240 likes | 428 Views
Telegymudo (Teleweithio). ‘ Gweithio o gartref gan ddefnyddio rhwydweithiau cyfrifiadurol’. Defnydd o galedwedd cysylltiedig . Amodau sydd eu hangen er mwyn i deleweithio gymryd lle. Rhaid bod y gwaith yn gweddu e.e. rhaglennu cyfrifiaduron.
E N D
Telegymudo(Teleweithio) • ‘Gweithio o gartref gan ddefnyddio rhwydweithiau cyfrifiadurol’. • Defnydd o galedwedd cysylltiedig. • Amodau sydd eu hangen er mwyn i deleweithio gymryd lle. • Rhaid bod y gwaith yn gweddu e.e. rhaglennu cyfrifiaduron. • Rhaid i’r cwmni allu monitro allbwn gwaith y gweithiwr. • Rhaid darparu’r meddalwedd a’r caledwedd sydd eu hangen e.e. yn ogystal â PC rhaid cael modd o ddefnyddio’r rhwydwaith megis modem neu lwybrydd band eang, cyfleusterau trosglwyddo ffeiliau ac e-bost. Gall hyn fod dros y Rhyngrwyd neu drwy gysylltiad i allrwyd y cwmni. • Gweithle/ amgylchedd gwaith yn y cartref.
Manteision i weithwyr • Arbediadau wrth deithio i’r gwaith a chostau teithio. • Oriau gweithio mwy hyblyg, yn enwedig i weithiwr gyda phlant ifanc. • Gweithio mewn amgylchedd cyfarwydd. Mae rhai pobl yn teimlo’n dawelach, yn fwy diogel ac yn fwy creadigol.
Manteision i’r Cyflogwr • Gwell cadwedd gweithwyr – er enghraifft, gall teleweithio helpu cadw rhieni sy’n gweithio er bod ganddynt gyfrifoldebau gwarchod plant. • Cronfa weithwyr ehangach a mwy o ddewis – er enghraifft, pobl ag anableddau y byddai’n well ganddynt weithio o gartref. • Posibilrwydd gwell cynhyrchedd oherwydd fod gan staff lai o ymyriadau a llai o amser teithio. • Mwy o gymhelliad gan y staff – llai o straen a lefelau afiechydon. Llai o absenoldebau oherwydd problemau gwarchod plant. • Arbediadau ar le swyddfa a chyfleusterau eraill. • Posibilrwydd lleoli staff gwerthu yn agosach at gwsmeriaid yn hytrach na’u lleoli yn adeiladau’r busnes. • Cyflogi ar sail tymor-byr neu ddim ond pan fo angen e.e. prosesu archebion mewn system swp-brosesu.
Anfanteision teleweithio i’r gweithiwr • Unigedd cymdeithasol – colled cyswllt personol gyda chydweithwyr • Byth yn ‘gadael awyrgylch gwaith’ Anfanteision i’r cyflogwr • Anawsterau wrth fonitro cynhyrchedd a pherfformiad a rheoli gweithwyr o gartref. • Costau hyfforddi a darparu cyfarpar addas, gan gynnwys newidiadau yn unol â gofynion safonau iechyd a diogelwch a gofynion arbennig gweithwyr ag anableddau. • Mwy o anhawster wrth gynnal datblygiad staff ac uwchraddio sgiliau; mae’n bosib, felly, ybydd sgiliau a safon gwaith y gweithwyr yn dirywio. • Materion diogelwch wrth drosglwyddo data yn electronig ar draws y Rhyngrwyd/ allrwyd. • Costau telegyfathrebu uwch. • Peryg problemau cyfathrebu. • Gall fod yn anoddachmeithrin ysbryd o gyd-dynnu. • Mae gweithio o gartref yn anaddas ar gyfer rhai swyddi.
Nid yw symud tuag at weithio o gartref yn golygu bod gweithwyr yn gweithio gartref yn unig. Yn aml, rhannu amser rhwng y cartref a’r gweithle yw’r ateb mwyaf cynhyrchiol; efallai ybydd raid i’r gweithiwr cartref fod yn bresennol mewn cyfarfodydd er mwyn iddynt fod yn ymglymedig ac yn wybodus.
Fideo-gynadledda (Tele-gynadledda). • Wrth gysylltu camera fideo i’ch meicrogyfrifiadur, gellir danfon eich llun ar hyd y rhwydwaith at ddefnyddiwr arall (ac i’r gwrthwyneb). Mae camerâu fideo yn danfon lluniau digidol ac mae signalau clywedol sy’n cael eu recordio gan feicroffon hefyd yn cael eu danfon. Mae hyn yn meddwl y gallwch weld a siarad gyda defnyddiwr arall. • Gall gwmnïau drefnu cyfarfodydd gyda chyfathrebiad wyneb-yn-wyneb rhwng pobl nad ydynt yn yr un ystafell, adeilad neu wlad!
Manteision • Mae fideo-gynadledda yn caniatáu cyfarfodydd cyson rhwng gweithwyr neu gwmnïau sydd wedi eu lleoli mewn lleoedd gwahanol. • Mae gweithwyr, yn enwedig y rhai hynny dramor, yn gallu dod ynghyd am gyfarfodydd cyson heb wastraffu arian ac amser yn teithio. • Drwy ddefnyddio’r Rhyngrwyd, gellir creu cyflwyniadau e.e. gall gweithiwr greu cyflwyniad i’w wylio gan eraill mewn safleoedd eraill drwy ddefnyddio gwefan y cwmni, efallai.
Anfanteision • Cost paratoi ystafell fideo-gynadledda a phrynu, cynnal a chadw’r caledwedd. • Mae cyfathrebu cynnil rhwng pobl e.e. iaith y corff neu’r wyneb, yn mynd ar goll am nad yw’r camera neu feicroffon yn eu synhwyro, neu maent yn mynd ar goll wrth gyddwyso’r data wrth ei ddanfon. • Ceir problemau gyda’r dechnoleg, cyddwyso a’r signal. Mae lluniau ychydig yn ‘herciog’ ar hyn o bryd ond mae datblygiadau technolegol megis cysylltau band-eang cyflym yn datrys y broblem yma.
Codau ymddygiad Beth yw cod ymddygiad? Mae’n ymgymeriad gan weithiwr i ddilyn rheolau’r cwmni a gweithio o fewn y canllawiau a osodwyd. Bydd cod ymddygiad yn esbonio beth sy’n ddisgwyliedig gan weithiwr ac yn esbonio’r polisi disgyblaeth os yw’r rheolau hynny yn cael eu torri. Fel arfer, disgwylir i weithwyr arwyddo’r cod ymddygiad fel rhan o’u cytundeb cyflogaeth.
Pam fod angen Cod Ymddygiad? Problemau allai godi: • Cyflwyno firysau e.e. drwy lwytho meddalwedd anghyfreithlon neu drwy agor e-byst yn ddiofal. • E-byst ymosodol i gydweithwyr. • Dosbarthu deunydd sy’n anweddus yn rhywiol neu yn hiliol. • Defnyddio data’r cwmni am resymau anghyfreithlon e.e. blacmel, twyll cyfrifiadurol neu werthu i sefydliadau eraill. • Troseddu yn erbyn termau hawlfraint neu gytundebau meddalwedd drwy gopïo meddalwedd. • Camddefnyddio cyfarpar y cwmni e.e. defnyddio amser y cwmni ar gyfer e-bostio personol; defnyddio argraffyddion y cwmni at waith personol; defnyddio’r Rhyngrwyd a’r ffônau at ddibenion personol; defnydd anweddus o ffônau symudol – mewn bwytai, ysgolion, neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd y cod ymddygiad yn esbonio yr hyn sy’n ddisgwyliedig gan weithiwr ac yn esbonio’r broses ddisgyblaeth pe torrir y rheolau hynny. Fel arfer, disgwylir i weithwyr arwyddo’r cod ymddygiad fel rhan o’u cytundeb cyflogaeth.
Bydd yn esbonio: • Cyfrifoldebau (dilyn rheolau’r cwmni) • Parchu hawliau eraill • Ufuddhau i ddeddfwriaeth bresennol • Awdurdod a chaniatâd ar fynediad at ddata: • Diogelwch: • Amddiffyn caledwedd a meddalwedd rhag niwed maleisus • Dilyn cytundebau trwyddedu • Cosbau • Cosbau am gamddefnydd yn cynnwys: • Rhybuddion anffurfiol • Rhybuddion ysgrifenedig • Diswyddiad • Erlyniad
Codau ymddygiad yn y GweithleMoesol, Cymdeithasol a MoesegolNID ar y RHYNGRWYD • 1. Camwybodaeth Peidio esbonio ffeithiau am gynhyrchion neu wasanaethau yn llawn i ddarpar-gwsmeriaid neu gleientiaid e.e. cyflwyno modelau newydd cyn bo hir.
Camwybodaeth Enghreifftiau Gwerthwr Tai: Gofynion cyfreithiol = Deddf Eiddo Enghraifft foesol = Datblygwr eiddo ddim yn esbonio i’w g/chleient bod gan yr eiddo broblemau ymsuddiant neu hanes treisgar. Ysbyty yn trin claf: Gofynion cyfreithiol = Deddf Gwarchod Data Enghraifft foesol = Efallai na fydd amserau ymateb yn rhan o’r cod ymddygiad. Gwerthu caledwedd a meddalwedd: Gofynion cyfreithiol = Deddf Disgrifiadau Masnachol Enghraifft foesol = gwahardd gwerthwyr rhag gwerthu caledwedd neu feddalwedd sydd ar fin dod yn arfaethedig = sicrhau nad yw gwerthwr yn rhoi gwasgedd ar gwsmeriaid i dderbyn yn erbyn eu hewyllys e.e. cardiau ffyddlondeb, cyfrifon credyd yn y siop neu unrhyw frand arbennig.
