1 / 16

CANTRE R GWAELOD

Os ewch chi ryw fin nos o haf ar hyd y ffordd sy'n arwain allan o bentref Aberarth i gyfeiriad Llanon, cofiwch aros ar ben y rhiw i edrych i lawr ar Fae Aberteifi. Mae'n werth ei weld, yn enwedig pan fo'r haul yn machlud yn goch yn y Gorllewin. Fe welwch ddarn mawr o fr gwastad, a thir Cymru a'i

zuleika
Download Presentation

CANTRE R GWAELOD

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


    1. CANTRER GWAELOD Y CHWEDL

    3. Ganrifoedd maith yn l, nid mr oedd rhwng Aberarth ac Enlli, ond tir glas a dolydd ffrwythlon. Tai a gerddi hefyd, a phentrefi tawel a gwartheg a defaid yn pori, gwyr a gwragedd wrth eu gwaith a phlant yn chwarae. Cantrer Gwaelod oedd enwr wlad hyfryd honno sy bellach o dan y mr. Beth a ddigwyddodd iddi? Wel, fel hyn y bu hi.

    4. Er bod Cantrer Gwaelod yn lle braf iawn i fyw ynddo, roedd yna un bai mawr yn perthyn ir wlad. Roedd y tir yn is nar mr. Ac felly fe fun rhaid adeiladu muriau cryfion i rwystror mr rhag llifo i mewn dros y tir. Ar ben y muriau hyn, pan fyddair llanwn dod i mewn, cerddai gwylwyr i ofalu nad oedd y mr yn tyllu trwyr muriau. Ac os llwyddar mr i dorri trwyr mur ar ambell noson stormus, roedd yna gloch fawr mewn twr uchel yn cael ei chanu fel rhybudd ir bobl ddod ar frys i gaur twll yn y mur cyn ir mr foddir wlad.

    5. O do, fe lwyddodd y mr i dorri twll droeon, yn enwedig pan fyddai llanw uchel, a gwynt mawr yn chwythu or Gorllewin. Ond bob tro y digwyddai hyn roedd y gwylwyr yn ddigon effro, ar bobl yn ddigon cyflym yn rhedeg i gaur twll cherrig trymion fel na ddaeth dim niwed ir wlad ar tai ar pentrefi.

    6. Gan fod gofalu am y muriau mawr yn waith mor bwysig, roedd yn rhaid cael un o ddynion pwysicar wlad i fod yn gyfrifol am y gwaith. Dewisodd brenin y wlad, sef Gwyddno Garan Hir, y tywysog Seithennyn fel meistr y muriau. Aeth blynyddoedd heibio ac ni wnaeth y mr unrhyw niwed ir muriau. Gweithiau pobl yn ddiwyd ar y tir, ac roedd pawb yn hapus yng Nghantrer Gwaelod.

    7. Ond, un noson dywyll yn y gaeaf, roedd gwledd bwysig iawn ym mhlas y brenin Gwyddno. Roedd merch y brenin yn cael ei phen-blwydd y diwrnod hwnnw, ac roedd Gwyddno wedi gwahodd gwyr a gwragedd bonheddig Cantrer Gwaelod i gyd ir wledd. Dechreuodd y gwledda yn gynnar yn y prynhawn ac aeth ymlaen tan yn hwyr y nos. Roedd y tywysog Seithennyn, wrth gwrs, yn y wledd, ac erbyn iddi dywyllu'r noson honno roedd e wedi yfed llawer gormod o win, ac wedi meddwi.

    8. Y noson yna cododd y gwynt yn gynnar, gan chwythun gryf iawn or Gorllewin. Y noson honno hefyd, cerddai dau o wyr ifanc ar ben y mur mawr gan edrych allan ir mr. Fe fuon nhw yno am amser hir yn disgwyl gwylwyr eraill i gymryd eu lle, ond ddaeth neb. Roedd y gwylwyr eraill, fel eu meistr, y Tywysog Seithennyn, yn y wledd yn y plas, ac wedi meddwi.

    9. Ond roedd y gwynt yn codin storm, ar llanwn uchel, ac fe ddylai fod mwy o wylwyr nag arfer ar y mur ar noson mor ofnadwy. Cerddodd y ddaun l tuag at y twr uchel oedd ar ganol y mur. Yno y crogair gloch fawr a fyddain cael ei chanu pan lwyddair mr i dyllur mur. Doedd dim angen canu honno eto, ond sut byddai hi pan ddeuair penllanw? Cytunodd y ddau fod un ohonyn nhw i fynd ar unwaith ir plas i geisio cael rhagor o wylwyr i ddod iw helpu. O dan y twr roedd stablau ceffylaur gwylwyr, a chyn bo hir roedd un or ddau wyliwr unig yn carlamu drwyr tywyllwch i gyfeiriad y plas.

