130 likes | 336 Views
Y ffigar-êt economaidd. Y Gylchred Economaidd neu Fusnes. Mesur Gweithgaredd Economaidd. Mae Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn fesur o werth yr holl gynnyrch mewn economi mewn blwyddyn – gwerth mewn punnoedd yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchwyd
E N D
Y ffigar-êt economaidd... Y Gylchred Economaidd neu Fusnes
Mesur Gweithgaredd Economaidd • Mae Cynnyrch Mewnwladol Crynswth yn fesur o werth yr holl gynnyrch mewn economi mewn blwyddyn – gwerth mewn punnoedd yr holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchwyd • Mae 3 ffordd o gyfrifo CMC, sef dull incwm, dull cynnyrch a dull gwariant • Bydd y rhain i gyd yn rhoi’r un gwerth ar gyfer CMC • Y lefel gyfredol (2004) CMC yn economi’r DU yw oddeutu £970 biliwn
Y Gylchred Economaidd neu Fusnes • Dydy’r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth ddim yn cynyddu’n gyson dros amser – mae amrywiadau yng nghyfradd y twf • Gall fod adegau o dwf negyddol, h.y. mae’r CMC yn gostwng • Y term am y symudiadau cyfnodol hyn mewn cynnyrch, prisiau a chyflogaeth yw’r Gylchred Economaidd neu’r Gylchred Fusnes
Dwy o Nodweddion Allweddol CMC: • Mae’n tyfu dros amser • mae’r duedd dymor hir mewn CMC yn bositif, oddeutu 2.75% y flwyddyn yn y DU (mae hyn yn nhermau real gan wneud lwfans ar gyfer effeithiau chwyddiant) • Mae’n amrywio wrth iddo dyfu • mae CMC yn dangos symudiadau cylchred fusnes. Yn y 15 mlynedd ddiwethaf mae wedi amrywio rhwng plws 4% a minws 2%
Cynnyrch Mewnwladol Crynswth Real (UDA) Yma gwelwn amrywiadau’r twf dros amser
Cynnyrch Mewnwladol Crynswth Real Dangosir y duedd mewn cyfradd twf gan y llinell goch
Twf Ymyl y Môr Tawel Mae cyfraddau twf yn amrywio o wlad i wlad. Yn aml mae gan wledydd sy’n datblygu gyfraddau twf sy’n gyflymach na chyfraddau twf gwledydd yn Ewrop • Mae cyfraddau twf gwledydd Ymyl y • Môr Tawel oddeutu 4-6%. • Yn y D.U. oddeutu 2.75% yw’r • cyfartaledd.
Rhannau o’r Gylchred Fusnes Ffyniant CMC Adferiad/Ehangu Dirwasgiad amser Pant/ Methiant
Rhannau o’r Gylchred Economaidd - Adferiad • Hyder defnyddwyr yn cynyddu – gan arwain at gynnydd mewn benthyca a gwario • Cwmnïau’n cynyddu cynhyrchu – yn cynyddu lefelau stoc • Gallu cynhyrchu sbâr yn cael ei ddefnyddio, yna • Buddsoddiant yn digwydd • Diweithdra’n gostwng – gall gymryd mwy na blwyddyn o adferiad i gael newidiadau mawr yn lefelau diweithdra
Rhannau o’r Gylchred Economaidd - Ffyniant • Lefelau isel o ddiweithdra – prinder llafur yn gwthio cyfraddau cyflog i fyny • Lefelau uchel o fenthyca a gwario gan ddefnyddwyr • Cwmnïau’n gweithio ar eu gallu cynhyrchu llawn • Lefelau elw’n uchel • Chwyddiant yn cynyddu • Cyfraddau llog yn cynyddu • Ffyniant yn y farchnad dai
Rhannau o’r Gylchred Economaidd - Dirwasgiad • Cyfradd twf CMC yn gostwng neu’n negyddol • Cwmnïau’n gostwng cynhyrchu ac yn lleihau stoc • Diweithdra’n codi • Chwyddiant yn gostwng • Buddsoddiant yn gostwng • Cwmnïau’n dioddef - elw’n gostwng, adenillion ar fuddsoddiant yn gostwng, costau diswyddo
Rhannau o’r Gylchred Economaidd - Methiant • Lefelau uchel o ddiweithdra – cynyddodd diweithdra i 2.5 miliwn yn ystod dirwasgiad rhan gyntaf y 90au, o’i gymharu â 900,000 nawr • Lefelau isel o fuddsoddiant • Llai o wario gan ddefnyddwyr yn enwedig ar nwyddau traul sy’n para • Lefelau uchel o allu cynhyrchu sbâr • Chwyddiant isel
Y Llywodraeth a’r Gylchred Economaidd • Bydd y llywodraeth yn ceisio rheoli amrywiadau mewn twf economaidd • Mae’n ceisio cyflawni twf oddeutu lefel y duedd • Yn y gorffennol mae wedi defnyddio polisi cyllidol ac ariannol i gyflawni’r amcan hwn • Yn y 10 mlynedd ddiwethaf mae’r ffocws wedi bod ar ddefnyddio cyfraddau llog (polisi ariannol) a pholisïau ochr-gyflenwad i gyflawni twf cyson • Dros y 10 mlynedd ddiwethaf mae’r DU wedi bod yn glir o ddirwasgiad, er i dwf fod mor isel ag 1.5%