200 likes | 578 Views
Streic y Penrhyn. Hanes pwysig y diwydiant llechi. Pam fod hanes streic y Penrhyn yn ddiddorol. Parhaodd y streic am dair blynedd o 1900 i 1903. Gwelwyd dechrau’r dirywiad yn y diwydiant llechi yn dilyn y streic.
E N D
Streic y Penrhyn Hanes pwysig y diwydiant llechi
Pam fod hanes streic y Penrhyn yn ddiddorol. • Parhaodd y streic am dair blynedd o 1900 i 1903. • Gwelwyd dechrau’r dirywiad yn y diwydiant llechi yn dilyn y streic. • Achoswyd drwg deimlad mawr rhwng pobl ardal Chwarel y Penrhyn (sy’n parhau hyd heddiw rhwng rhai teuluoedd).
Roedd y chwarelwyr eisiau perthyn i Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Roedden nhw eisiau casglu arian yn y gwaith i ymaelodi â’r Undeb. Roedden nhw eisiau gwell amodau gwaith. Nid oedd Yr Arglwydd Penrhyn yn fodlon i’r chwarelwyr gasglu arian i ymaelodi ag Undeb yn ei weithle. Roedd anghytundeb rhwng y chwarelwyr â pherchennog y chwarel, Yr Arglwydd Penrhyn, G.Douglas Pennant.
Roedd Yr Arglwydd Penrhyn yn amhoblogaidd iawn yn ardal chwarel y Penrhyn ( Bethesda). Pam? • Roedd o wedi etifeddu y chwarel a’r rhan fwyaf o’i gyfoeth gan ei dad. • Doedd o ddim am adael i’r chwarelwyr ymuno ag Undeb. • Cafodd nifer o’r chwarelwyr eu cloi allan am flwyddyn o’r chwarel yn 1896 ar ôl anghytuno â’r Arglwydd Penrhyn.
Dyma rybudd o’r flwyddyn 1895 gan Yr Arglwydd Penrhyn a rheolwr y chwarel, E.A.Young am y newidiadau oedd yn gwynebu’r chwarelwyr.
Dyma ffynhonnell wreiddiol o gyfnod y streic cyntaf yn 1897 sef poster gan y rheolwr i berswadio’r chwarelwyr i ddod yn ôl i’w gwaith.
Beth ddigwyddodd yn y streic fawr? • Aeth bron i 3,000 o chwarelwyr ar streic. • Cafodd y chwarelwyr eu cloi allan o’r chwarel am dair blynedd. • Aeth tua 400 o ddynion yn ôl i weithio yn y chwarel yn y flwyddyn 1901. • Am weddill cyfnod y streic, roedd y dynion yma a’u teuluoedd yn cael eu galw yn “Fradwrs” gan weddill y chwarelwyr.
Nid oedd bywyd y “Bradwrs” yn hawdd ar ôl penderfynu dychwelyd i’w gwaith yn y chwarel. • Torrwyd ffenestri eu tai. • Roedd y chwarelwyr eraill yn eu hanwybddu. • Cafodd eu teuluoedd eu hanwybyddu. • Roedd plant y chwarelwyr yn ymladd gyda plant y “bradwrs” • Rhoddwyd arwyddion ar ddrysau tai y sawl oedd ar streic yn datgan “ Nid oes bradwr yn y ty hwn”.
Ffynhonnell wreiddiol arall yw’r ffotograff yma o bwyllgor y streic
Mae’r darlun yma yn dangos Pwyllgor y Chwarelwyr yn cyfarfod â’r Arglwydd Penrhyn.
Pwy oedd yn iawn? • Roedd yr Arglwydd Penrhyn eisiau’r chwarel i wneud elw er mwyn cael cyfoeth iddo’i hun ac i’r ardal. • Doedd o ddim yn hoffi’r syniad o rhywun o’r tu allan (sef Undeb) yn awgrymu iddo sut i redeg ei fusnes yn y chwarel. • Roedd o’n teimlo bod y chwarelwyr yn cael cyflog têg.
Beth oedd barn y streicwyr? • Roedd y chwarelwyr yn teimlo nad oeddynt yn cael chware têg. • Doedd yr Arglwydd Penrhyn ddim yn berson hawdd i’w gyfarfod a chael trafodaeth. • Roedd y chwarelwyr yn teimlo nad oedd Yr Arglwydd yn perthyn i’r ardal. • Roedd yr Arglwydd yn Sais cyfoethog ac yr oedd y chwarelwyr yn Gymry tlawd.
Pam aeth y “bradwrs” sef y chwarelwyr yn ôl i’w gwaith yn 1901? • Roeddynt yn dlawd iawn oherwydd effaith y streic ac angen cyflog unwaith eto. • Roeddynt wedi cael eu perswadio i ddychwelyd i’w gwaith gan addewid o godiad cyflog.