150 likes | 872 Views
Rhifau Arbennig. Lluosrifau, ffactorau, eilrifau, odrifau, rhifau sgwâr, rhifau ciwb, rhifau cysefin, israddau. Odrifau ac Eilrifau. Odrifau yw rhifau na ellir rhannu â 2 heb adael gweddill, e.e. 1, 3, 5, 7, 21, 57, 109, 251 ayb.
E N D
Rhifau Arbennig Lluosrifau, ffactorau, eilrifau, odrifau, rhifau sgwâr, rhifau ciwb, rhifau cysefin, israddau
Odrifau ac Eilrifau Odrifau yw rhifau na ellir rhannu â 2 heb adael gweddill, e.e. 1, 3, 5, 7, 21, 57, 109, 251 ayb Eilrifau yw rhifau y gellir rhannu â 2 heb adael gweddill, e.e. 2, 4, 6, 8, 22, 58, 110, 252 ayb Nodwch 5 odrif ac eilrif arall: Odrifau ................................................ Eilrifau ................................................
Lluosrifau Ystyr lluosrif yw rhif y gellir rhannu â rhif llawn arall gan beidio â gadael gweddill. e.e. Lluosrifau 6 yw 6, 12, 30 neu 66 ayb. Mae hyn oherwydd y gellir lluosi 6 ag 1, 2, 5 neu 11 gan roi rhif llawn. Lluosrifau 18 yw 18, 36, 54, 90, 180. Mae hyn oherwydd y gellir lluosi 18 ag 1, 2, 3, 5 neu 10 gan roi rhif llawn.
Ffactorau Ystyr ffactor yw unrhyw rif y gellir rhannu rhif ag ef gan beidio â gadael gweddill e.e. Ffactorau 6 yw 1, 2, 3, 6. Mae hyn oherwydd y gellir rhannu 6 ag 1, 2, 3 neu 6 gan roi rhif llawn a dim gweddill. Ffactorau 18 yw 1, 2, 3, 6, 9, 18. Mae hyn oherwydd y gellir rhannu 18 ag 1, 2, 3, 6, 9, 18 gan roi rhif llawn a dim gweddill.
Rhifau Cysefin Ceir rhif cysefin pan fo 2 a dim ond 2 ffactor gan rif, sef 1 a’r rhif ei hun. Er enghraifft, mae 2 yn rhif cysefin gan mai dim ond 1 a 2 yw ei ffactorau. Mae 7 yn rhif cysefin gan mai dim ond 1 a 7 yw ei ffactorau. Nid yw 9 yn rhif cysefin gan fod 1,3 a 9 yn ffactorau iddo. Nodwch 6 rhif cysefin arall: .............................................................................
Ffactorau Cyffredin Ystyr ffactor cyffredin yw rhif sy’n ffactor i fwy nag un rhif. Er enghraifft, mae 2 yn ffactor cyffredin 6 a 10 gan fod 2 yn un o ffactorau 6 a 10. Mae 3 yn ffactor cyffredin 12 a 21 gan fod 3 yn un o ffactorau 12 a 21. Nid yw 5 yn ffactor cyffredin 10 a 21 gan nad yw 5 yn un o ffactorau 10 a 21. Nodwch ffactorau cyffredin 27 a 42:.......................................................................
Ffactor Cyffredin Mwyaf Ystyr ffactor cyffredinmwyaf yw’r rhif mwyaf sy’n ffactor o ddau rif. Er enghraifft, Ffactorau 12 yw 1, 2, 3, 6 a 12. Ffactorau 30 yw 1, 2, 3, 5, 6, 10, 15 a 30. Mae gan 12 a 30 y ffactorau cyffredin 1, 2, 3 a 6. Felly ffactor cyffredin mwyaf 12 a 30 yw 6. Nodwch ffactor cyffredin mwyaf 22 a 48:.....................................................................
Rhifau Sgwâr Ystyr rhif sgwâr yw’r ateb a geir pan rydym yn lluosi rhif llawn â’i hun. E.e. Mae 1 yn rhif sgwâr oherwydd mae 1x1=1 Mae 9 a 64 yn rhifau sgwâr, oherwydd mae 3x3=9 ac 8x8=64 Nid yw 8 yn rhif sgwâr oherwydd ni allwn luosi rhif llawn â’i hun a chael ateb o 8. Nodwch 5 rhif sgŵar arall: ............................................................................
Rhifau Ciwb Ystyr rhif ciwb yw’r ateb a geir pan rydym yn lluosi rhif llawn â’i hun ddwywaith. E.e. Mae 1 yn rhif sgwâr oherwydd mae 1x1x1=1 Mae 8 a 64 yn rhifau ciwb, oherwydd mae 2x2x2=8 ac 4x4x4=64 Nid yw 20 yn rhif ciwb oherwydd ni allwn luosi rhif llawn â’i hun ddwywaith a chael ateb o 20. Nodwch 5 rhif ciwb arall: ............................................................................
Israddau Ystyr isradd yw rhif pan rydym yn ei luosi â’i hun nifer arbennig o weithiau sy’n rhoi ateb penodol. E.e. Mae 3 yn ail-isradd 9 oherwydd mae 3x3=9. Mae 5 yn trydydd-isradd 125 oherwydd mae 5x5x5=125. Nid oes rhaid i israddau fod yn rhifau llawn, er enghraifft mae 2.7 yn ail-isradd 7.89, ac mae 6.31 yn drydydd-isradd 251.239591.
C O R L A T Cromfachau O pwerau Rhannu Lluosi Adio Tynnu
4 x (6 ÷ 3) + 42 – 1 4 x 2 + 42 – 1 4 x 2 + 16 – 1 8 + 16 – 1 24 – 1 23 C O R L A T • (8 – 4)3 ÷ 8 + 2 x 5 43÷ 8 + 2 x 5 64 ÷ 8 + 2 x 5 8 + 2 x 5 8 + 10 18