110 likes | 311 Views
Bondaweb. Beth yw Bondaweb?. Mae glud ar ddwy ochr y defnydd hwn. Pan mae haearn smwddio’n cael ei roi ar y ffabrig mae’r glud yn toddi ac yn glynu i’r ffabrig neu’r papur.
E N D
Beth yw Bondaweb? Maeglud ar ddwy ochr y defnydd hwn. Pan mae haearn smwddio’n cael ei roi ar y ffabrig mae’r glud yn toddi ac yn glynu i’r ffabrig neu’r papur. Gellir ei ddefnyddio i ddal hemiau neu gellir ei beintio i wneud effeithiau diddorol. Gellir creu ystod eang o batrymau a dyluniadau – stribedi, blodau, dyluniadau haniaethol ayyb . Gweler syniadau dylunio. Perygl ! Rhaid cymryd gofal wrth ei ddefnyddio – wrth ei smwddio mae’n rhaid i chi gofiogosod y papur ar y top neu mi fydd y defnydd yn mynd yn sownd yn yr haearn smwddio ac yn gwneud llanast.
Sut i: Torri darn o Bondaweb. Mae’n ddefnydd ddrud felly ceisiwch osgoi defnyddio darnau mawr.
Sut i: Defnyddio paent ffabrig. Dechreuwch beintio’r bondaweb yn y lliwiau rydych wedi’u dewis. Mae paent metelig yn gweithio’n dda iawn yn y dechneg hon. Ystyriwch pa liwiau sy’n gweithio’n dda gyda’i gilydd a pha rai sydd ddim.
Sut i: Dechreuwch beintio’ch patrwm ar ochr arw’r Bondaweb (yr ochr sydd â glud arno) Gallwch beintio unrhyw batrwm rydych yn ei ddymuno. Dotiau polca wnaeth ysbrydoli’r patrwm hwn – gallai hwn fod y prif ddyluniad neu’r cefndir i waith dylunio pellach. Mae’n bwysig cofio hyn.
Sut i : Parhau i ddatblygu’ch dyluniad drwy beintio lliwiau eraill. Gallwch lenwi’ch tudalen Bondaweb â lliwiau neu adael bylchau lle dydych chi ddim angen lliwiau. Cadwch mewn cof yr effeithiau sydd i’w cael wrth gyfuno gwahanol liwiau.
Sut i: Ychwanegu lliwiau eraill nes eich bod wedi cwblhau’ch dyluniad. Unwaith rydych wedi gorffen peintio’r Bondaweb gadewch iddo sychu. Gallwch ddefnyddio sychwr gwallt er mwyn arbed amser ac i sicrhau fod y paent yn hollol sych. Rhybudd diogelwch – byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio sychwr gwallt, peidiwch â gosod y ffroenell yn rhy agos i’r Bondaweb.
Sut i: Mae’n rhaid gweithio’n ofalus Cofiwch fod yr haearn smwddio’n boeth. Gosodwch y bondaweb ar eich ffabrig. COFIWCH – mae’n rhaid i’r ochr bapur fod yn wynebu ar i fyny. Dylai’r glud paentiedig fod mewn cyswllt â’r ffabrig ac nid yr haearn smwddio. Gosodwch yr haearn smwddio ar y Bondaweb ac wrth i chi smwddio bydd y gwres yn ymdoddi’r glud a’r paent i’r ffabrig. Bydd haen o bapur silicon dros y Bondaweb yn eich helpu i osgoi gadael marciau llosgi.
Sut i: Mae’n rhaid i chi weithio’n ofalus. Cofiwch fod y Bondaweb yn boeth – gadewch iddo oeri. Gadewch i’r papur oeri, neu fel arall byddwch yn llosgi’ch hun. Dechreuwch blicio’r papur oddi ar y ffabrig. Dylai’r glud a’r paent lynu i’r ffabrig. Os dydy hyn ddim yn digwydd smwddiwch y Bondaweb eto, ond mae’n rhaid gorchuddio’r haearn smwddio â’r papur silicon.
Sut i: Dylai eich dyluniad fod ar y ffabrig. Gall yr effaith amrywio, weithiau mae effaith wedi cracio’n edrych yn dda iawn. Gallwch nawr ddefnyddio ystod o dechnegau gwahanol i ddatblygu’ch dyluniad ymhellach. Pa dechnegau allech chi eu defnyddio i ychwanegu lliw a gwead pellach i’r dyluniad Bondaweb lliw?
Sut i: Cyfuno technegau Mae’r technegau bondaweb yn gweithio’n dda pan maen nhw’n cael eu cyfuno â thechnegau eraill, megis brodwaith peiriant rhydd, brodio cyfrifiadurol a siapiau sydd wedi cael eu torri allan gan dorrrwr laser. Dydy hi ddim yn bosibl golchi’r defnydd ac mae hyn yn anfantais. Mae’r dyluniad gyferbyn yn gyfuniad o sawl techneg. Mae’r streipiau metelig yn esiampl o Bondaweb. Defnyddwyd papur troslunio smwddio ymlaen i ychwnaegu’r llythrennau. Mae’r effaith wedi treulio ar y Bondaweb wrth iddo sychu’n ychwanegu effaith gweadeddol gwych.