460 likes | 695 Views
Bwydydd yn Ghana. Bwydydd cyffredin Bwyd ysgol. Bara bob dydd. Bydd plant ysgol a gweithwyr yn eu bwyta yn ystod y dydd. Dyma does bara sy’n cael eu gwerthu ar y stryd. Dyma’r bara wedi ei grasu. Yn barod i’w werthu. Paratoi Akple.
E N D
Bwydydd yn Ghana Bwydydd cyffredin Bwyd ysgol
Bara bob dydd Bydd plant ysgol a gweithwyr yn eu bwyta yn ystod y dydd. Dyma does bara sy’n cael eu gwerthu ar y stryd.
Dyma’r bara wedi ei grasu... Yn barod i’w werthu.
Paratoi Akple Akple – toes india-corn wedi ei falu’n fân a’i ferwi mewn dŵr.
Akple a chawl Okro Cawl Okro – Cawl wedi ei wneud o bupur coch wedi ei falu, a’i bastio, a’i gymysgu gyda olew palmwydd, okra a dŵr. Yn y cawl, bydd pysgodyn wedi ei fygu yn coginio. Akple – Dyma’r toes ar ôl ei bobi.
Paratoi’r okra yn y cawl Dyma’r llysiau a’r pupur coch wedi eu malu, a’r pysgodyn, yn barod i’w rhoi yn y cawl.
Kenkey Pan fydd Akple yn cael ei orchuddio mewn rhuchen yd, ac yn cael ei ageru (stemio) yna bydd Kenkey yn cael ei baratoi
Bwyteir Kenkey gyda pysgod wedi eu coginio mewn pupur coch a sbeisys poeth.
Yam yn ffrio Llysieuyn tebyg i daten yw yam. Mae’r yam yn cael ei ffrio mewn olew palmwydd.
Ffa ‘black eye’ Bydd y ffa yn cael eu mwydo, eu berwi, a’u bwyta gyda reis ac olew palmwydd. Ffa gyda Gari – beth yw Gari?
Grawnfwyd cyffredin - cassava Bydd y grawn yma’n cael ei sychu er mwyn creu Gari.
Cassava wedi ei bobi - Fufu Mae fufu yn does meddal a fwyteir gyda chig neu bysgod.
Pryd o fwyd cyffredin a phoblogaidd. Gari Ffa wedi eu coginio mewn past pupur coch. Mecryll wedi eu mygu, ac yna’u coginio mewn saws tomato sbeislyd.
Brecwast sydyn Cymysgedd wŷ a thomato
Pysgod Pam fod pobl y pentref yn bwyta cymaint o bysgod? Pysgod wedi eu mygu a’u coginio – pam mae’r bobl yn mygu’r pysgod?
Mae pob rhan o’r pysgodyn yn cael ei ddefnyddio – nid oes gwastraff! Bydd y pysgodyn yn cael ei fwyta gyda’r Akple (india-corn) Mae pawb yn bwyta pysgod yn aml.
Pysgod a grawnfwyd Grawnfwyd meddal Cawl ‘groundnut’ gyda physgodyn.
Mathau o bysgod Fedrwch chi adnabod rhai o’r pysgod yma?
Cadw’r pysgod Pysgota, dal, halltu neu fygu.
Ffrwythau Cnau coco – gellir yfed y sudd. Mae’r cnau yma wedi disgyn oddi ar y coed. ... a bwyta’r cnawd y tu mewn.
Byrbryd wedi ei brynu Saws tomato Tomato a nionyn coch Yam wedi ei ffrio Avocado Halen Plantain wedi ei ffrio
Sudd bissap Defnyddir dail y blodyn Hibiscus er mwyn paratoi’r sudd hwn. Mae sudd y dail yna’n cael ei gymysgu gyda dŵr a siwgwr.
Reis a dŵr Yn aml bydd plant yr ysgol yn yfed reis a dŵr fel byrbryd sydyn.
India corn a dŵr - Koko Bydd plant yr ysgol yn ei yfed amser chwarae.