga hyn bod ein ffocws ni ar gymhwyster meddyg i ymarfer ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ac nid ar ddisgyblu meddygon am gamymddygiad yn y gorffennol. • A allwn gyflawni hyn yn gynt ac yn fwy cymesur a heb yr angen am wrandawiad cyhoeddus?

  5. Ein cynigion • Trafodaethau gyda meddygon - annog meddygon i dderbyn ein cosb arfaethedig. • Rhagdybiaeth o ddilead am gollfarnau troseddol difrifol. • Gwaharddiad awtomatig i feddygon sy’n gwrthod cydweithredu gyda’n hymchwiliad er gwaethaf ymdrechion cyson i geisio cael cyswllt ganddynt.

  6. Trafodaethau gyda meddygon • Cynigiwn fwy o drafodaethau gyda meddygon a rheiny’n gynharach i’n helpu ni i ddeall natur a difrifoldeb y pryderon. • Byddwn yn datgelu’r cyhuddiadau i’r meddyg a’r gosb briodol yn ein barn ni. • Bydd y meddyg a’i gynrychiolydd cyfreithiol yn cael amser i ddatgelu unrhyw ffactorau lliniarol i ni. • Os bydd y meddyg yn derbyn ein cosb arfaethedig, ni fydd angen cyfeirio’r achos at wrandawiad.

  7. Diogelwch cleifion yw’n blaenoriaeth gyntaf • Byddwn yn penderfynu pa gosb sy’n angenrheidiol i ddiogelu cleifion, yn seiliedig ar y ffeithiau. • Ni fydd unrhyw fargeinio pledion. • Os bydd y meddyg yn gwrthod derbyn y gosb arfaethedig, byddwn yn cyfeirio’r achos at wrandawiad cyhoeddus. • Os oes unrhyw anghydfod arwyddocaol dros y ffeithiau, byddwn yn cyfeirio’r achos at wrandawiad cyhoeddus.

  8. Sut bydd y cyfarfodydd gyda’r meddyg yn cael eu hwyluso? Rydym yn ystyried ystod o ddewisiadau: • Cyfryngu (cyfryngwr niwtral hyfforddedig sy’n cynorthwyo’r partïon i’r anghydfod er mwyn culhau’r gwahaniaethau rhwng eu safleodd dynodedig a chytuno ar ganlyniad trwy drafod). • Hwyluswyr annibynnol (yn debygol o fod yn gostus). • Rhestr o hwyluswyr hyfforddedig (wedi’u contractio i’r GMC i fod ar gael i hwyluso cyfarfodydd).

  9. Cyfathrebu gyda chleifion sy’n gwneud cwyn • Ein rôl yw cymryd unrhyw weithred sy’n angenrheidiol i ddiogelu’r cyhoedd, yn hytrach na cheisio gwneud iawn i gleifion unigol. • Ni chynigiwn fod y person a wnaeth y gŵyn am y meddyg yn bresennol mewn cyfarfodydd gyda meddygon. • Byddwn yn rhoi gwybod i’r achwynydd y bwriadwn gwrdd â’r meddyg, a gofynnwn a oes ganddynt unrhyw sylwadau. • Ar ôl y cyfarfod, byddwn yn ysgrifennu i roi gwybod iddynt am y canlyniad.

  10. Pa wybodaeth ddylem ei chyhoeddi? Cynigiwn gyhoeddi ar ein gwefan: • Y gosb a dderbynnir gan y meddyg. • Disgrifiad o’r materion a roddwyd i’r meddyg. • Unrhyw wybodaeth a gefnogir gan dystiolaeth a ddarparwyd gan y meddyg sy’n effeithio ar ddifrifoldeb y pryderon.

  11. Sut dylem ddisgrifio’r trefniadau? • Dilead gwirfoddol yw’r term a ddefnyddiwn pan fydd meddyg yn penderfynu tynnu ei enw oddi ar y gofrestr a lle nad oes gennym unrhyw bryder am ei gymhwyster i ymarfer. • Cynigiwn stopio defnyddio’r term dilead gwirfoddol pan fydd meddyg yn cytuno y dylid tynnu ei enw oddi ar y gofrestr lle ceir pryderon am ei gymhwyster i ymarfer. • Mae gennym ddiddordeb mewn cael awgrymiadau am fwy o derminoleg briodol i’w defnyddio ar gyfer yr achosion hyn. • Un dewis rydym yn ei ystyried yw ‘dilëwyd trwy gytundeb ar y cyd’.

