70 likes | 241 Views
GWNEUD TÂL. Mae llawer o ffyrdd gwahanol o wneud a derbyn taliadau. Arian parod Siec Cardiau credyd Cardiau debyd Debyd uniongyrchol Trosglwyddiadau credyd. Arian Parod. Arian parod yw’r dull talu a ddefnyddir fwyaf o ddydd i ddydd.
E N D
GWNEUD TÂL Mae llawer o ffyrdd gwahanol o wneud a derbyn taliadau. • Arian parod • Siec • Cardiau credyd • Cardiau debyd • Debyd uniongyrchol • Trosglwyddiadau credyd
Arian Parod Arian parod yw’r dull talu a ddefnyddir fwyaf o ddydd i ddydd. Mae arian papur a darnau arian yn ffordd gyflym a hawdd o dalu am nwyddau. Ar ôl i arian parod gael ei roi am nwyddau neu wasanaethau mae’r trafod yn gyflawn. • Manteision: • Mae’r busnes yn derbyn tâl ar unwaith • Nid yw mor agored i dwyll â siec • Anfanteision: • Byddai’n rhaid mynd â symiau mawr o arian i’r banc • Dim ond gwerthu uniongyrchol i’r cwsmer, nid gwerthu drwy’r post • na’r rhyngrwyd
Siec I allu talu â siec rhaid bod gan fusnes gyfrif cyfredol mewn banc a’i fod wedi cael llyfr sieciau. Mae siec yn gyfarwyddyd i’r banc dynnu arian allan o gyfrif y talwr a’i roi yng nghyfrif y talai. • Manteision: • Bydd banciau’n gwarantu siec hyd at swm penodol drwy gerdyn gwarantu siec. • Mae’n cymryd tua 5 diwrnod gwaith i glirio siec. • Anfanteision: • Mae’n cymryd 5 diwrnod gwaith i glirio siec felly ni fydd y busnes yn derbyn yr arian ar unwaith • Os nad oes digon o arian yn y cyfrif gallai’r siec “fownsio” • Mae rhai banciau’n codi tâl ar fusnesau am dalu sieciau i mewn i’w cyfrif.
Cardiau Credyd • Cardiau talu plastig sy’n caniatáu i ddeiliad y cerdyn wneud taliadau • Mae deiliad y cerdyn yn cael benthyg arian hyd at derfyn cytunedig • Caiff llog ei godi ar arian a fenthycir • Mae rhai’n codi ffi flynyddol • Rhaid i ddeiliad cerdyn wneud tâl ar ei gerdyn bob mis • Gall wneud tâl isafswm neu dalu’r cyfan sy’n ddyledus • Manteision: • Dull hawdd o gael benthyg arian • Fe’u derbynnir gan lawer o fusnesau yn y DU a • thramor • Caiff y talu ei ohirio nes y bydd angen talu’r bil • Anfanteision: • Rhaid i werthwyr dalu ffi am bob cwsmer sy’n talu â cherdyn credyd (tua 2%) • Gall y llog fod yn uchel iawn
Cardiau Debyd • Yn debyg i’r cerdyn credyd o ran ei ddefnyddio ond : • Mae wedi’i gysylltu â chyfrif banc felly rhaid bod yna ddigon o arian cyn y gellir ei ddefnyddio • Ni ellir ei ddefnyddio i gael benthyg arian • Mae gwerthwyr yn cael eu talu ar unwaith ac mae’n gyflymach na siec • Mae’n well gan lawer o fusnesau dderbyn taliadau drwy gerdyn debyd gan nad oes ffi ynghlwm wrth hyn.
Debyd Uniongyrchol Mae debyd uniongyrchol yn caniatáu i gwsmeriaid dalu biliau rheolaidd yn awtomatig. Mae debyd uniongyrchol yn gytundeb lle gall busnes sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau gymryd arian o gyfrif banc y cwsmer. • Manteision: • Mae debydau uniongyrchol am ddim: nid oes raid i brynwyr dalu am ddefnyddio’r dull hwn o dalu • Nid oes raid i brynwyr gofio talu biliau rheolaidd, mae • debyd uniongyrchol yn gwneud hynny’n awtomatig. • Mae gwerthwyr yn gwybod y cânt eu talu’n brydlon. • Gall gwerthwyr arbed amser ac arian, gan nad oes raid iddynt dalu sieciau i mewn i’w cyfrif banc nac anfon anfonebau at gwsmeriaid.
Trosglwyddiad Credyd • Mae trosglwyddiad credyd yn caniatáu i arian gael ei symud yn uniongyrchol o un cyfrif banc i gyfrif banc arall. • Defnyddir trosglwyddiad electronig o’r math hwn gan fusnesau mewn gwahanol ffyrdd : • Mae llawer o fusnesau yn talu eu gweithwyr bob wythnos neu bob mis drwy drosglwyddiad credyd. • Mae nifer cynyddol o fusnesau yn talu eu cyflenwyr gan ddefnyddio trosglwyddiad credyd.