90 likes | 398 Views
Pa eiriau rydyn ni’n eu defnyddio ar ddechrau cwestiwn?. Gofyn Cwestiynau. Faint?. Ble?. Pam?. Pwy?. Pryd?. Sawl?. Oes?. Beth?. Pa?. Dyma rai geiriau. Nawr ewch ati i greu chwe chwestiwn i ofyn i berson dieithr. Ceisiwch feddwl beth byddech chi’n hoffi ei wybod am y person.
E N D
Pa eiriau rydyn ni’n eu defnyddio ar ddechrau cwestiwn? Gofyn Cwestiynau
Faint? Ble? Pam? Pwy? Pryd? Sawl? Oes? Beth? Pa? Dyma rai geiriau.
Nawr ewch ati i greu chwe chwestiwn i ofyn i berson dieithr. Ceisiwch feddwl beth byddech chi’n hoffi ei wybod am y person. Y cwestiwn mwyaf amlwg yw … Beth yw eich enw chi?
Ceisiwch amrywio sut i ddechrau eich cwestiynau. Cofiwch beth sydd ei angen ar ddechrau ac ar ddiwedd cwestiwn! Mae rhai cwestiynau yn gofyn am ateb pendant. Mae rhai eraill yn rhoi dewis i’r person ateb yn ôl barn bersonol. Ceisiwch ddefnyddio enghraifft o’r ddau fath.
Ar ôl creu eich cwestiynau, mae hi’n bosib eu defnyddio i holi rhywun yn y dosbarth. Er mwyn holi'r person hwnnw, fe allwn ei holi wrth iddo eistedd mewn cadair arbennig - sef ‘Y Gadair Goch’. Weithiau, fe all y person yn ‘Y Gadair Goch’ esgus fod yn gymeriad arall e.e. Harri Morgan, Mari Jones o'r Bala neu actor teledu neu ffilm. Mewn tasg o'r fath, mae'n bwysig peidio â mynegi eich barn bersonol chi ond yn hytrach barn y cymeriad rydych chi'n ei actio. Heb roi enw i’r person, gallwch fel dosbarth ddyfalu pwy yw’r cymeriad wrth ei holi.