60 likes | 289 Views
Dehongli testun a delweddau gyda’i gilydd. Dylech sylweddoli erbyn hyn y gellir dehongli unrhyw ddelwedd yn yr un ffordd y gellir dehongli darn o destun. Mae cynulleidfa yn dadgodio, neu yn gwneud synnwyr, o’r ystyron sy’n gynwysedig mewn llun er mwyn deall yr ystyr a fwriadwyd.
E N D
Dehongli testun a delweddau gyda’i gilydd. Dylech sylweddoli erbyn hyn y gellir dehongli unrhyw ddelwedd yn yr un ffordd y gellir dehongli darn o destun. Mae cynulleidfa yn dadgodio, neu yn gwneud synnwyr, o’r ystyron sy’n gynwysedig mewn llun er mwyn deall yr ystyr a fwriadwyd. Fodd bynnag, gallai’r un llun fod â nifer o wahanol ystyron i wahanol bobl. Gelwir delwedd y gellir ei dehongli mewn mwy nag un ffordd yn amlystyr. Wrth ychwanegu testun at ddelwedd mae’n bosib sicrhau bod pawb yn ei deall yn yr un ffordd. Gelwir y broses hon yn angori. Mae’n gweithio yn yr un ffordd y mae angor yn dal rhywbeth yn gadarn – yn yr achos hwn ystyr dewisol y llun.
Edrychwch ar yr enghreifftiau hyn… Ydy hi’n bosib eu deall dim ond drwy edrych ar y cynnwys? …neu allen nhw fod â mwy nag un ystyr?
Edrychwch ar sut y gellir newid ystyr pob delwedd trwy ychwanegu testun ar ffurf teitl. Nawr, mae pawb yn ei ddehongli yn yr un ffordd – mae’r ystyr wedi’i angori gan y testun. Disgyblion Blwyddyn 8 yn mwynhau chwilio am aur ar daith ysgol diweddar. Pâr digartref yn dod o hyd i ddŵr i’w yfed o ffos ar ôl daeargryn.
Mae hwn yn wirioneddol amlystyr… heb destun i angori’r ystyr gallai olygu unrhyw beth. Fforman yn dod o hyd i ddiffyg mewn ffwrnais. Damwain ofnadwy mewn ffatri wrth ijôc droi’n chwerw.
Cyfryngwr heddlu yn pledio gyda herwgipiwyr mewn ysgol uwchradd leol. Athro dawns yn disgwyl yn bryderus am ganlyniadau clyweliad Waw Ffactor.
Am faint o wahanol deitlau allwch chi feddwl ar gyfer y llun olaf yma? Pan fyddwch yn edrych ar ffotograffau papurau newyddion, hysbysebion, posteri, cloriau llyfrau neu gylchgronau, mae’n rhaid i chi allu ysgrifennu am y modd y mae’r delweddau a’r testun yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn creu ystyr.