140 likes | 526 Views
Bwystfilod Bach. Beth yw bwystfilod bach?. Arachnidau (pryfaid cop). Cramenogion (gwrachod y lludw - woodlice ). Gelwir yr holl greaduriaid hyn yn fwystfilod bach. Trychfilod. Amldroedion (nadroedd cantroed/nadroedd miltroed). Mwydod. Molysgiaid (gwlithod a malwod).
E N D
Beth yw bwystfilod bach? Arachnidau (pryfaid cop) Cramenogion (gwrachod y lludw - woodlice) Gelwir yr holl greaduriaid hyn yn fwystfilod bach Trychfilod Amldroedion (nadroedd cantroed/nadroedd miltroed) Mwydod Molysgiaid (gwlithod a malwod)
Beth sy’n gwneud y rhain yn debyg i’w gilydd? Does dim asgwrn cefn gan yr un ohonyn nhw! Rydym ni’n eu galw yn ANIFEILIAID DI-ASGWRN-CEFN Mae gennym ni asgwrn cefn! Fe’n gelwir ni yn FERTEBRIAID
Mae ganddyn nhw ysgerbwd allanol. Beth sy’n gwneud y rhain yn debyg i’w gilydd? Yn ogystal â chadw’r corff yn gadarn, mae’r ysgerbwd hefyd yn helpu i’w hatal rhag niwed.
Ble allwch chi ddod o hyd i fwystfilod bach? Mewn amryw o lefydd! pridd hen ddeiliach boncyffion wedi pydru dan greigiau neu ddarnau o bren ar goed a llwyni
Sut allwch chi ddod o hyd iddyn nhw? Rhaid i chi chwilio’n ofalus iawn! Bydd llawer o fwystfilod bach yn defnyddio cuddliw i’w hamddiffyn eu hunain. Mae hyn yn golygu eu bod yn ceisio ymddangos fel rhan o’u cynefin. (ble maen nhw’n byw)
Beth ddylech chi ei osgoi? • Llecynnau lle mae coed neu ganghennau wedi syrthio’n ddiweddar. • Gwreiddiau coed sydd yn y golwg • Gwenyn meirch - maen nhw’n gallu pigo • Nythod Gwenyn Meirch • Helwyr Gwrachod y Lludw – maen nhw’n gallu brathu
Sut ddylen ni drin a thrafod bwystfilod bach? Cofiwch eu bod yn fach ac yn fregus Rhaid i ni fod yn ofalus Rhaid i ni fod yn dyner Os byddwch yn codi bwystfil bach i gael edrych arno’n fanylach, cofiwch ei roi’n ôl yn yr un lle
Ffyrdd syml o adnabod bwystfil bach • Defnyddiwch ‘allwedd’ • Defnyddiwch lyfr da ar fywyd gwyllt • Cyfrifwch y coesau a dilyn y rheol syml: • Dim coesau = mwydod, gwlithod a malwod • 6 choes = trychfilod • 8 coes = pryfaid cop • 14 o goesau = chwilod • Mwy nag 14 o goesau = nadroedd cantroed a nadroedd miltroed
Yn ôl yn yr ystafell ddosbarth • Gwyddoniaeth – Gwnewch eich ‘allwedd’ eich hun • Celf – Tynnwch lun rhai o’r bwystfilod bach • Ysgrifennu creadigol – diwrnod ym mywyd neidr filtroed, malwen ayb… • TG – gêm bwystfilod bach – www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/addysg/ • Drama – sut mae bwystfilod bach yn symud? • Cerddoriaeth - dysgwch gân y Trychfilod
Cân y Trychfilod Pen, thoracs, abdomen, abdomen Pen, thoracs, abdomen, abdomen Tair coes fan hyn A thair coes fan draw Llygaid ac antenau ar fy mhen, ar fy mhen