130 likes | 160 Views
Dod â data'n fyw – dulliau ystadegol o ymdrin â materion byd-eang Sesiwn 4, Cyfnod Allweddol 3. Addysg a chyfoeth menywod mewn grwpiau gweithredu cyfunol. Cywir neu anghywir?. Mae Ethiopia yn nwyrain Affrica Cynhyrchir mêl gan wenyn Mae’r holl ffermwyr yn Ethiopia yn fenywod
E N D
Dod â data'nfyw– dulliauystadegol o ymdrin â materionbyd-eangSesiwn4, CyfnodAllweddol 3
Cywir neu anghywir? • Mae Ethiopia yn nwyrain Affrica • Cynhyrchir mêl gan wenyn • Mae’r holl ffermwyr yn Ethiopia yn fenywod • Mae’r holl ffermwyr sy’n fenywod yn Ethiopia yn perthyn i grŵp gweithredu cyfunol • Mae’n rhaid i chi gael addysg dda i fod yn ffermwr yn Ethiopia • Mae rhai ffermwyr yn Ethiopia yn ennill mwy nag eraill • Mae ffermwyr cyfoethog sy’n fenywod yn Ethiopia yn ennill mwy na llawer o bobl yn y DU • Mae cyfoeth yn cael ei gyfrifo yn defnyddio data ar eiddo ac anifeiliaid aelwyd, a sut le yw eu tŷ
Cywir neu anghywir? - Atebion • Mae Ethiopia yn nwyrain Affrica • Cywir • Cynhyrchir mêl gan wenyn • Cywir • Mae’r holl ffermwyr yn Ethiopia yn fenywod • Anghywir, gallant fod yn ddynion neu’n fenywod • Mae’r holl ffermwyr sy’n fenywod yn Ethiopia yn perthyn i grŵp gweithredu cyfunol • Anghywir, mae rhai yn perthyn i grwpiau ond nid pawb • Mae’n rhaid i chi gael addysg dda i fod yn ffermwr yn Ethiopia • Anghywir, mae rhai wedi cael addysg ond does gan rai bron ddim addysg o gwbl
Cywir neu anghywir? - Atebion • Mae rhai ffermwyr yn Ethiopia yn ennill mwy nag eraill • Cywir, bydd rhai ffermwyr yn ennill dim ond digon i oroesi lle gall eraill ennill bywoliaeth dda iawn yn ôl safonau Ethiopia • Mae ffermwyr cyfoethog sy’n fenywod yn Ethiopia yn ennill mwy na llawer o bobl yn y DU • Anghywir, byddai’r ffermwyr mwyaf cyfoethog yn yr astudiaeth hon yn dal i ennill llawer yn llai na’r mwyfrif helaeth o bobl yn y DU • Mae cyfoeth yn cael ei gyfrifo yn defnyddio data ar eiddo ac anifeiliaid aelwyd, a sut le yw eu tŷ • Gwir, mae nodweddion tai yn cynnwys a oes ganddynt do wedi’i wneud o wair neu dun.
Menywod o bentref gwledig, wedi’u gwisgo mewn dillad gwarchodol, yn ystod gweithdy mewn canolfan arddangos a hyfforddi cadw gwenyn. Darperir yr hyfforddiant gan y cwmni sy’n prynu eu mêl.
Menywod wedi’u gwisgo mewn dillad gwarchodol yn dysgu am gadw cychod gwenyn modern yn lân mewn canolfan arddangos a hyfforddi cadw gwenyn. Darperir yr hyfforddiant gan y cwmni sy’n prynu eu mêl.
Gyda phwy yr ydych yn cytuno? Mae’rymchwilyddRasyncredu bod ffermwyrsy’nfenywod ac sy’nperthynigrŵpynennillllai o arian Mae’rymchwilydd Adina ynanghytuno, maehi’ncredueu bod nhw’nfwycyfoethog. Sutallwch chi ddarganfodpwysy’ngywir?
Lluniosiartcylch • I lunio siart cylch, mae pob rhan o’r cylch wedi’i chynrychioli fel cyfran o 360, oherwydd bod 360 gradd mewn cylch. • Bydd angen i chi wybod beth yw cyfanswm y data a gasglwyd – yn yr achos hwn arolygwyd 20 o fenywod ynghylch sawl blwyddyn o addysg oedd ganddynt. • Yna mae angen i chi wybod sawl un sydd wedi’u cynrychioli ym mhob rhan o’r data – er enghraifft, efallai bydd gan dair menyw un flwyddyn o addysg. • Rhannwch y rhan o ddata gan y cyfanswm – yn yr enghraifft hon, 3/20. • Yna lluoswch yr ateb hwn gan 360 – felly fan hyn (3/20) x 360. Mae’r ateb hwn yn dweud wrthych sawl gradd sydd angen yn eich segment o siart cylch. • Cyn i chi lunio’r siart cylch, cofiwch wirio bod yr onglau yr ydych wedi’u cyfrifo yn dod yn gyfanswm o 360 gradd.
Deall siart cylch • Pa un yw’r mynegai cyfoeth mwyaf cyffredin? • Pa un yw’r mynegai cyfoeth lleiaf cyffredin? • Pam nad yw rhai o’r mynegeion wedi’u cynrychioli ar y siart cylch? • A oes unrhyw beth yn eich synnu am y siart cylch?
Cymharu cyfoeth menywod mewn grwpiau gweithredu cyfunol â’r rhai nad ydynt mewn grwpiau GrŵpO Grŵp1 Amlder MynegaiCyfoeth