120 likes | 331 Views
Cabaret. Casglwyd ynghyd yn wreiddiol gan Mr. Ian Kilcoyne. Beth yw cabaret? Cabaret yw sioe lawr a fwriedir i ddiddanu cwsmeriaid mewn clwb nos neu d ŷ bwyta . Roedd y rhain yn arbennig o boblogaidd yn ystod y 1920au yn Ffrainc a’r Almaen.
E N D
Cabaret Casglwyd ynghyd yn wreiddiol gan Mr. Ian Kilcoyne
Beth yw cabaret? Cabaret yw sioe lawr a fwriedir i ddiddanu cwsmeriaid mewn clwb nos neu dŷbwyta. Roedd y rhain yn arbennig o boblogaidd yn ystod y 1920au yn Ffrainc a’r Almaen. Sioe lawr yw cyfres o eitemau o adloniant (perfformiadau) a gyflwynir mewn clwb nos
Roedd Hitler a llawer o Natsïaid blaenllaw yn credu fod ffurfiau adloniant o’r fath yn ddirywiedig, yn enwedig gan fod llawer o’r cabarets yma yn cynnwys merched hanner noeth a llawer o ddiodydd alcoholig yn cael eu hyfed. Roedd Berlin, prifddinas Yr Almaen, yn enwog am ei bywyd nos gyda llawer o sioeau yn dod yn adnabyddus am eu caneuon a’u dawnsfeydd beiddgar (awgrymog, ymylu ar fod yn anweddus). Mae’r ffilm hon yn canolbwyntio ar un o’r cabarets hyn, ond mae’r darn y gwyliwch chi yn gyferbyniad â’r byd anllad a llwgr yr oedd llawer o Almaenwyr wedi cwympo iddo, yn ôl Hitler.
1) Gwyliwch y darn ffilm i gyd gyntaf.2) Gwyliwch y darn eto’n ofalus. Bydd eich athro yn oedi’r DVD, neu’r fideo, i ganiatáu i chi drafod yr hyn a weloch. Efallai yr hoffech ddefnyddio eich gwybodaeth eich hun am y Weriniaeth Weimar a’r Natsïaid wrth ateb y cwestiynau. 1. Pam, ydych chi’n credu, y byddai’r Natsïaid yn dewis y bachgen arbennig yna i ganu’r gân?
2. Rhowch sylwadau ar y gân * Sut mae’n dechrau? * Pa eiriau a ddefnyddir? * Beth yw’r teitl? * Pa fath o gân yw hi ar yr olwg gyntaf? * Sut mae’r gân yn newid?
Mae’r haul ar y ddôl yn gynnes hafaidd.Y carw mewn coedwig yn rhedeg yn ffri.Yn wyneb y storm casglwn fel praidd.Mae ‘fory’n perthyn i mi. Cangen y coed yn llawn dail a gwyrddni,Daw aur o’r Rhein yn amlwg i’r lli.Ond rhywle yn anweledig ceir bri.Mae ‘fory’n perthyn i mi. Â’i lygaid ynghau y baban ‘n ei grudGwenyn yn heidio ar flodau fry.Cwyd, Cwyd,Yw sibrydiad y pryd;Mae ‘fory’n perthyn i mi. Click your left hand mouse button to reveal each verse.
O Famwlad, o Famwlad,Rhowch yr arwydd i niWedi aros i’w weled y mae’ch plant chi. Daw, fe ddaw y wawrPan fydd y byd yn eiddo i mi.Mae ‘fory’n perthyn i mi! O Famwlad, o Famwlad,Rhowch yr arwydd i niWedi aros i’w weled y mae’ch plant chi.Daw, fe ddaw y wawrPan fydd y byd yn eiddo i mi.Mae ‘fory’n perthyn i mi!
3. Pa effaith mae’r gân yn ei gael ar… * Rhan fwyaf y bobl yn y café? * Y Sais?
4. Pam mae’r hen ddyn yn aros ar ei eistedd,ydych chi’n credu, ? Pam mae’n ymddangos yn fwy anhapus wrth i’r gân fynd yn ei blaen?
Y Dystiolaeth Mae’r darn a weloch chi yn dod o ffilm Hollywood. Mae’r ffilm wedi’i seilio’n fras ar stori wir Sais ifanc o’r enw Christopher Isherwood a fu’n byw yn Yr Almaen yn y 1930au.
Ysgrifennodd Christopher Isherwood lyfr o’r enw “Goodbye to Berlin” am ei brofiadau 5. ‘Mae’r darn ffilm yn dangos digwyddiad na ddigwyddodd mewn gwirionedd. Felly, nid yw o ddefnydd fel tystiolaeth ynglŷn â thwf y Blaid Natsïaidd.’Esboniwch yn ofalus a ydych yn cytuno neu’n anghytuno gyda’r datganiad hwn.
Cwestiwn Estynedig 6. Enw llawn y Blaid Natsïaidd oedd Plaid Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Yr Almaen. Sut mae’r darn ffilm yma’n dangos ac yn help i esbonio pam yr oedd cymaint o wahanolAlmaenwyr yn cefnogi’r Blaid Natsïaidd yn y 1930au? END