1 / 11

AMDDIFFYN Y GENEDL

Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. Sectorau a Grwpiau. YR AIL RYFEL BYD 1939 -1945. AMDDIFFYN Y GENEDL. Delweddau gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain. Grwpiau a Sectorau. Brwydr Prydain – Yr Arweinwyr. Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

dixon
Download Presentation

AMDDIFFYN Y GENEDL

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. Sectorau a Grwpiau YR AIL RYFEL BYD 1939 -1945 AMDDIFFYN Y GENEDL Delweddau gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain

  2. Grwpiau a Sectorau Brwydr Prydain – Yr Arweinwyr Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.

  3. Darparwyd y map gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain RoeddAwdurdodRheoliAwyrennauYmladdwedirhannuPrydainyngrwpiaugwahanol. Roeddgan bob grŵpeisectoraueihuni’whamddiffyn, ynogystal â phencadlysoeddyngyfrifol am y meysyddawyrynyrardalhonno. ByddaiPencadlys y Grŵpyncyfeiriosgwadronau o awyrennauymladdtuag at awyrennau’rgelynwrthiddynnhwagosáu at ffiniau’rardalroeddennhw’ngyfrifol am eihamddiffyn. Cliciwch ar y seinydd i glywed sgwrs ddychmygol rhwng peilot a rheolwr grŵp. Llundain Caerdydd Delweddau gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain

  4. Y map gyda chaniatâd caredig Promethean

  5. Angen diweddaru’r Lluniau gyda’r Gymraeg. 1. Rhoi ŵ yn grŵp 2. Cau’r bwlch cyn Ble rydych chi’n byw? 3. Defnyddio enwau Cymraeg y siroedd. Gweler ‘notes’ amdanynt. Delweddau gyda chaniatâd caredig Promethean a Chymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain.

  6. Yng Nghymru dim ond un maes awyr oedd wedi’i benodi i gyfrannu at y system amddiffyn awyrennau ymladd yn ystod Brwydr Prydain. Roedd y maes awyr hwn ym Mhenbre yn ne-orllewin Cymru. Yno, fel rhan o grŵp 10 roedd sgwadron o awyrennau Spitfire yn cael eu cadw. Maes awyr Penbre Grŵp 12 Grŵp 10 Grŵp 11 Map gyda chaniatâd caredig Promethum

  7. ‘Grwpiau' yn ystod Brwydr Prydain Yn ystod Brwydr Prydain, cafodd Prydain ei rhannu’n bedwar grŵp. Sgwadronau awyrennau ymladd y Llu Awyr Prydeinig (RAF) oedd amddiffyn y grwpiau hyn. Delwedd gyda chaniatâd caredig yr Amgueddfa Ryfel Ymerodorol, Llundain (Cyf. HU3093)

  8. Enghraifft o sut cafodd y grwpiau eu trefnu cyn Brwydr Prydain. Grŵp Rhif 12 – 1 Gorffennaf 1940 Rhif sgwadron Yn barod ar gyfer ymladd Awyrennau Maes awyr

  9. Pwy oedd yn rheoli’r Sectorau a’r Grwpiau? Syr Hugh Dowding oedd Cadbennaeth Awdurdod Rheoli Awyrennau Ymladd yn ystod Brwydr Prydain. Roedd yn 58 mlwydd oed pan ddechreuodd y frwydr, ac roedd ei beilotiaid yn cyfeirio’n annwyl ato fel ‘Stuffy’. Fe gefnogodd Dowding ddatblygiad radar a hefyd datblygiad yr awyrennau ymladd newydd a fyddai’n gallu herio awyrennau’r Luftwaffe. Keith Park oedd y Swyddog Awyr oedd yn rheoli Grŵp 11 yn ystod Brwydr Prydain. Un o Seland Newydd ydoedd, ac roedd yn 48 mlwydd oed pan ddechreuodd y frwydr. Bu Park yn beilot yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ystod Brwydr Prydain. Yn aml byddai’n hedfan i’r meysydd awyr oedd dan ei awdurdod yn ei awyren ymladd Hurricane bersonol. Roedd yn arweinydd poblogaidd ar Grŵp 11 – sef yr ardal oedd yn cael ei hystyried fel yr un bwysicaf ei hamddiffyn.

  10. Roedd Leigh-Mallory, Is-farsial yr Awyrlu, wedi bod yn gyfrifol am Grŵp 12 ers sefydlu Awdurdod Rheoli Awyrennau Ymladd yn 1936. Doedd e ddim bob amser yn cytuno â Syr Hugh Dowding yn ystod brwydr Prydain ac roedd o’r farn y dylai mwy o sgwadronau awyrennau ymladd ymuno â’i gilydd i ffurfio ‘Esgyll Mawr’. Roedd Leigh Mallory o’r farn y byddai hyn yn rhoi gwell cyfle i’r peilotiaid dreiddio drwy’r awyrennau ymladd hebrwng Almaenig, er mwyn ymosod ar yr awyrennau bomio. Ar y llaw arall, mynnai Dowding a Park na ellid peryglu awyrennau ymladd mewn niferoedd o’r fath. Roedden nhw hefyd yn dadlau y byddai defnyddio polisi ‘Esgyll Mawr’ yn ystod Brwydr Prydain yn golygu na fyddai’n bosib ymosod ar gynifer o rengoedd awyrennau bomio yr Almaen yn gyffredinol. Syr Christopher Quintin Brand oedd yn gyfrifol am Grŵp 10. Richard Saul, Is-farsial yr Awyrlu oedd yn gyfrifol am Grŵp 13.

  11. Yn y blychauisodrhowchenw’rSwyddogoeddyngyfrifol am y Grŵptuadiwedd 1940. Syr Hugh Dowding, Cadbennaeth Awdurdod Rheoli’r Awyrennau Ymladd. Syr Christopher Quintin Brand Trafford Leigh-Mallory Keith Park Richard Saul

More Related