200 likes | 437 Views
CREFYDD. CYRFF CREFYDDOL. CYRFF CREFYDDOL. CYRFF CREFYDDOL. Crefydd fel grym ar gyfer sefydlogrwydd a newid. Mae crefydd yn creu unigolion goddefol nad ydynt yn ceisio newid y y byd er gwell, ond a ydynt yn syml yn derbyn dewisiadau ysbrydol. Mae crefydd yn atal
E N D
Crefydd fel grym ar gyfer sefydlogrwydd a newid Mae crefydd yn creu unigolion goddefol nad ydynt yn ceisio newid y y byd er gwell, ond a ydynt yn syml yn derbyn dewisiadau ysbrydol. Mae crefydd yn atal newid mewn cymdeithas. Mae'n cynnal ac yn atgyfnerthu gwerthoedd ceidwadol a thraddodiadol. Crefydd Mae crefydd yn cyfyngu ar newid cymdeithasol ac yn cyfiawnhau anghydraddoldeb cymdeithasol. Mae'n batriarchaidd ac mae'n caniatáu i lawer ddioddef yma ar y Ddaear. Yn aml gall crefydd fod mewn perthynas agos â'r Wladwriaeth – gan atgyfnerthu ideoleg wleidyddol a chymdeithasol.
Crefydd fel grym ar gyfer sefydlogrwydd a newid Mae rhai cyrff crefyddol yn pwysleisio gwneud daioni ar y Ddaear. Mae'r cyrff hyn yn fwy tebygol o gynhyrfu newid. Mae Diwinyddiaeth Rhyddhad yn pwysleisio i achawdwriaeth oddi wrth ormes - yn arbennig yn America Ladin. Mae mudiadau crefyddol radical yn ymladd dros newid mewn cymdeithas. Mae gan y Dde Grefyddol yn America ddylanwad mawr ar wleidyddion ac arweinwyr mewn cymdeithas. Crefydd Mae grwpiau crefyddol sy'n recriwtio eu haelodau o blith pobl lai breintiedig yn fwy tebygol o ddymuno peri newid cymdeithasol. E.e. offeiriaid Pabyddol yn America Ladin a grwpiau radical Islamaidd. Mae grwpiau crefyddol gydag ymdeimlad cryf o awdurdod a threfniadaeth dda yn fwy tebygol o gynhyrfu newid cymdeithasol.
Crefydd a Dosbarth Cymdeithasol • Mae crefyddau prif ffrwd yn gynhwysol felly maent yn recriwtio o gyfres eang o ddosbarthiadau. • Mae crefyddau sefydledig megis Eglwys Lloegr yn tueddu i fod yn ddosbarth canol, a'i harweinwyr yn tueddu i ddod o gefndiroedd breintiedig. • Mae llawer o enwadau yn tueddu i fod â mwy o aelodau dosbarth gweithio. • Yn aml, mae cyltiau yn recriwtio ymhlith grwpiau difreintiedig ac ymylol mewn cymdeithas, er y gallant ddenu croestoriad o gymdeithas. • Mae MON (Mudiadau Oes Newydd) a MCN (Mudiadau Crefyddol Newydd) yn tueddu i apelio at y dosbarth canol, yn enwedig pobl ifanc broffesiynol.
Crefydd a Grwpiau Oedran • Mae'r hen a'r ifanc yn tueddu i fod yn fwy crefyddol, er bod llawer o grefyddau sefydledig yn cael cefnogaeth gan grŵp oedran eang. • Mae'r rhai mewn oed yn aml yn “troi at grefydd” am gysur neu fel profiad cymdeithasol. • Mae grwpiau canol oed yn fwy tebygol o gael eu denu gan y MON, a’r MCN sy'n fyd-gadarnhaol • Yn aml mae pobl ifanc yn gwrthryfela yn erbyn crefydd eu rhieni neu'n dewis ymeithrio. Mae llawer yn cael eu denu gan gyltiau a sectau - yn aml o ganlyniad i newid yn eu dull o fyw neu i ddylanwad y Cyfryngau Torfol neu grwpiau cyfoedion.
Crefydd a Rhyw • Er mai dynion sy'n rheoli Eglwys Lloegr, mae menywod yn fwy tebygol o fynd i'r eglwys na dynion. • Mae menywod hefyd yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn MCN a MON. • Yn aml, mae menywod yn cael eu denu gan MON am eu bod yn pwysleisio nodweddion “benywaidd” megis gofalu ac iacháu. • Mae menywod hŷn yn troi at grefydd i gael ymdeimlad o gymuned. • Yn y rhan fwyaf o grefyddau, mae menywod yn chwarae rhan eilradd i ddynion, ac yn aml yn cael eu gwthio i un ochr neu eu hymyleiddio, a gwelir hyn gan lawer fel math o reolaeth gymdeithasol.
