250 likes | 571 Views
CYWIRO GWALLAU. Mae’r geffyl yn y cae. Does dim treiglad meddal i enw gwrywaidd ar ôl y fannod. Mae’r geffyl > Mae’r ceffyl. Roedd y cath yn eistedd wrth y tân. Angen treiglad meddal i enw unigol benywaidd ar ôl y fannod. y cath > y gath. Mae’r coeden wedi colli ei dail.
E N D
Mae’r geffyl yn y cae. Does dim treiglad meddal i enw gwrywaidd ar ôl y fannod Mae’r geffyl > Mae’r ceffyl
Roedd y cath yn eistedd wrth y tân. Angen treiglad meddal i enw unigol benywaidd ar ôl y fannod y cath > y gath
Mae’r coeden wedi colli ei dail. Angen treiglad meddal i enw unigol benywaidd ar ôl y fannod Mae’r coeden > Mae’r goeden
Mae’r gi yn ddof. Does dim treiglad meddal i enw gwrywaidd ar ôl y fannod Mae’r gi > Mae’r ci
Syrthiodd y deilen yn dawel. Angen treiglad meddal i enw unigol benywaidd ar ôl y fannod y deilen > y ddeilen
Hwn yw’r ddosbarth gwaethaf Angen treiglad meddal i enw unigol benywaidd ar ôl y fannod Hwn yw’r ddosbarth > Hwn yw’r dosbarth
Cadwaf fy nillad yn y gwpwrdd Does dim treiglad meddal i enw gwrywaidd ar ôl y fannod y gwpwrdd > y cwpwrdd
Mae’r blanced drydan ar fy ngwely Angen treiglad meddal i enw unigol benywaidd ar ôl y fannod Mae’r blanced > Mae’r flanced
Af i’r wely’n gynnar bob nos Does dim treiglad meddal i enw gwrywaidd ar ôl y fannod i’r wely > i’r gwely
Merch tal yw Sian. Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl enw unigol benywaidd merch tal > merch dal
Llyfr ddiddorol yw Cysgod y Cryman. Does dim treiglad meddal i ansoddair ar ôl enw unigol gwrywaidd llyfr ddiddorol > llyfr diddorol
Blwyddyn diflas yw hon Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl enw unigol benywaidd Blwyddyn diflas > blwyddyn ddiflas
Mae coeden pinwydd yn yr ardd Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl enw unigol benywaidd coeden pinwydd > coeden binwydd
Ci ddof yw Pero Does dim treiglad meddal i ansoddair ar ôl enw unigol gwrywaidd ci ddof > ci dof
Rhaglen poblogaidd yw Uned 5 Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl enw unigol benywaidd Rhaglen poblogaidd > rhaglen boblogaidd
Mae cadair cyfforddus yn yr ystafell Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl enw unigol benywaidd Cadair cyfforddus > cadair gyfforddus
Mae tomen tail anferth ar y fferm Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl enw unigol benywaidd tomen tail > tomen dail
Mae’n bachgen tal Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol Mae’n bachgen > Mae’n fachgen
Mae’n cwpwrdd llydan Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol Mae’n cwpwrdd > Mae’n gwpwrdd
Mae’n mochyn budr Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol Mae’n mochyn > Mae’n fochyn
Mae’n cwpan hardd Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol Mae’n cwpan > Mae’n gwpan
Roedd yn gŵr ffyddlon Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol yn gŵr > yn ŵr
Roedd yn cyngerdd ardderchog Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol yn cyngerdd > yn gyngerdd
Mae’n car drud Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol Mae’n car > Mae’n gar