    10. Arhosodd y llall, bachgen or enw Gwyn ap Llywarch yn y twr. Roedd yn nosin gyflym. Erbyn hyn roedd y mr yn berwi wrth waelod y mur ar ewyn gwyn yn llenwir awyr. Gallair bachgen glywed y tonnaun curon drwm ar y mur ac fe godai eu swn ofn yn ei galon. Ond meddyliodd wedyn am y wledd fawr yn y plas, ac am ferch hardd y brenin. Byddai hin siwr o fod yn edrych yn harddach nag erioed y noson honno, meddyliodd. Er nad oedd ef yn ddim ond mab i fonheddwr digon tlawd yng Nghantrer Gwaelod, roedd en caru Mererid, merch y brenin, yn fawr iawn. Ac O! Fe hoffai fod yn y plas y funud honno, yn dawnsio gyda hi!

    11. Yna fe ddaeth y penllanw. Roedd y tonnaun awr yn gynddeiriog. Fflachiodd mellten ar draws yr awyr gan oleuor nos. Roedd y dynion yn hir yn dod, meddyliodd. Aeth i lawr or twr ac ir stablau i weld a oedd ceffylau wedi gwylltio. Pan gyrhaeddodd waelod y mur fflachiodd mellten arall, ac yn ei golau gwelodd rywbeth a gododd arswyd arno. Roedd y mr wedi tyllur mur, ac yn awr llifai dwr gwyn yn ffrwd fain rhwng y cerrig.

    12. Tra safai yno clywodd swn, swn cerrig mur yn cael eu symud gan nerth y tonnau. Yna clywodd swn y dwr yn rhuthron gynt. Roedd y mur wedi torri! Rhedodd yn l i ben y mur ac i mewn ir twr. Tynnodd raff y gloch fawr, ac aeth ei Ding! Dong! Ding! Dong! dros y lle i gyd. Ond y noson honno ni ddaeth neb i achub y mur. Rhedodd Gwyn ap Llywarch wedyn i lawr ir stablau. Neidiodd ar gefn un or ceffylau a charlamu trwyr tywyllwch i gyfeiriad y plas.

    13. Fe gyrhaeddodd lys y brenin yn ddiogel. Clywodd swn chwerthin a chanu wrth nesu at y porth. Aeth i mewn. Gwelodd olygfa ryfedd. Roedd y brenin, y gwyr bonheddig ar milwyr i gyd yn feddw, at Tywysog Seithennyn, ceidwad y mur, yn fwy meddw na neb. Roedd llawer or dynion mor feddw nes eu bod wedi syrthio i gysgu. Gwaeddodd nerth ei geg, Maer mr wedi torrir mur! Edrychodd rhain syn arno, chwarddodd y lleill am ei ben. Ble roedd y Dywysoges Mererid? Aeth i gyfeiriad ystafelloedd y merched, a gwelodd hi! Roedd hi yn ei gwisg fwyaf hardd ac fe edrychain hapus dros ben.

    14. Rhedodd ati. Rhaid i chi ddod gyda fi, meddai. Maer mr wedi torrir mur ac mae en llifo dros y tir. Rhaid i ni gilio ar unwaith ir bryniau, ir tir uchel! Ond... Roedd y wen ar wyneb y dywysoges wedi diflannu. Edrychain ddryslyd ar Gwyn ap Llywarch. Cododd hwnnw hi yw freichiau a mynd trwyr neuadd fawr tua phorth y llys. Wrth fynd, gwaeddai nerth ei geg. Ffowch ir bryniau! Maer mr yn llifo dros y tir! Maer tir wedi torri!

    15. Yna roedd e allan or llys ac yn y cyntedd, lle safai ei geffyl. Cyn bo hir roedd ef ar dywysoges ar gefn y ceffyl yn carlamu trwyr glaw ar gwynt a'r tywyllwch. Erbyn hynny, hefyd, roedd rhai o leiaf o wyr a gwragedd y llys wedi deall beth oedd wedi digwydd ac roedd y rhieni hefyd yn ceisio ffoi o afael y mr, a oedd yn prysur lifo dros y tir.

    16. Pan ddaeth y bore safai Gwyn ap Llywarch ar dywysoges ar ben craig uchel uwchlaw Aberarth yng Ngheredigion, yn edrych allan tuar gorllewin. Yn eu hymyl porair ceffyl blinedig a oedd wedi ei gludo ir fan honno. Gwelodd y ddwy olygfa drist iawn o ben y graig. Doedd dim sn am y mur mawr, na hyd yn oed y twr uchel a oedd yn ei ganol. Doedd dim sn chwaith am lys y brenin nac am bentrefi na thai, na choed na thir gwyrddlas. Llifai tonnau llwyd y mr dros y cyfan i gyd!

    17. Fe fuon nhwn ynon hir ar ddagraun llifo dros eu gruddiau. Ac meddai Gwyn ap Llywarch or diwedd, Dywysoges, mae pawb a phopeth a oedd yn annwyl i mi wedi mynd. Maer mr creulon wedi dwyn y cyfan. Wn i ddim a fu tristwch mwy yn y byd erioed. Ond gawn ni fynd gydan gilydd i geisio cartref newydd yn y bryniau hyn? Fe wnawn ni hynny, Gwyn, meddai hi. Cydiodd y bachgen yn ei llaw a throdd y ddau eu cefnau am byth ar Gantrer Gwaelod.

More Related