  12. Dulliau diogelu ychwanegol mewn achosion camymddygiad • Pan fydd meddyg a ddilëwyd am faterion iechyd neu berfformiad yn ceisio am adferiad i’r gofrestr, mae’n bosibl y gofynnir iddynt ymgymryd ag asesiad iechyd neu berfformiad i ddangos eu bod yn gymwys i ymarfer. • Mewn achosion camymddygiad, lle mae meddyg yn gwneud cais i gael ei adfer i’r gofrestr, ceir risg y gall fod yn anodd profi’r achos yn ei erbyn. • Mae hyn oherwydd bod y dystiolaeth yn aml yn seiliedig ar dystiolaeth gan dystion a hwyrach nad yw’r tystion ar gael bellach neu bod eu hatgofion o’r digwyddiadau wedi pylu. • Er mwyn lleddfu’r risg, cynigiwn ofyn i’r meddyg lofnodi ‘datganiad o’r ffeithiau cytûn’ cyn tynnu eu henw o’r gofrestr.

  13. Materion allweddol: trafodaeth gyda meddygon • Sut orau gallwn gyfleu canlyniad y trafodaethau gyda meddygon i’r achwynwyr? • Pa wybodaeth ddylem ei chyhoeddi am ein penderfyniad? • Pa derminoleg ddylem ei defnyddio i ddisgrifio cosb a gytunwyd arni trwy drafodaeth gytûn? • Sut mae lleddfu’r risg o dystiolaeth yn gwaethygu er mwyn cynnal ffydd y cyhoedd?

  14. Materion allweddol: trafodaeth gyda meddygon • A ddylai meddygon allu datgelu gwybodaeth yn ystod y trafodaethau ar sail ‘heb ragfarn’? (sy’n golygu na allwn ei defnyddio mewn gwrandawiad yn nes ymlaen os bydd yr ymdrechion i gydweithredu’n methu). • A ddylem allu defnyddio gwybodaeth a ddatgelwyd gan feddyg ar sail ‘heb ragfarn’ i gynnal ymchwiliad pellach a defnyddio unrhyw wybodaeth a ddatgelwyd gan yr ymchwiliad hwnnw yn y gwrandawiad? • Oes unrhyw achosion y dylid eu cyfeirio at wrandawiad er lles y cyhoedd, hyd yn oed pan fydd meddyg yn fodlon derbyn ein cosb arfaethedig?

  15. Collfarnau troseddol difrifol • Ar hyn o bryd, rhagdybiwn y dylid cyfeirio unrhyw drosedd sy’n arwain at ddedfryd o garchar at wrandawiad cyhoeddus. • Cynigiwn y dylai fod rhagdybiaeth o ddilead am rai troseddau difrifol. • Golyga hyn y byddai’r meddyg yn cael ei ddileu o’r gofrestr heb yr angen i gyfeirio’r achos at wrandawiad cyhoeddus.

  16. Materion allweddol: collfarnau troseddol difrifol • Ydych chi’n cytuno bod rhai collfarnau troseddol sydd mor ddifrifol nad ydynt yn cydfynd â chofrestriad? • Os oes, pa fath o gollfarnau? • Llofruddiaeth. • Blacmel. • Masnachu pobl i’w hecsbloetio. • Trais neu ymosodiad rhywiol yn erbyn oedolyn neu blentyn. • Cam-drin plant: paratoi at bwrpas rhyw, puteindra neu bornograffi. • Unrhyw weithgaredd rhywiol gyda phlentyn o dan 13 oed. • Arall?

  17. Methu cydymffurfio â’n hymchwiliad • Mae ein harweiniad i feddygon, Arfer Meddygol Da, yn gofyn i feddygon gydweithredu gydag unrhyw weithdrefn gwyno neu ymchwiliad ffurfiol i’w triniaeth o glaf. • Weithiau, mae gwrthodiad cyson meddyg i gydweithredu’n ein hatal ni rhag bwrw ymlaen â’n hymchwiliad. • Lle mae meddyg yn gwrthod cydweithredu mae’n anodd inni bennu pa risg maent yn ei gyflwyno i ddiogelwch cleifion.

  18. Materion allweddol: collfarnau troseddol difrifol • Ydych chi’n credu bod lles i’r cyhoedd mewn cael gwrandawiad cymhwyster i ymarfer lle mae’r materion eisoes wedi’u lleisio’n gyhoeddus trwy’r system cyfiawnder troseddol? • Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol ar ffydd y cyhoedd yn y proffesiwn?

  19. Unrhyw gwestiynau?

More Related