70 likes | 357 Views
Cynhwysedd. Cynhwysedd. Cynhwysedd yw dull o fesur faint o hylif y gallai cynhwysydd ei ddal, e.e. faint o ddŵr y mae jwg yn ei ddal. Gallwn fesur cynhwysedd trwy ddefnyddio unedau metrig ac imperial - e.e. Litrau, galwyni, peintiau, centimetrau ciwb ayb. cl. ml.
E N D
Cynhwysedd Cynhwysedd yw dull o fesur faint o hylif y gallai cynhwysydd ei ddal, e.e. faint o ddŵr y mae jwg yn ei ddal. Gallwn fesur cynhwysedd trwy ddefnyddio unedau metrig ac imperial - e.e. Litrau, galwyni, peintiau, centimetrau ciwb ayb cl ml Mae ____ mililitr mewn 1 centilitr. Mae ____ mililitr mewn 1 litr. Mae ____ centilitr mewn 1 litr. Mae ____ peint mewn 1 galwyn. Mae ____ owns hylif mewn 1 peint. Mae ____ centimetr ciwb mewn 1 metr ciwb. l 3 3 cm m
Enghreifftiau • Trawsnewidiwch 6cl yn ml • Trawnewidiwch 9 peint yn ownsys hylif. • Trawsnewidiwch 3200ml yn l. 6cl = 6 x 10 = 60ml 9 peint = 9 x 20 = 180 owns hylif 3200ml = 3200 ÷ 1000 = 3.2l
Cwestiynau Trawsnewidiwch: • 6cl = ______ ml • 180owns hylif = ______peint • 2300000cm3 = ______m3 • 9 galwyn = ______ peint • 500ml= ______l • 3l = ______ cl • 960 owns hylif = ______galwyni
Cwestiynau • Cynhwysedd jwg yw 30ml a chynhwysedd bwced yw 310ml. Mae’r jwg yn cael ei lenwi â dŵr ac mae’r dŵr yn cael ei arllwys i mewn i’r bwced. Mae hwn yn digwydd 10 gwaith. Dangoswch pam na fydd y bwced yn gorlifo. • Mae Mari yn llenwi ei baddon â dŵr, sef 100 litr, ond mae’r plwg yn torri ac felly ni all y dŵr arllwys ohono. Mae’n penderfynu defnyddio bwced â chynhwysedd o 12 litr er mwyn arllwys y dŵr. Sawl bwcediad y bydd angen er mwyn gwagio’r baddon? • Mae Siôn yn prynu potel 2 litr o lemwnêd er mwyn llenwi poteli llai ar gyfer mynd i’r ysgol. Os yw’r poteli llai yn dal 440ml, sawl potel y gallai lenwi ag 1 botel fawr?