70 likes | 266 Views
Astudio’r Cyfryngau. Ffilm. Ail-ddal…Saethiadau Camera. Saethiad Sefydlu – Saethiad pell/hirbell fel arfer ar ddechrau golygfa/naratif i ddangos lleoliad Arafu Lluniau (Slow Motion) Tremio/Panio – Y camera’n symud rownd yn llorweddol i sylwi ar olygfa gellir tremio 360 °
E N D
Astudio’r Cyfryngau Ffilm
Ail-ddal…Saethiadau Camera • Saethiad Sefydlu – Saethiad pell/hirbell fel arfer ar ddechrau golygfa/naratif i ddangos lleoliad • Arafu Lluniau (Slow Motion) • Tremio/Panio – Y camera’n symud rownd yn llorweddol i sylwi ar olygfa gellir tremio 360° • Tynhau/Llacio Lens (zoom in/zoom out) • Saethiad Cledru (Tracking Shot) – Symud ochr yn ochr a’r weithred/cymeriad • Saethiad Ôl-Cledru (Reverse Tracking Shot) – Llacio lens ac yna cledru yn ôl mewn un symudaid llyfn, hyn yn agor yr holl olygfa allan • Saethiad POV (point of view) – Saethiad o safbwynt y cymeriad • Golygu – Hyd y saethiadau a sut mae’r saethiadau wedi eu trefnu mewn i ddilyniant penodol • Saethiad ongl isel/uchel (worm’s eye view/bird’s eye view)
Nod y wers • Mynd dros y gwaith cartref a chynllunio ar gyfer ysgrifennu traethodau yn y dyfodol • Dadansoddi cynrychiolaeth dynion a phobl ifanc mewn dwy ffilm gyfoes • Dadansoddi tri chlawr DVD cyfoes a deall sut mae’r cloriau yn bwysig i hyrwyddo a marchnata ffilm • Ymchwil ar rheoleiddio
Cynllun Traethawd MS1 • 35-40 munud (3-4 ochr) • Agoriad yn crynhoi’r cwestiwn • Cynrycholaeth positif/negyddol • Ystrydebau a pam fod y cyfryngau yn eu defnyddio • O leiaf 3 enghraift penodol o 3 testun cyfryngol gwahanol • Diweddglo yn crynhoi’r ateb • Terminoleg, theori, cysyniadau a mudiadau • Peidiwch ac ateb fel cwestiwn dadansoddi!!! • Cadwch at y cwestiwn
BBFC • Pwy yw’r BBFC a beth yw eu gwaith? • Sutmae’r BBFC yn cael ei ariannu? • Sawl dosbarthiad sydd yna ar gyfer ffilmiau a beth ydynt? • Beth yw’r tri prif beth mae’r BBFC yn cysidro pan yn dosbarthu ffilmiau? • Sawl deddf (act) sydd rhaid i’r BBFC gysidro cyn dosbarthu eu ffilmiau? • Pa gyfryngau mae’r BBFC yn gyfrifol am ddosbarthu? • Pa materion (issues) sy’n dylanwadu ar ddosbathiad ffilmiau a.y.b? • Beth yw disgrifiad cryno o ffilm: PG, 12A, 12, 15, 18, R18? • Beth yw cyfeiriad we y BBFC ar gyfer myfyrwyr? • Pa fath o ffilm gall gael ei wrthod gan y BBFC?