Crefydd ac Ethnigrwydd • Mae llawer o grwpiau ethnig yn fwy crefyddol ac yn fwy parod i gymryd rhan mewn crefydd, gan eu bod yn fwy arwyddocaol yn eu diwylliant nhw. • Mae pobl o dras Affro-Caribïaidd wedi gwneud cyfraniad enfawr i dwf Pentecostiaeth ac Efengyliaeth. • Gwelwyd cynnydd graddol yn y nifer o bobl yn y DU sy'n mynychu mannau addoli nad ydynt yn Gristnogol. • Mae llawer o bobl nad ydynt yn Gristnogion yn y DU yn gweld eu crefydd fel ffordd o fyw yn hytrach na gweithred o ffydd yn unig. • Gall crefydd gynnal adnabyddiaeth ddiwylliannol a math o gymuned ymhlith grwpiau ethnig.
Twf Crefyddau Gwahanol MCN a MON • Mae'r gymdeithas Ôl-Fodern wedi arwain at fwy o ddewis ac amrywiaeth, gan roi mwy o bwyslais ar unigoliaeth. Mae mwy o ymddiriedolaeth yng nghredau unigolion nag mewn crefyddau sefydledig. • Mae sylfaenwyr crefyddau newydd yn datblygu syniadau/cynnyrch newydd i droi pobl atynt. • Mae llawer o bobl yn gwrthod esboniadau crefyddol traddodiadol o ysbrydolrwydd ac nid ydynt yn derbyn/ymddiried yn theorïau gwyddonol am y byd naturiol. • Mae llawer o bobl yn teimlo eu bod wedi'u hymyleiddio gan gymdeithas ac yn chwilio am fudiadau newydd i wneud synnwyr o'u bywydau/o'r byd. • Mae newid cymdeithasol megis gwahaniaethau diwylliannol, ymddatodiad cymdeithas, seciwlareiddio, argyfwng adnabyddiaeth, terfysgaeth, ansicrwydd cyffredinol, yn gwneud mudiadau newydd yn fwy atyniadol. • Mae pobl sydd wedi tyfu’n anfodlon gyda'r crefyddau sefydledig prif ffrwd, yn chwilio am systemau cred wahanol.
Twf Ffwndamentaliaeth Gristnogol • Mae pobl wedi gwrthryfela yn erbyn globaleiddio, ôl-foderniaeth a seciwlareiddio, ac wedi derbyn y sicrwydd y mae ffwndamentaliaeth yn ei chynnig. • O ganlyniad i ymlacio cyfreithiau ysgariad, erthyliad cyfreithiol, hawliau pobl hoyw, y cynnydd mewn pornograffi, addysg seciwlar, mae grwpiau pwerus wedi datblygu megis Y Dde Grefyddol Newydd yn yr Unol Daleithiau. Maent yn credu bod diwygiadau rhyddfrydol wedi achosi cyflwr o banig moesol ac maent yn dymuno dychwelyd i ddehongliad llythrennol y Beibl. • Gall arweinwyr cryf, carismataidd sy'n hybu eu barnau trwy gyfathrebu torfol rhoi ymddiriedolaeth ac ystyr mewn cyfnod o ansicrwydd. • E.e. o Ffwndamentaliaeth Gristnogol bomio clinigau erthylu; herio addysgu esblygiad yn y llysoedd.
Twf Ffwndamentaliaeth Islamaidd • Mae globaleiddio, ôl-foderniaeth a llywodraethau sy'n moderneiddio wedi arwain at dwf Ffwndamentaliaeth Islamaidd, sy'n ceisio dychwelyd i gredau Mwslimiaid. • Gwelir gwerthoedd y Gorllewin fel rhai llygredig, sy'n creu ansicrwydd, anghydraddoldeb dosbarth ac erydiad credau traddodiadol. • Mae arweinwyr carismataidd, cryf sy'n hybu eu barnau trwy gyfathrebu torfol yn addo iachawdwriaeth a bywyd tragwyddol i ddilynwyr sy'n ufuddhau i'w gorchmynion – e.e. bomwyr hunanleiddiol. • E.e. o Ffwndamentaliaeth Islamaidd - y Chwyldro yn Iran 1979 al Qaeda – Osama bin Laden; bomio'r Pentagon a Chanolfan Masnach y Byd 2001; Gorffennaf 7fed Llundain 2005.
