130 likes | 480 Views
Cyfartaledd. Modd, cymedr, canolrif Amrediad. Cyfartaleddau - Averages. Pan fo gennym restr o ddata, yn aml mae’n gyfleus i’w gynrychioli gydag un rhif. Yn fwy na dim, defnyddiwn y mesur o gyfartaledd ar gyfer hyn. e.e Mae pwysau rhai aelodau tîm pêl-droed fel a ganlyn:-
E N D
Cyfartaledd Modd, cymedr, canolrif Amrediad
Cyfartaleddau - Averages Pan fo gennym restr o ddata, yn aml mae’n gyfleus i’w gynrychioli gydag un rhif. Yn fwy na dim, defnyddiwn y mesur o gyfartaledd ar gyfer hyn. e.e Mae pwysau rhai aelodau tîm pêl-droed fel a ganlyn:- 82kg 78kg 66kg 90kg Beth yw cyfartaledd y pwysau yma? • Ond, mae yna 3 gwahanol fath o gyfartaledd:- • Y Cymedr • Y Modd • Y Canolrif
Y Camsyniad “ar gyfartaledd mae 41% o ddisgyblion yn mynd i’r ysgol heb fwyta brecwast” Mae angen gofyn y cwestiwn “pa gyfartaledd?” . Yn aml, byddwn yn cael canlyniadau gwahanol yn dibynnu ar ba gyfartaledd a ddefnyddiwn.
1. Y Cymedr • I ddarganfod y cymedr ar gyfer set o ddata, mae angen:- • Adio’r rhifau gyda’i gilydd • Rhannu gyda’r nifer o werthoedd • Enghreifftiau:- • Cyfrifwch bwysau cymedrig y chwaraewyr pêl-droed canlynol:- • 82kg 78kg 66kg 90kg • Pwysau Cymedrig = • Dangosir canlyniadau rhai o arholiadau disgybl o flwyddyn 10 isod: • 56% 74% 66% 51% 70% • Cyfrifwch y marc cymedrig.
2. Y Modd • Y modd yw’r rhif sy’n ymddangos fwyaf. • Enghreifftiau:- • Dangosir yr amser (i’r eiliad agosaf) a gymerodd Matt Elias i redeg ei rasys 400m isod:- • 45s 46s 44s 44s 47s 43s 44s 49s 45s 44s • Cyfrifwch y modd ar gyfer y data yma. • 2. Dangosir marciau gwaith cartref Rhiannon allan o 20 isod. Cyfrifwch ei marc moddol. • 14 14 15 13 12 11 17 14
3. Y Canolrif • Y canolrif yw’r rhif sydd yn y canol ar ôl rhestru’r data mewn trefn. • Enghreifftiau:- • Darganfyddwch y canolrif ar gyfer y cyflymderau canlynol:- • 46m/s 41m/s 40m/s 42m/s 42m/s 45m/s 39m/s • Ail-drefnwn yn ôl eu maint:- 39m/s 40m/s 41m/s 42m/s 42m/s 45m/s 46m/s Ac felly, y canolrif yw 42m/s • Darganfyddwch ganolrif y data canlynol sy’n dangos uchder rhai mynyddoedd ym Mhrydain. • 1543m, 2001m, 1088m, 789m, 2059m, 2222m, 1675m, 1473m • Ail-drefnwn yn ôl eu maint:- 789m, 1088m, 1473m 1543m, 1675m, 2001m, 2059m, 2222m
Ymarfer • 1. Cyfrifwch gymedr, modd a chanolrif y data isod. • 0.5kN, 0.6kN, 0.9kN, 0.5kN, 0.6kN, 0.75kN • 10%, 20%, 90%, 50%, 50%, 60%, 70% • ½, ¼, 1/3, 1/8, 1/10, 1/7, ½ • (ch) 19.6, 12.3, 14.5, 14.5, 20.1, 15.1, 23.8 • 1kg, 2kg, 5kg, 1kg, 4kg, 2kg • 2. Cyfrifwch gymedr, modd a chanolrif y data isod. Yn eich barn chi, pa un o’r tri mesur sydd orau ar gyfer y data yma? Eglurwch eich ateb! • 234mm, 192mm, 216mm, 456mm, 56mm, 200mm, 249mm • Cyfrifwch gymedr, modd a chanolrif y gwerthoedd canlynol: • 26, 48, 56, 123, 8, 12, 25, 29, 59, 46, 38, 89, 60 • 2, 8, 6, 7, 5, 6, 5, 1, 3, 2, 5, 9, 4, 6, 2, 8, 1, 6 • 1.8, 1.4, 1.3, 0.8, 0.9, 1.3, 1.8, 2.5 • -2, 5, -8, 6, 8, -4, -7, -7, 3, 1, 0, 0, 0, 9, 8, -6, -3
1. 2. Gwerth Mwyaf Gwerth Lleiaf Gwerth Lleiaf Gwerth Mwyaf Yr Amrediad Mae’r amrediad yn fesur arall gallwn ddefnyddio i gynrychioli set o ddata. Mae’r amrediad yn disgrifio gwasgariad y data, h.y faint mae’n amrywio. I gyfrifo, Amrediad = gwerth mwyaf – gwerth lleiaf
Grwpio data Grwpiwch y data canlynol : 12 26 4 85 12 08 63 49 46 19 85 41 36 70 25 16 48 21 19 84 75 91 08 12 36 25 48 Beth yw cymedr a grŵp moddol y data hwn?
Grwpio data Grwpiwch y data canlynol : 23 34 59 74 13 60 58 10 32 65 98 58 54 34 66 99 12 08 69 14 25 69 44 43 82 03 01 64 76 31 46 58 09 11 96 12 Beth yw cymedr a grŵp moddol y data hwn?
Rhif Gwerth – Cyfanswm y rhifau yn y Canolrif y grwpiau blaenorol Nifer y gwerthoedd yng ngrwp y canolrif x Amrediad y gwerthoedd yng ngrwp y canolrif + Isafswm grwp y canolrif Canolrif Grwpiau Er mwyn darganfod canolrif grwp o ddata mae’n rhaid i ni’n gyntaf ddarganfod ym mha grwp y bydd. Fel yn achos data arwahanol rydym yn gweld ym mha grwp y mae’r gwerth canol. Gan fod y cyfanswm o werthoedd yn odrif, gallwn ddewis y rif yn y canol – felly gwerth rhif 11 – a chanfyddwn y bydd y canolrif yn ymddangos yn y grwp 10<x≤20. Mae 6 gwerth yn y grwp cyntaf, felly ein canolrif fydd y 5ed gwerth yn yr ail grwp. Er mwyn darganfod hyn, rydym yn defnyddio’r fformiwla geiriol hyn:
Canolrif Gan fod 68 o werthoedd yn y grwp hyn, gwn y bydd y canolrif hanner ffordd rhwng gwerthoedd 34 a 35. Mae gwerth 34 a 35 yng ngrwp 50<x≤60 felly gallwn ddefnyddio ein fformiwla dwywaith er mwyn eu canfod. Gwerth 34: Gwerth 35: Canolrif: