320 likes | 570 Views
Cylched bywyd system. Ystyr cylchred oes system yw cyfres o gyfnodau y mae angen gweithio trwyddynt wrth ddatblygu system wybodaeth newydd. Gellir gwastraffu llawer o amser ac arian os datblygir system nad yw’n gweithio’n iawn neu nad yw’n gwneud yr union beth sy’n ofynnol.
E N D
Cylched bywyd system • Ystyr cylchred oes system yw cyfres o gyfnodau y mae angen gweithio trwyddynt wrth ddatblygu system wybodaeth newydd. • Gellir gwastraffu llawer o amser ac arian os datblygir system nad yw’n gweithio’n iawn neu nad yw’n gwneud yr union beth sy’n ofynnol. • Mae system newydd yn llawer mwy tebygol o fod yn llwyddiannus os yw wedi cael ei chynllunio a’i datblygu yn ofalus.
Cyfnodau cylchred oes system Dadansoddi Gofynion ac Astudiaeth Dichonoldeb Cynnal Manyleb y gofynion Profi a Gweithredu Dylunio a chodio
Dadansoddi Gofynion Darganfod Ffeithiau • Cyfweliadau • Holiaduron • Arsylwi • Dogfennaeth bresennol
Manyleb y Gofynion ac Astudiaeth Dichonoldeb • Cytundeb y cytunir arno’n ffurfiol rhwng y gyfundrefn a’r dadansoddwr systemau ynghylch yr hyn y bydd y system newydd yn ei wneud • Diagramau llif data manwl • DS Gall y ddogfen hon gael ei defnyddio i fesur llwyddiant y project. • Dichonoldeb technegol / cymdeithasol / economaidd
Astudiaeth Dichonoldeb • Technegol • Meddalwedd • Caledwedd • Cymdeithasol • Colli gwaith • Ailhyfforddi • Swyddi newydd • Trafodaethau gydag undebau • Economaidd • Costau ariannol • Buddion ariannol
Cynnwys adroddiad dichonoldeb DADANSODDIAD COST A BUDD • Disgrifiad o’r system bresennol yn amlinellu’r hyn sy’n cael ei wneud a sut mae’n cael ei wneud; • Set o osodiadau problem yn disgrifio beth yn union yw’r problemau gyda’r system bresennol; • Set o amcanion system sy’n disgrifio’r hyn y mae’n rhaid i’r system newydd allu ei wneud; • Disgrifiad o ddatrysiadau gwahanol; • Disgrifiad o’r ffactorau technegol, economaidd, cyfreithiol a chymdeithasol sydd wedi cael eu hystyried; • Ffordd o weithredu a argymhellir.
Manyleb y gofynion • Yn ystod cyfnod y dadansoddi bydd dadansoddwyr systemau yn ymchwilio i’r system bresennol i nodi beth yn union yw’r problemau gyda’r system bresennol • Bydd dadansoddwyr systemau yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau darganfod ffeithiau i gasglu mwy o wybodaeth
Ymchwiliad manwl i galedwedd a meddalwedd • Modelu data • Strwythurau staffio
Rhesymau sy’n dylanwadu ar ddewis • Costau • Rhwydddineb defnyddio • Perfformiad • Dibynadwyaeth • Cyfyngiadau meddalwedd • Y gallu i ehangu • Amserau ymateb • Gwarchodaeth • Cydnawsedd â’r galedwedd a’r feddalwedd bresennol
Diagramau llif data a siartiau llif systemau • Ar ôl i’r dadansoddwyr systemau gwblhau eu hymchwiliad maen nhw’n cynhyrchu disgrifiad manwl o’r ffordd y mae’r system bresennol yn gweithio • Mae dulliau a ddefnyddir i helpu i ddisgrifio’r system yn cynnwys diagramau llif data a siartiau llif systemau
Symbolau a ddefnyddir mewn diagramau llif data Endid allanol – ffynhonnell data neu gyrchfan data, er enghraifft pobl sy’n cynhyrchu data fel archeb gan gwsmer, neu sy’n derbyn gwybodaeth fel anfoneb. Proses – gweithrediad a gyflawnir ar y data. Mae’r ddwy linell yn opsiynol; gellir defnyddio rhan uchaf y blwch i labelu’r broses, y canol y roi esboniad cryno, a’r gwaelod i ddweud lle mae’r broses yn digwydd. Storfa ddata– fel ffeil sydd wedi’i chadw ar ddisg neu swp o ddogfennau. Llif data– mae’r saeth yn cynrychioli symudiad data rhwng endidau, prosesau neu storfeydd data. Dylai’r saeth gael ei labelu i ddisgrifio pa ddata sydd dan sylw.