2. Preifatrwydd • Rhoi gwybod i’r bobl sy’n rhoi eu data o’u hawliau cyfreithiol a’r prosesau o gydymffurfio â’r hawliau hynny. • Mae systemau TG wedi galluogi sefydliadau i gadw data am y cyhoedd. Nid yw pobl bob amser yn ymwybodol o’u hawliau o dan ddeddfau diogelu data, ac nid yw pob sefydliad yn foesegol yn eu defnydd o’r data yma. • Gofynion cyfreithiol = Deddf Gwarchod Data • Moesegau = Gweithiwr yn defnyddio data y cwmni er mwyn creu rhestr bostio ar gyfer ei gwmni preifat ei hun. • Monitro e-byst y cwmni. Gall systemau monitro electronig gadw llygad ar e-byst. Efallai ybyddai technegydd y system yn gallu agor e-byst pobl eraill er mwyn dod o hyd i gam-ddefnydd neu, yn syml, i fod yn fusneslyd.
3. Patrymau cyflogi • Effeithiau ar y gweithlu. • Mae rhai pobl wedi eu dad-sgilio gan ddyfodiad TG; nid oes angen eu sgiliau bellach ac maent yn colli eu swyddi. • Mae canolfanau galwadau wedi achosi nifer i golli eu swyddi wrth i waith symud dramor le mae llafur yn rhatach, sydd yn ei dro yn arwain at weithdai TG cyflog isel. • Mae eraill wedi elwa am fod ganddynt y sgiliau priodol e.e. rhaglennwyr cyfrifiadurol. • Hunan-rymuso. • Mae patrymau gweithio wedi newid e.e. teleweithio. • Gall busnesau gyrraedd marchnad ehangach drwy’r Rhyngrwyd. • Gall unigolion werthu nwyddau ar Ebay.
Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn cynnwys gweithleoedd sy’n defnyddio systemau cyfrifiadurol – ydy cwmnïau yn darparu’r rhain ar gyfer teleweithwyr? • Mae Deddf Hawliau Anabledd yn delio â hawliau pobl ag anableddau a’u hawliau i weithio – oes gan gwmnïau risiau neu gyfleusterau eraill sy’n cyfyngu ar allu pobl mewn cadeiriau olwyn rhag cael swyddi yn y cwmni? • Cytundebau Isafswm Cyflog – Mewnfudwyr anghyfreithlon yn gweithio islaw’r isafswm cyflog. • Moesegau: peidio â chydymffurfio â’r deddfau cyflogi hyn (a nifer eraill) wrth ddarparu mynediad at systemau cyfrifiadurol gwael neu beryglus.
4. Ecwiti • Gofyniad cyfreithiol Deddfau patent / Deddf Gwarchod Data • Enghraifft Foesegol • Gall berchnogaeth neu fynediad at wybodaeth benderfynu pa sefydliadau fydd yn llwyddo a methu. Am fod yn rhaid talu am y technolegau hyn, gall sefydliadau cyfoethog fforddio’r dechnoleg ond ni all y sefydliadau tlotach. O ganlyniad, mae’r cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach a’r tlawd yn mynd yn dlotach, ac mae’r bwlch rhyngddynt yn tyfu.
5. Hawliau eiddo deallusol – Perchnogaeth a hawliau data. • Os rhoddwch jôc ar y Rhyngrwyd ai chi sy’n berchen arni? • Os gwelwch jôc ar y Rhyngrwyd a allwch chi ei gwerthu i ddigrifwr proffesiynol? • Os sganiwch destun llyfr The Da Vinci Code a’i roi ar y Rhyngrwyd i’w ddarllen gan bawb am ddim, ydych chi’n torri’r gyfraith? • A allwch chi siwio rhywun sy’n gwerthu traethawd i chi sy’n llawn gwallau ffeithiol? • Mae cynnydd a chyfnewid syniadau ar y Rhyngrwyd wedi arwain at nifer o ddadleuon cyfreithiol; mae diffyg eglurdeb cyfreithiol ynglŷn â hawliau eiddo deallusol yr unigolyn. • Ydy Deddfau Hawlfraint un wlad yn gymmwys mewn gwlad arall?
Hawliau Eiddo Deallusol • Gofynion Cyfreithiol Deddfau Hawlfraint / Deddfau Patent • Enghreifftiau Moesol • Os rhoddwch syniad ar y Rhyngrwyd, ai chi sy berchen arno? • Os gwelwch ddyluniad ar y Rhyngrwyd a allwch chi werthu’r dyluniad hwnnw i gwmni? • Os sganiwch destun llyfr a’i roi ar y Rhyngrwyd i’w ddarllen am ddim gan bawb, ydych chi’n torri’r gyfraith? • A allwch chi siwio rhywun ar gyfandir arall sy’n gwerthu adroddiad i chi sydd yn llawn o wallau ffeithiol?