140 likes | 562 Views
Arddodiaid. Beth yw’r arddodiaid?. Pwrpas arddodiaid yw dangos y berthynas rhwng gair ( e.e. berf) ac enw/rhagenw. e.e. Mae’r gath ar y mat. Mae’r gadair o dan y bwrdd. Cerddais dros y bont. Yr arddodiaid mwyaf cyffredin yw…. am. ar. at. gan. heb. i. o. dan. dros. drwy.
E N D
Beth yw’r arddodiaid? Pwrpas arddodiaid yw dangos y berthynas rhwng gair (e.e. berf) ac enw/rhagenw. e.e. Mae’r gath ar y mat. Mae’r gadair o dan y bwrdd. Cerddais dros y bont.
Yr arddodiaid mwyaf cyffredin yw… am ar at gan heb i o dan dros drwy wrth hyd Dysgwch nhw!!!
Rheolau’r Arddodiaid: (1) Mae treiglad meddal yn dilyn arddodiad. ar pen = ar ben e.e. + i + Caerdydd = i Gaerdydd dros + Cymru = dros Gymru Ydych chi’n cofio’r treiglad meddal?
Ymarfer:Cyfunwch yr arddodiaid â’r enw neu’r ferfenw. Cofiwch dreiglo os oes angen.
Rheolau’r Arddodiaid (parhad): (2) Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio arddodiaid arbennig ar ôl rhai berfenwau neu gall effeithio ar eu hystyr. e.e.edrych am edrych ar Sylwch ar y gwahaniaeth: Rydw i’n edrych am fy nghi, mae ar goll. Rydw i’n edrych ar y teledu.
Pa arddodiaid gyda pha ferfenwau? edrych edrych am… gofyn gofyn am… am sôn sôn am… talu talu am…
Pa arddodiaid gyda pha ferfenwau? edrych edrych ar… gweiddi gweiddi ar… ar gwrando gwrando ar… sylwi ar… sylwi
Pa arddodiaid gyda pha ferfenwau? ysgrifennu ysgrifennu at.. mynd at… mynd at anfon at… anfon anelu at… anelu
Pa arddodiaid gyda pha ferfenwau? cwrdd â… cwrdd cyffwrdd â… cyffwrdd dod â… dod â/ag mynd mynd â… peidio peidio â… siarad siarad â…
Ymarfer 1: Llenwch y blwch gan gofio treiglo. 1) Rydw i’n siarad am _______ Siôn. (brawd) 2) Aeth hi mewn trwy _______ yr ystafell Gymraeg. (drws) 3) Roedd hi wedi dod heb _______ . (ceiniog) 4) Sut mae mynd i _______? (Caerdydd) 5) Roedden nhw wedi dod o _______. (Penarth) 6) Mae bag ar _______ yr ystafell Saesneg. (llawr) 7) Mae’r bocs ar _______ y cwpwrdd. (pen) 8) Mae ganddi hi wers ar _______ Llun.(dydd)
Ymarfer 2: Llenwch y blwch â’r arddodiad cywir. 1) Maen nhw’n edrych _______ y teledu. 2) Rydw i eisiau gwrando _______ y radio. 3) Wyt ti eisiau siarad _______ fi? 4) Mae’r bachgen yn gwenu _______ Catrin. 5) Talodd ef lawer o arian _______ yr anrheg. 6) Peidiwch _______ gwneud sŵn.7) Mae hi’n mynd _______ y meddyg yn fisol. 8) Mae’r erthygl yn sôn _______ y problemau yn Affrica.