Crefydd – Marx • Roedd Marx yn gweld crefydd fel rhywbeth sy'n cyfyngu ar newid – math o reolaeth gymdeithasol sy'n cadw'r dosbarthiadau gweithio mewn cyflwr o ymwybyddiaeth gau. • “Crefydd yw arwydd o greadur dan ormes, yr ymdeimlad o fyd heb galon ...... Crefydd yw opiwm y bobl.” Mae crefydd fel cyffur nad yw'n datrys problemau ond sydd yn lleddfu'r boen yn unig. • Mae crefydd yn arf ecsbloetio dosbarth – mae'n darparu'r sail i ideoleg dosbarth rheoli ac yn cyfiawnhau'r drefn gymdeithasol. Yn yr emyn ‘All things bright and beautiful ‘ceir y pennill, ‘The rich man in his castle, the poor man at his gate, God made them high and lowly, and ordered their estate.’ • Mae crefydd yn rym ceidwadol sy'n atal newid cymdeithasol. Addewir gwobrwyon yn y nefoedd i'r torfeydd, fel y byddant yn ymaros â dioddefaint ar y Ddaear. • Mae crefydd, felly, yn golygu gwyrdroi realiti. Mae'n ideolegol, gan ei fod yn cyfiawnhau trefn gymdeithasol anghyfiawn ac yn peri iddi ymddangos yn anochel ac yn ddigyfnewid.
Crefydd – Weber, Berger a Theori Rhyngweithedd • Ym marn Weber, wrth i gymdeithasau symud ymlaen yn dechnolegol ac yn wyddonol, byddai unigolion yn peidio â dibynnu ar ystyron crefyddol. Byddent yn defnyddio esboniadau rhesymegol i ddeall eu byd, fel y byddai hwn yn dod yn llai swynol a chysegredig. • Mae Weber yn awgrymu bod crefydd yn delio gyda phroblem theodiciaeth (cyfiawnder duw) – sut i wneud synnwyr o dduw goleuedig mewn byd sy'n llawn drygioni a dioddefaint. E.e. Y Gred Galfinaidd mewn rhagordeiniad; Cred yr Hindŵiaid fod pob person, pa mor anffodus bynnag y bo, yn haeddu bod yn y safle lle maent yn eu cael eu hun. • Mae Berger yn awgrymu mai un o agweddau pwysicaf crefydd yw ei gallu i esbonio ffenomenau megis drygioni, dioddefaint a marwolaeth. • Mae Berger yn sôn am theodiciaeth difreintiedig - gellir gweld yr addewid o iachawdwriaeth fel iawndal am dlodi. Mae'r fath syniadau yn hybu'r safbwynt nad oes unrhyw bwynt mewn ceisio newid ‘yr yma’ a’r ‘nawr’.
Crefydd - Ffwythiannaeth • Mae Ffwythianwyr hefyd yn gweld crefydd fel rhywbeth sy'n rhwystro newid. Ond yn eu barn nhw, mae hyn yn beth da – rhywbeth sy'n creu trefn gymdeithasol sy'n seiliedig ar werthoedd a rennir. • Durkheim – Mae'r hyn sy'n gysegredig (sanctaidd neu ysbrydol) yn cynrychioli gwerthoedd cymdeithas neu'r gymuned. Trwy addoli'r cysegredig yn effeithiol mae pobl yn addoli eu cymdeithas. • Mae crefydd yn cynnal cydlyniad cymdeithasol trwy ddarparu arferion a chredau sy'n uno – ymwybyddiaeth gyffredinol. • Mae crefydd yn cryfhau gwerthoedd ac yn hybu ymdeimlad o berthyn ac ymroddiad. Mae newid cymdeithasol ac ymddygiad gwyrdroëdig yn cael eu cyfyngu, gan fod crefydd yn rhwymo pobl i gymdeithas.
Crefydd - Ffwythiannaeth • Parsons – Mae crefydd yn gosod canllawiau ar gyfer unigolion a chymdeithasau yn nhermau gwerthoedd craidd. • Mae crefydd yn helpu i integreiddio pobl mewn cymuned neu gymdeithas ac yn eu helpu i wneud synnwyr o'u bywydau. • Malinowski - Mae crefydd yn helpu i ddelio gyda straen emosiynol a gofid digwyddiadau megis marwolaeth. Mae seremonïau crefyddol mewn angladdau yn creu undod grŵp ac maent yn helpu i reoli tensiwn. • Bellah - mae Crefydd Sifil (symbolau, defodau a seremonïau seciwlar) yn creu cydlyniad cymdeithasol. Felly mae chwifio baneri, priodasau a marwolaethau teulu brenhinol yn achosi ymdeimlad cyfunol sy'n cynhyrchu trefn. • Mae Ffwythianwyryn gweld crefydd fel grym i gymdeithasoli ac integreiddio pobl mewn cymdeithas, i gynnal normau a gwerthoedd cymdeithasau – gan atal anomi, a galluogi pobl i dderbyn digwyddiadau sy'n newid bywyd.
