150 likes | 336 Views
Defnyddiau Peiriannu. Adnodd 4. Nodau. Adnabod defnyddiau peirannu ac ar gyfer beth y maent yn cael eu defnyddio Gwahaniaethu rhwng defnyddiau metelig a rhai anfetelaidd Deall y prosesau o galedu a thymheru. Amcanion. Dewis defnyddiau priodol ar gyfer gweithgareddau gweithgynhyrchu
E N D
Defnyddiau Peiriannu Adnodd 4
Nodau • Adnabod defnyddiau peirannu ac ar gyfer beth y maent yn cael eu defnyddio • Gwahaniaethu rhwng defnyddiau metelig a rhai anfetelaidd • Deall y prosesau o galedu a thymheru
Amcanion • Dewis defnyddiau priodol ar gyfer gweithgareddau gweithgynhyrchu • Gwybod priodweddau defnyddiau a sut i’w defnyddio • Gwybod y prosesau gweithgynhyrch ar gyfer ystod o wahanol ddefnyddiau • Caledu a thymheru defnyddiau
Metelau Fferrus • Dur meddal • Haearn bwrw • Haearn gyr • Dur carbon uchel • Dur gwrthstaen
I beth y mae’n cael ei ddefnyddio? • Dur meddal – Adeiladwaith, Pontydd, Cynhyrchion dur, Nytiau a bolltau • Haearn bwrw – Castio, Peiriannau, Feis peiriannau • Haearn Gyr – Giatiau, rheiliau • Dur Carbon-uchel– Offer, driliau pwnsh canoli, cynion, ffeiliau • Dur gwrthstaen – Cyllyll a ffyrc, Offer cegin ac ystafell ymolchi, offer meddygol
Metelau Anfferrus • Copr • Pres • Plwm • Alwminiwm • Arian • Aur • Sinc
I beth y maent yn cael eu defnyddio • Copr – Pibellau, gwifrennau trydan, padelli cegin • Pres – offerynnau cerdd, llestri bwrdd, addurniadau • Plwm – Batris, sodro, toeau a chladin • Alwminiwm – Awyrennau, Fframiau ffenestri, Sosbenni a phadelli, caniau • Arian – Gemwaith, darnau arian, gemwaith • Aur – Gemwaith, darnau arian, cyllyll a ffyrc, deintyddiaeth • Sinc – Galfanu cynhyrchion dur
Aloi Mae’n bosib defnyddio rhai metelau yn eu ffurf pur neu eu cyfuno gyda metelau eraill i gynhyrchu aloi. Mae aloi yn gyfuniad o ddau neu fwy o fetelau, sy’n gwella priodweddau mecanyddol y defnyddiau. Dyma restr o rai o’r defnyddiau: - • Pres • Efydd • Dur gwrthstaen • Dur carbon uchel
Ffurfiau Cyflenwi Gellir torri’r defnyddiau i wahanol siapiau a meintiau. • Crwn • Gwastad • Sgwâr • Hecsagonol • Wythonglog • Llen • Sianel • Ongl • Tiwb sgwâr • Tiwb crwn
Graen adeiladwaith Grisialog ac & Amorffaidd
Grisialog Yn ystod y broses o galedu mae grisial yn dechrau ymffurfio, lluosi a thyfu nes bod y defnydd yn hollol galed. Mae’r grisialau hyn yn cynnwys atomau sy’n cael eu pacio’n dynn at ei gilydd gan greu patrymau.
Amorffaidd Trwy wneud i’r defnydd oeri’n gyflymach wrth iddo galedu gellir cynhyrchu microgrisial hynod fân, neu weithiau rai amorffaidd, hynny yw metelau hylif solet nad ydynt yn risialog. Mae’r defnydd yn cadw ei adeiladwaith hylif anghrisialog gan y collir y cyfle i risialu oherwydd y newid eithafol mewn tymheredd.
Prosesau trin â gwres Tymheru Tymheru yw ailboethi’r defnydd i rhwng 200°C & 600°C (yn ddibynol ar y priodweddau a ddymunir) yna ei drochi mewn naill ai olew neu ddŵr. Caledu Mae metel yn cael ei galedu twy boethi’r defnydd i’r tymheredd angenrheidiol rhwng 800°C a 1500°C (yn ddibynnol ar y priodweddau a ddymunir) yna ei drochi mewn naill ai olew neu ddŵr.
Crofennu Mae crofennu yn creu arwyneb caled sy’n gallu gwrthsefyll traul ar ddur carbon isel. Mae’r defnydd yn cael ei boethi i rhwng 800°C a 1500°C ac elfennau o garbon yn cael eu trwytho i’r wyneb. Yna mae’r defnydd yn cael ei ailboethi i rhwng 800°C a 1500°C (yn ddibynnol ar y priodweddau a ddymunir) yna ei drochi mewn naill ai olew neu ddŵr.