120 likes | 536 Views
N ôd y gwersi. Deall a dadansoddi y gerdd 11.12.82 gan Iwan Llwyd. Cefndir a chynnwys. Mesur ac Arddull. Neges. Sgiliau Allweddol a ddatblygir. Cyfathrebu/Gwella dysgu a pherfformiad. 11.12.82. Iwan Llwyd. Iwan Llwyd. Ffeil ffeithiau. Enw llawn: Iwan Llwyd Dyddiadau: 1958 -
E N D
Nôd y gwersi Deall a dadansoddi y gerdd 11.12.82 gan Iwan Llwyd Cefndir a chynnwys Mesur ac Arddull Neges Sgiliau Allweddol a ddatblygir Cyfathrebu/Gwella dysgu a pherfformiad 11.12.82 Iwan Llwyd
Iwan Llwyd Ffeil ffeithiau Enw llawn: Iwan Llwyd Dyddiadau: 1958 - Llwyddiannau: Ennill coron Eisteddfod Genedlaethol 1990. Cerddi: Gwreichion 1990, Dan ddylanwad 1997. Teithiau: U.D.A., Canada, Gwlad Pŵyl.
11.12.82 Cefndir Yn 1282, lladdwyd Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri, yr olaf o’r tywysogion Cymreig. Ar Ragfyr 11eg 1982, dathlwyd 700 mlwyddiant ei farwolaeth. Pwyswch y botwm Esc. a theipiwch y 3 pennill cyntaf i’r blwch yma.
1a. Nodwch enw’r gerdd ac enw’r bardd. (2) 1b. Yn eich geiriau eich hun, nodwch yr hyn y mae’r bardd yn ei ddweud yn y gerdd.(6) 11.12.82 - gan Iwan Llwyd -Ar Ragfyr 11eg 1982, disgrifia’r bardd Gilmeri ar ddiwrnod gaeafol, oer pan ymunodd yn y dathliad. Teimla ei hun yn ail fyw’r profiad a theimlwn ni ei fod yn dianc i’r gorffennol. -Cawn y bardd yn sefyll ger carreg Cilmeri, yn oer, bron fferru a chlyw hanes y gorffennol yn cael ei adrodd. -Pwysleisio’r distawrwydd a geir – distawrwydd y dorf a thawelwch Cymru fel cenedl dros y saith canrif – aeth saith canrif yn ddistaw. -I darfu ar dawelwch y myfyrio, clyw floedd y baban ac yn sydyn daw’n ôl i’r presennol. -Fel y bardd Gerallt Lloyd Owen, mae’n cofio am y gorffennol a’i droi’n her i’r presennol – a her canrif newydd yn nychryn ei waedd.
Beth yw mesur y gerdd? Pa effaith mae hyn yn ei greu? Mesur: Effaith: 1c. Pa un yw eich hoff ddisgrifiad yn y gerdd, a rhowch ddau reswm am eich dewis?(3) Disgrifiad: Rheswm 1: Rheswm 2:
1ch. Llenwch y tabl isod er mwyn dysgu a dadansoddi crefft ac arddull y gerdd.(10) Chwiliwch am ddyfyniadau pwrpasol. Rhowch RESYMAU pam!
1d. Sut greodd neges 11.12.82 fwyaf o argraff arnoch chi? Rhowch resymau pam.(6) -Bwriad y bardd yw ____________________________________________ ____________________________________________________________ ________________________________________________________________________________________________________________________ Neges Rheswm 1: Rheswm 2: Rheswm 3: Rheswm 4: