100 likes | 355 Views
Cyfathrebu. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Tasg 1. Pedwaredd Wal. Meddyliwch am weithgaredd y gellid ei berfformio ar wal, e.e. edrych mewn drych i roi colur amdanoch, edrych allan drwy ffenestr, peintio wal ac ati .
E N D
Cyfathrebu At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1
Tasg 1 Pedwaredd Wal • Meddyliwch am weithgaredd y gellid ei berfformio ar wal, e.e. edrych mewn drych i roi colur amdanoch, edrych allan drwy ffenestr, peintio wal ac ati. • Cerddwch ymlaen fesul un a pherfformio eich gweithgaredd gan ddefnyddio’r “bedwaredd” wal. • Wedyn caiff y gynulleidfa drafod pa mor effeithiol oedd y perfformiadau.
Tasg 2 Dilyn Trywydd Meddyliau • Bydd pob grŵp yn perfformio yn ei dro. • Tra bydd y grŵp yn perfformio, gall yr athro/athrawes stopio’r ddrama ar unrhyw bryd a rhewi’r actorion. • Wedyn, caiff unrhyw aelod o’r gynulleidfa ofyn i’r cymeriad sut mae’n teimlo, beth yw ei feddyliau. • Os nad yw’r aelod o’r gynulleidfa’n teimlo bod yr actor yn cyfleu’r teimlad hwnnw, gall roi cyngor i’r actor ynghylch sut y gallai ei gyfleu’n well.
Tasg 3 Cylchoedd sylw Ymarferwch olygfa o’ch drama gan amrywio ble rydych yn ffocysu eich llygaid i greu gwahanol effeithiau.
Tasg 4 Cyfarwyddo mewn grŵp • Bydd eich athro/athrawes yn dewis grŵp i berfformio ac yna’n rhannu gweddill y dosbarth yn 3 neu 4 grŵp. • Bydd pob grŵp yn ymgymryd â rôl cyfarwyddwr i un perfformiwr. • Bydd y grŵp sy’n perfformio’n ymarfer un o’u golygfeydd. • Ar ddiwedd yr olygfa, bydd pob actor yn mynd at ei grŵp neilltuol. • Bydd y grŵp hwn yn cyfarwyddoperfformiad yr actor ac yn gwneud newidiadau o bosib i wella’i berfformiad.
Tasg 5 Distyllu i’r hanfod Distyllwch bob golygfa i’w hanfod drwy: • greu un ddelwedd lonydd ar gyfer pob golygfa • cynnwys un llinell o ddeialog.
Tasg 6 Cyfleu bwriadau • Tynnwch eiriau’r testun allan o bob golygfa a meimio’r olygfa, gan gyfleu bwriad y cymeriadau mor eglur ag y gallwch. • Ailadroddwch yr olygfa gyda’r ddeialog yn ôl i mewn ond gan gadw’r bwriadau’n eglur.
Tasg 7 Pwy sy’n dweud y gwir? • Ffurfiwch barau. • Dywedwch stori (gwir neu beidio) wrth eich gilydd am rywbeth sydd wedi digwydd i chi yn eich bywyd, e.e. syrthio oddi ar feic, ennill cystadleuaeth, mynd ar wyliau bythgofiadwy. • Penderfynwch ar y stori orau ac ymarfer adrodd y stori eich dau.
Tasg 8 Holi byrfyfyr • Eisteddwch mewn cylch fel dosbarth. • Dau wirfoddolwr i sefyll yng nghanol y cylch. • Actiwch senario byrfyfyr, gan siarad mewn cwestiynau yn unig. • Er enghraifft gallai’r olygfa fod mewn gwesty lle mae person A eisiau ystafell.