270 likes | 482 Views
Caerfyrddin Canoloesol. Ysgol Dyffryn Taf. Tony Price – Adran Hanes. Er nad yw map John Speed , 1610 yn perthyn i’r canoloesoedd mae’n rhoi darlun gweddol glir o batrwm Caerfyrddin yn y cyfnod hwnnw - ni fu newid mawr yn y dref rhwng y Canoloesoedd a Chyfnod y Stiwartiaid.
E N D
Caerfyrddin Canoloesol Ysgol Dyffryn Taf Tony Price – Adran Hanes
Er nad yw map John Speed , 1610 yn perthyn i’r canoloesoedd mae’n rhoi darlun gweddol glir o batrwm Caerfyrddin yn y cyfnod hwnnw - ni fu newid mawr yn y dref rhwng y Canoloesoedd a Chyfnod y Stiwartiaid. CAERFYRDDIN 1610 – Map John Speed Y Canoloesoedd Cyfnod y Tuduriaid Cyfnod y Stiwartiaid c.1000 - 1485 c.1485 - 1603 c. 1603 - 1714
CAERFYRDDIN 1610 – Map John Speed Lle mae’r Afon Tywi?
CAERFYRDDIN 1610 – Map John Speed Lle mae’r gorthwr canoloesol?
CAERFYRDDIN 1610 – Map John Speed Lle mae’r eglwys?
Rydych am fynd ar daith o gylch Caerfyrddin yn y canoloesoedd. Ar y dudalen nesaf cliciwch ar y labeli er mwyn dysgu mwy am y rhan honno o’r dref. Ychwanegwyd lluniau cyfoes er mwyn cymharu y dref ganoloesol a’r hyn sydd yno heddiw.
Y Gorthwr Y Bont Stryd y Brenin Stordai’r Cei Yr Eglwys Stryd y Cei Porth Tywyll Y Felin Y Priordy Heol Awst Llun gan Neil Ludlow. Fe'i atgynhyrchir gyda chaniatad caredig Archeoleg Cambria ac Amgueddfa Sir Caerfyrddin DIWEDD
Y Gorthwr (Keep) Castell pren mwnt a beili a adeiladwyd yn 1109 oedd y cyntaf ar y safle yma. Ail-adeiladwyd y castell pren gwreiddiol o gyfnod Harri'r Iaf mewn carreg yn ystod y 13eg ganrif. Rhoddwyd to carreg ar y gorthwr (shell keep) yn ystod teyrnasiad Edward I, a dyma oedd ei ganolfan llywodraethol yn Ne Cymru. Gallwch ddringo i ben y waliau a chael golygfa dros y dref gyfoes.
Heol y Brenin Datblygodd Heol y Brenin y tu allan i waliau gwreiddiol Caerfyrddin Newydd, ond roedd pen uchaf y stryd o fewn y dref Rufeinig ac felly yn rhan o'r Hen Gaerfyrddin. (Mae Caerfyrddin Newydd yn cyfeirio at y rhan o'r dref a ddatblygodd yng nghysgod y castell tra bod Hen Gaerfyrddin yn cynnwys yr anheddiad a ddatblygodd o'r dref Rufeinig. Roedd y ddwy dref arwahan hyd nes y cawsant eu huno yn nheyrnasiad Harri VIII). Adeiladwyd y waliau mwyaf diweddar a amgylchynai y Caerfyrddin Newydd estynedig yng nghyfnod Harri V ac roeddynt yn gorffen ym mhen pellaf y stryd. Mae lonydd culion megis Lon Jackson yn dangos mor gyfyng oedd y strydoedd canoloesol. Un o drigolion canoloesol cynnar Caerfyrddin sef William Kyng sydd yn rhoi yr enw ar y stryd.
