80 likes | 276 Views
GWISGOEDD A CHOLUR. Templed. Beth yw fy sgìl?. Eglurwch ar y sleid hwn beth yw gwaith dylunydd gwisgoedd a cholur. Am beth mae’r perfformiad ?. Eglurwch gefndir y perfformiad. Beth oedd eich syniadau cyntaf? Ble cawsoch chi’r syniadau hyn? Beth oedd ar y grŵp ei eisiau?
E N D
GWISGOEDD A CHOLUR Templed
Beth yw fy sgìl? • Eglurwch ar y sleid hwn beth yw gwaith dylunydd gwisgoedd a cholur.
Am beth mae’r perfformiad? • Eglurwch gefndir y perfformiad. • Beth oedd eich syniadau cyntaf? • Ble cawsoch chi’r syniadau hyn? • Beth oedd ar y grŵp ei eisiau? • Defnyddiwch luniau i helpu egluro’r hyn sydd raid i chi ei wneud. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Dewis gwisgoedd a cholur • Ar gyfer pob aelod o’r grŵp mae angen cael dau syniad. • Lawrlwythwch neu tynnwch luniau. • Os ydych yn lawrlwytho lluniau defnyddiwch raglen ddylunio fel Photoshop i’w gwneud yn benodol i’ch darn chi. • Cofiwch egluro pa rai oedd eich penderfyniadau terfynol. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Dangos eich dyluniadau terfynol • Gofynnwch i’r aelodau o’r grŵp sy’n gwisgo eich colur a’ch gwisgoedd sefyll i mewn fel rhan o’ch cyflwyniad. • Gallwch brynu, canfod neu wneud y wisg ond cofiwch ddangos lluniau o’ch gwaith ar y gweill. Tynnwch luniau o’r ymarfer gwisgoedd. Rhowch y lluniau hyn yn eich cyflwyniad. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Defnyddio siart fesur • I bob perfformiwr, lluniwch siart fesur. • Gwnewch yn siŵr fod y ddalen yn eich ffolder. • Beth ddylai hyd sgert fod? • Pa liwiau rydych chi wedi’u dewis, a pham, ar gyfer pob perfformiwr. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Gosod y colur • Rhaid ichi osod y colur eich hun. • Eglurwch wrth yr arholwr neu’r athro / athrawes sut y gwnaethoch hyn a pha effaith roeddech yn gobeithio’i chreu. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Pethau i’w cofio cyn eich cyflwyniad • Ychwanegwch luniau i’r templed hwn i wneud eich cyflwyniad yn ddiddorol. • Dylai’r templed hwn eich helpu i gynllunio eich cyflwyniad ond bydd angen ffolder arnoch hefyd i ddangos proses eich dyluniadau. Cofiwch ddangos hwn i’r athro/athrawes / arholwr. • Gwnewch yn siŵr fod eich perfformwyr yn teimlo’n gyfforddus a hyderus yn y dillad rydych chi am iddynt eu gwisgo ac yn eu colur.