Crefydd - Ffeministiaeth • Mae menywod yn gweld Duw fel duw cariad, cysur a maddeuant – mae dynion yn gweld Duw fel duw pŵer a rheolaeth. (Davie, 1994) • Yn aml, mae menywod yn cael eu cau allan o bŵer mewn llawer o grefyddau – mae'r Eglwys Babyddol yn caniatáu offeiriaid sy'n wrywod yn unig, yr Iddewon Uniongred Rabbis sy'n wrywod yn unig ac Islam Imamiaid sy'n wrywod yn unig. • Mae ffeministiaid yn credu bod crefydd yn batriarchaidd ac yn cyfiawnhau tra-arglwyddiaeth gan ddynion. Mae'r ysgrythurau a thestunau crefyddol yn dweud yn aml fod menywod yn amherffaith, yn demtwragedd neu'n tynnu sylw dynion. E.e. Crëwyd Efa allan o Adda - Efa a'r afal. • Er bod llawer o fenywod yn cael eu dwysbarchu mewn Cristnogaeth, mae hyn yn digwydd fel arfer trwy weithredoedd o ddiweirdeb, elusen neu fel rhai sy'n esgor ar blant. Gwelir y forwyn Fair fel person dwyfol am ei bod yn fam i'r Iesu. • Mae ordeinio menywod yn offeiriaid yn Eglwys Lloegr wedi achosi llawer o raniadau. Mae llawer yn gweld hyn fel prawf pellach o ddarostyngiad menywod mewn crefydd.
Seciwlareiddio • “Proses lle mae crefydd yn colli ei dylanwad dros wahanol gylchoedd o fywyd cymdeithasol”. (Wilson, 1996) • Mae mynychu ac aelodaeth yr Eglwys wedi gostwng (cael gwared a gair yma) dros 1 miliwn yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf, Yn 2000, 7.5% o'r boblogaeth yn unig oedd yn mynd i'r eglwys, a 10% o'r boblogaeth oedd yn aelodau o eglwys. (Religious Trends, 2000) • Mae bedydd wedi gostwng o bron 40% ers 1900. (Religious Trends, 2000) • Mae oedran cyfartalog eglwyswyr yn cynyddu yn gyflym a 4% yn unig o'r boblogaeth sy'n mynd i Ysgol Sul. (Religious Trends, 2000) • Bellach 50% o briodasau sy'n cael eu dathlu yn yr Eglwys o gymharu â 75% 30 o flynyddoedd yn ôl. • Yn 1900, roedd dros 45,000 o glerigwyr ym Mhrydain. Mae hyn wedi gostwng i ychydig dros 34,000 yn 2000 - er bod y boblogaeth wedi dyblu. • Mae'r DU wedi mynd yn fwy aml-ddiwylliannol ac mae eglwysi sefydledig yn colli eu dylanwad wrth integreiddio pobl i werthoedd a rennir. • Mae gwyddoniaeth ac esboniadau rhesymegol yn tanseilio crefydd.
Seciwlareiddio - gor-gyffredinoli? • Mae'n anodd mesur seciwlareiddio – mae grwpiau gwahanol yn mesur aelodaeth mewn gwahanol ffyrdd. • Profiad preifat yw crefydd i lawer ac felly ni ellir ei fesur mewn modd dibynadwy. Mae Davie (1995) wedi disgrifio'r sefyllfa ym Mhrydain fel “credu heb berthyn”. • Yn ôl yr arolygon, mae lefelau uchel o grefyddoldeb a chredau crefyddol yn dal i fodoli. Ym 1998, cytunodd 21% o'r rhai a holwyd â'r datganiad “Rwy'n gwybod bod Duw yn bodoli ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch hyn”. 10% yn unig ddywedodd nad oeddynt yn credu yn Nuw o gwbl. (Arolwg British Social Attitudes, 1998) • Mae rhaglenni crefyddol megis Songs of Praise ar y BBC yn denu rhwng 7 ac 8 miliwn o wylwyr. • Tra bod crefyddau sefydledig yn dirywio ym Mhrydain, mae'r twf yn y boblogaeth o fewnfudwyr wedi arwain i gynnydd mewn crefyddoldeb. Islam yw'r grefydd sy'n tyfu cyflymaf ym Mhrydain ac mae aelodaeth o’r eglwys nad yw'n Drindodaidd yn cynyddu. • Mae'r nifer sy'n cymryd rhan mewn crefydd yn amrywio hefyd yn ôl grwpiau cymdeithasol, gyda grwpiau lleiafrif ethnig yn parhau i fod yn ymrwymedig i grefydd.