160 likes | 349 Views
Lechyd a lles gwartheg godro. Amcanion dysgu. Cofio’r pum rhyddid ar gyfer anifeiliaid. Deall pwysigrwydd cynnal iechyd a lles y gwartheg godro. Cydnabod atal a thrin problemau iechyd cyffredin mewn gwartheg. Pwysigrwydd iechyd a lles. Mae iechyd a lles y gwartheg godro
E N D
Amcanion dysgu • Cofio’r pum rhyddid ar gyfer anifeiliaid. • Deall pwysigrwydd cynnal iechyd a lles y gwartheg godro. • Cydnabod atal a thrin problemau iechyd cyffredin mewn gwartheg.
Pwysigrwydd iechyd a lles Mae iechyd a lles y gwartheg godro ar frig blaenoriaethau pob ffermwr llaeth. Mae iechyd, lles a hirhoedledd yn cael eu blaenoriaethu dros gynnyrch llaeth. Mae’r ffermwyr ar bob un o’r 17,000 o ffermydd llaeth ledled y DU yn gwneud yn siwr bod eu gwartheg yn cael y gofal gorau posibl gyda bwyd maethlon, digon o ddŵr a siedau a chaeau helaeth.
Pum Rhyddid • ‘Pum Rhyddid’ y Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm yw: • Rhyddid rhag newyn a syched; • Rhyddid rhag anghysur; • Rhyddid rhag poen, niwed neu afiechyd; • Rhyddid i ymddwyn yn arferol; • Rhyddid rhag ofn a thrallod.
Pasbort anifeiliaid Mae pob un o’r gwartheg godro ym Mhrydain yn gwisgo tag clust â rhif unigryw. Mae’r rhifau hyn i’w gweld ar basbort y gwartheg hefyd. Gall pob pasbort olrhain mam yr anifail, lle’i ganed ac unrhyw newid mewn lleoliadau yn ystod ei fywyd.
Gwiriadau iechyd gyr Mae ffermwyr llaeth yn cydweithio â milfeddygon neu arbenigwyr eraill i ddatblygu cynlluniau iechyd ar gyfer eu gyrr Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth fel rhaglenni atal a thriniaeth ar gyfer afiechydon a mân anhwylderau cyffredin, ynghyd ag amserlenni brechiadau. Mae’r cynllun iechyd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.
Pori Mae’r rhan fwyaf o wartheg godro yn cael eu cadw dan do dros y gaeaf a’r tywydd garw. Mae’r gwartheg godro yn pori allan yn ystod yr haf, gan symud allan o’u siedau dan do. Y tu allan maent yn cael y cyfle i bori’n hamddenol, ymarfer eu cyrff drwy gerdded o gwmpas, cael awyr iach a golau naturiol.
Siedau gwartheg Mae’r rhan fwyaf o wartheg godro dan do yn ystod y gaeaf, ond mae rhai ffermydd yn cadw’r gwartheg dan do drwy’r flwyddyn. Cynlluniwyd siedau i sicrhau bod digon o le i’r gwartheg ymarfer, cymdeithasu a gorffwys. Rhaid i siedau gydymffurfio â chynllun Ffermydd Llaeth Sicr, (ADF), gan sicrhau eu bod yn cwrdd â’r ‘Pum Rhyddid’.
Maethegwyr anifeiliaid Mae angen deiet iach a chytbwys ar wartheg er mwyn cynhyrchu llaeth, felly mae ffermwyr llaeth yn gweithio gyda maethegwyr i greu cynlluniau deiet arbennig. Bydd y deiet yn darparu cydbwysedd maethlon o ynni, protein, fitaminau a mwynau. Wrth gynllunio deiet mae’r maethegwyr yn ystyried oedran a phwysau’r gwartheg, ynghyd â faint o laeth meant yn debygol o gynhyrchu.
Menter y Tractor Coch Mae symbol y Tractor Coch ar becyn yn golygu bod y llaeth a’r cynnyrch llaeth wedi cael eu cynhyrchu yn unol â safonau’r cynllun Gwarant Ffermydd Llaeth. Datblygwyd hwn gan ffermwyr llaeth, proseswyr, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) a Chymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain.
Menter y Tractor Coch The scheme sets higher standards for: • Mae’r cynllun yn gosod safonau uwch ar gyfer: • mynediad at fwydydd maethlon a dŵr ffres; • ysguboriau a phorfeydd eang a chysurus; • y gofal gorau gan filfeddygon.
Gofid iechyd: mastitis Haint yng nghadair y fuwch yw mastitis, sy’n cael ei achosi gan facteria yn cael mynediad drwy’r deth ac yn heintio’r chwarren laeth. Gellir ei adnabod drwy gochni a chwyddo yn y gadair. • Rheolir yr haint drwy: • amgylchedd hylan; • godro hylan; • maeth da.
Gofid iechyd: symudedd y gwartheg godro Mae cloffi yn haint parhaus yn y droed neu’r goes sy’n amharu ar symudedd y gwartheg godro. Mae ffermwyr llaeth yn canolbwyntio ar ofal ataliol, er enghraifft, drwy ddefnyddio tociwr traed, baddon traed a defnyddio’r milfeddyg yn rheolaidd. • Er mwyn lleihau cloffni, mae ffermwyr hefyd wedi gwella: • y llwybrau a’r arwynebedd mae gwartheg yn sefyll ac yn cerdded arnynt; • stondinau sied a’r buarth.
Gofid iechyd: tiwberciwlosis gwartheg Mae’r afiechyd tiwberciwlosis gwartheg (bTB) yn un cronig a heintus. Mae’n anodd gwneud diagnosis cynnar a gall lledaenu’n gyflym drwy’r gyr cyn cael ei ddarganfod. Ar hyn o bryd, yr unig ffordd o atal yr afiechyd rhag lledaenu yw difa’r gwartheg heintiedig.
Crynodeb • Mae iechyd a lles y gwartheg godro ar frig blaenoriaethau pob ffermwr llaeth. • Rhaid i bob ffermwr llaeth sicrhau eu bod yn cwrdd â’r ‘Pum rhyddid’ i anifeiliaid. • Mae pasbort gwartheg, gwiriadau iechyd gyr, milfeddygon a maethegwyr anifeiliaid i gyd yn cyfrannu at sicrhau safon iechyd dai wartheg godro. • Mae ffermwyr yn cymryd camau i atal a thrin problemau iechyd cyffredin fel mastitis, cloffni a tiwberciwlosis gwartheg.
Am fwy o wybodaeth ewch i: www.foodafactoflife.org.uk