Eglwys y Santes Fair Yn y gorffennol Eglwys Santes Fair oedd yr adeilad pwysicaf yn sgwar Caerfyrddin ond erbyn heddiw Neuadd y Dref sydd yn hawlio y lle hwnnw. Roedd yr eglwys efallai yn dyddio'n ol i'r 1240’au ac fe'i gelwid yn "Rood Church" am fod croes (rood) i'w cael y tu allan. Gelwir un o'r strydoedd gerllaw yn Heol y Santes Fair hyd heddiw. Roedd yn eglwys gyfoethog lle roedd pobl yn talu i gael canu offeren er cof am eneidiau eu perthnasau marw. Cafodd ei diddymu yn nheyrnasiad Edward VI yn ystod y diwygiad Protestanaidd.
Porth Tywyll Dyma oedd y fynedfa i'r dref ar gyfer teithwyr a masnachwyr o'r gorllewin ac hefyd y prif lwybr at y caeau oedd yn tyfu cnydau yr ochr yna i'r dref. I gyrraedd y fynedfa rhaid oedd croesi pont fechan dros y Wynveth. Gorchuddiwyd y nant ar ddiwedd yr 18'ed ganrif ac adeiladwyd ffordd ar gyfer wageni i lawr at y cei - Heol Las sydd yma heddiw.
Heol Awst Dim ond ychydig o dai oedd yn Heol Awst. Roedd y caeau oedd yma yn agored i'r bobl gael eu pori ar Awst 1af sef diwrnod Lammas. Enw'r stryd yn Saesneg yw Lammas Street.
Y Bont Adeiladwyd cyfres o bontydd pren gerllaw'r safle yma ers cyfnod y Rhufeiniaid. Dyma oedd y man isaf lle y gellid croesi yr afon Tywi hyd nes yr adeiladwyd y rheilffordd. Adeiladwyd y bont garreg gyntaf yn 1233, ac adeiladwyd y bont bresennol yn 1938.
Stryd y Cei Yng nghyfnod y Tuduriaid byddai'r masnachwyr cyfoethog yn byw yn y stryd yma. Erbyn hyn adeiladwyd tai eraill yn lle y rhai pren gwreiddiol oedd yno yn yr 18ed ganrif ond mae'r stryd yn dal i ddilyn y llwybr o ganol y dref i lawr at y cei. Cafodd y stryd ei phalmantu yn 1770.
Y Felin Dwr o nant Wynveth oedd yn cynnig pwer i'r felin. Mae'r nant yn dal i lifo o dan Heol Las. Roedd y felin yn agos at y cei er mwyn gallu allforio grawn yn hwylus. Yn 1251 rhoddodd Henry III ganiatad fel y gallai Henry le Arblaster droi dwr i nant Wynveth er mwyn gweithio'r felin. Yn dilyn hyn derbyniodd Henry III draean o elw'r felin.
Stordai’r Cei Byddai llongau o bob rhan o Ewrop yn dadlwytho cargo ar y cei ac fe fyddai'r nwyddau yn cael eu cadw yn y stordai. Roedd y stordai yn y cyfnod hwnnw ychydig yn uwch i fyny yr afon na'r adeilad presennol a arferai fod yn Ganolfan Treftadaeth. Yn 1324 cafodd pob llong a allai gludo 40 tunnell neu fwy o win eu gorfodi i wasanaeth y Brenin.
Y Priordy Mae archfarchnad Tesco yn wedi ei adeiladu ar safle yr hen Briordy. Dyma un o ganolfannau mwyaf y mynaich Ffransisgaidd a elwid y Brodyr Llwyd yng ngwledydd Prydain. Roedd y mynaich yn pregethu ac yn gofalu am y rhai hynny oedd yn sâl ac mewn angen yn yr ardal. Yn y Priordy roedd beddau pwysigion lleol gan gynnwys Rhys ap Thomas, (a fu'n cynorthwyo Henry Tudor i drechu Richard III). Symudwyd bedd Rhys i Eglwys St. Pedr wedi diddymu'r mynachlogydd yn y 1530au. Nid oes sicrwydd pryd y sefydlwyd y Priordy ond mae'r cofnod cynharaf yn dangos fod William de Valence, mab Iarll Penfro wedi ei gladdu yn yr eglwys yno.