1 / 18

Dadansoddi Cynhyrchion

Strategau i SBARDUNO DYLUNIO. Dadansoddi Cynhyrchion. Rhai delweddau trwy ganiat âd caredig .www.bodieandfou.com & www.wheredidyoubuythat.com. Yn yr uned hon rydyn ni’n mynd i edrych ar strategau posibl fydd yn eich helpu i gynhyrchu gwaith dylunio gwreiddiol. Rydyn ni’n mynd i:

deana
Download Presentation

Dadansoddi Cynhyrchion

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Strategau i SBARDUNO DYLUNIO Dadansoddi Cynhyrchion Rhai delweddau trwy ganiatâd caredig .www.bodieandfou.com & www.wheredidyoubuythat.com

  2. Yn yr uned hon rydyn ni’n mynd i edrych ar strategau posibl fydd yn eich helpu i gynhyrchu gwaith dylunio gwreiddiol . • Rydyn ni’n mynd i: • ddadansoddisiap cynhyrchion. • byddwn yn edrych ar steil a chreu steil cynhyrchion • a sut mae cyfrannedd yn dylanwadu ar edrychiad cynhyrchion Strategau i SBARDUNO DYLUNIO

  3. cyfrannedd Pa ‘drwyn’ fyddech chi’n ddewis i fod mewn cyfrannedd â’r ‘wyneb’?

  4. Beth yw cyfrannedd mewn cynnyrch? Yn aml byddwch yn clywed rhywun yn dweud ‘ mae hynny mewn cyfrannedd’ – gallant fod yn cyfeirio at adeiladau, ceir neu hyd yn oed wynebau pobl. Edrychwch ar y ceir uchod – sut mae newid ym maint boned pob un o’r ceir yn effeithio ar ei edrychiad? Adolygu - Cyfrannedd yw cymharu maint un rhan o gynnyrch gydag un arall.

  5. Cyfrannedd Ar hyd yr oesoedd mae dylunwyr wedi bod yn ymwybodol o gyfrannedd wrth ddylunio. Roedden nhw’n ymwybodol y byddai llwyddo i gael y cyfrannedd yn gywir yn rhoi gwell cydbwysedd i gynnyrch neu adeilad ac o’r herwydd byddai’r defnyddiwr yn fwy tebygol o’i fwynhau a’i hoffi. Sylweddolodd y Groegiaid fod cyfrannedd yn bwysig yn eu cynlluniau pensaerniol. Roedden nhw’n ymwybodol o’r ffaith fod rhai siapiau’n edrych yn well nag eraill. • cyfrannedd

  6. Cyfrannedd • Trwy astudio natur mae pobl wedi darganfod rheolau mathamategol sy’n eu helpu i weithio allan cyfranneddau dymunol yr olwg. Mae Dilyniant Fibonacci a’r Gymhareb Euraidd yn esiamplau o’r rheolau hyn. 1 Mae’r Gymhareb Euraidd yn gysylltiedig â gwaith Fibonacci, sef mathamategydd o’r drydedd ganrif ar ddeg. Dyfeisiodd reol fathamategol sy’n rhoi cyfrannedd dymunol i gynhyrchion. 1.61 yw’r gymhareb yng nghyfres Fibonacci a phan gaiff ei defnyddio i luniadu petryal mae’n well gan bobl y gymhareb hon na’r un cyfrannedd arall. 1.66 Mae mwy o wybodaeth am ddilyniant Fibonacci ar ddiwedd yr uned hon.

  7. Gadewch i ni brofi’r ddamcaniaeth! A B C Astudiwch y tri tecell uchod. Penderfynwch prun sy’n edrych orau. Cofiwch ystyried os gellir cymhwyso’r Rheol Euraidd. • cyfrannedd

  8. cyfrannedd A Mae siap amlinellol tecell A yn cyd-fynd â rheolau’r Gymhareb Euraidd. 1.66 1

  9. cyfrannedd A Gadewch i ni brofi’r ddamcaniaeth! Astudiwch y tri chwpwrdd gyferbyn. Penderfynwch prun sy’n edrych orau. Cofiwch ystyried os gellir cymhwyso’r Rheol Euraidd. B C

  10. cyfrannedd B 1 1.66 Mae Cwpwrdd B yn cyd-fynd â rheolau’r Gymhareb Euraidd.

  11. Pa feic ydych chi’n meddwl sy’n edrych orau ? • cyfrannedd

  12. Gwyro’r rheolau/gymhareb? Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos fod yn well gan bobl edrych ar sgrin teledu sy’n agos at fesuriadau’r Gymhareb Euraidd. Dydy’r sgrin ar y teledu uchod ddim yn cyd-fynd â’r gymhareb ond mae ffram amlinellol y sgrin yn cyfateb i’r petryal euraidd.

  13. proportion Mae wyneb y ‘Mona Lisa’ yn ffitio o fewn petryal y Gymhareb Euraidd.

  14. Prun o’r cynhyrchion hyn mae’r cyfrannedd wedi cael ei gynllunio’n effeithiol? Pob un ohonyn nhw ar wahan i’r - Juicy Salif, bydd dylunwyr da yn aml yn gwthio’r ffiniau neu rheolau ac weithiau maen nhw’n llwyddo, ond gallant fod yn aflwyddiannus hefyd.

  15. Fel arfer mae cynhyrchion lle mae’r gyfrannedd wedi cael ei gynllunio’n ofalus yn edrych yn dda. Mae’r cynhyrchion hyn yn debygol o apelio at y cwsmeriaid ac o gael eu prynu ganddynt oherwydd eu bod yn edrych yn ddeniadol. Cyfrannedd effeithiol Tasg. Chwiliwch y we ac ewch ati i greu poster digidol o’r delweddau rydych chi’n eu hystyried sydd mewn cyfrannedd effeithiol / dymunol. Gallai’r delweddau ddod o fyd natur, adeiladau, neu gynhyrchion. Efallai y byddwch eisiau creu poster digidol arall sy’n dangos y gwrthwyneb, hynny yw lle dydy’r gyfrannedd ddim yn ddymunol nac yn effeithiol. . • cyfrannedd

  16. Cyfle i chi fyfyrio ar yr hyn sydd wedi cael ei drafod Wrth ddylunio’ch cynnyrch mae’n debyg y byddech chi’n hoffi ystyried: • siap amlinellol eich cynnyrch • gwreiddioldeb neu sut i’w wneud yn wahanol i gynnyrch arall? • pa steil fydd yn dylanwadu ar edrychiad eich cynnyrch? • sut bydd cyfrannedd yn effeithio ar edrychiad eich cynnyrch.

  17. Yn y drydedd ganrif ar ddeg dyfeisiodd y mathamategydd enwog Leonardo Fibonacci gyfres o rifau mathamategol sy’n cefnogi’r Gymhareb Euraidd. Mae’n bosibl creu petryal sy’n seiliedig ar y rhifau hyn. 1,2,3,5,8,13,21,34,55,89

  18. 5 8 13 21 Dilyniant Fibonacci Patrwm o rifau yw’r dilyniant Fibonacci: 0, 1, 1, 2, 3, 5, 8, 13,21,34,55,89 ayyb Adiwch y ddau rif gyda’i gilydd i gael y rhif nesaf. 1+2=3, 2+3=5, 3+5=8, 5+8=13, 8+13=21, 13+ 21= 34, 21+34=55, 34+ 55=89 Astudiwch y siapiau petryal gyferbyn a defnyddiwch Ddilyniant Fibonacci i ddewis y rhif fydd yn cynhyrchu cyfranndd dymunol iawn i’r petryal.

More Related