Diagram llif data ar gyfer system archebu tocynnau theatr Gofynion Gwirio tocynnau archebion Cwsmer Seddau ar gael Enw, cyfeiriad, Nodi’r cwsmer, rhifau’r cerdyn credyd seddau, amser, dyddiad, Archebion Cwsmeriaid Gwneud nodi’r ddrama archeb Rhifau’r seddau, amser, dyddiad, teitl y ddrama Teitl, pris, Manylion y amser tocynnau Cwsmer Argraffu Dramâu tocynnau
Dylunio • Caiff datrysiadau posibl gwahanol eu nodi • Caiff datrysiadau gwahanol eu gwerthuso • Caiff y datrysiad gorau ei nodi • Cynhyrchir manyleb ddylunio sy’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: • Mewnbwn • Allbwn • Storfa ddata • Rhyngwyneb defnyddiwr • Gweithdrefnau ategu ac adfer • Gweithdrefnau gwarchodaeth • Cynllun profi
Rhaglennu a Phrofi Fformat nodweddiadol ar gyfer cynllun profi
Gweithredu • Mae’r cyfnod hwn yn cynnwys: • Sefydlu’r system fel y bydd yn cyd-fynd â’r fanyleb ddylunio • Cynnal profion gan ddefnyddio’r cynllun er mwyn sicrhau bod pob rhan o’r system yn gweithio’n iawn gyda data normal, eithafol a gwallus • Defnyddir data prawf normal i wirio y gall system drafod y math o ddata a fyddai i’w disgwyl wrth ei defnyddio o ddydd i ddydd • Defnyddir data prawf eithafol i wirio y gall system ymdopi â data sydd ar ffiniau’r hyn sy’n dderbyniol • Defnyddir data prawf gwallus (neu eithriadol) i wirio y gall system adnabod data sy’n anghywir a’u gwrthod
Cyfranogiad a hyfforddiant defnyddwyr • Hyfforddiant mewnol • Anfon ar gyrsiau • Ergonomeg • Cynyddu hyder defnyddwyr yn y system newydd
Gosod y system newydd • Gallai gynnwys: • Gosod unrhyw galedwedd a meddalwedd newydd • Trosglwyddo data o’r system bresennol i’r system newydd • Hyfforddi defnyddwyr i weithredu’r system newydd
Gosod y system newydd (parhad) Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gall system wybodaeth newydd gael ei chyflwyno. Dyma rai o’r ffyrdd mwyaf cyffredin: Gweithredu Uniongyrchol – Newid o’r hen system un diwrnod i ddefnyddio’r system newydd drannoeth Gweithredu Paralel – Defnyddio’r system newydd ochr yn ochr â’r hen system am gyfnod byr. Gweithredu Peilot a Graddol – Yn golygu cyflwyno’r system newydd mewn rhannau llai tra’n gadael gweddill rhannau’r hen system yn eu lle.
Newid drosodd uniongyrchol Newid o’r hen system un diwrnod i ddefnyddio’r system newydd drannoeth • Systemau pwynt talu • Cymwysiadau amser real • Systemau archebu • Rheoli proses
Rhediad Paralel Defnyddio’r system newydd ochr yn ochr â’r hen system am gyfnod byr.
Peilot a Graddol • Peilot Dim ond rhan o’r gyfundrefn sydd â system newydd e.e. adran bersonél • Graddol Dim ond rhai ffeiliau sy’n cael eu cyfrifiaduro e.e. ffeiliau rhestr gyflogau
Dogfennaeth Dechnegol • Manyleb ddylunio y system: • siartiau llif systemau • diagramau llif data • ffeiliau a geiriaduron data • codio a chyfrineiriau • rheoli fersiynau • disgrifiad o wahanol rannau’r system a’r hyn y mae pob un yn ei wneud • cynlluniau sgrin a dyluniadau rhyngwyneb defnyddiwr • y cynllun profi a data prawf
Dogfennaeth ddefnyddiwr • disgrifiad o’r hyn y bwriedir i’r system ei wneud • gofynion lleiaf y system o ran caledwedd a meddalwedd a system weithredu • cyfarwyddiadau ynghylch sut i lwytho a rhedeg y system • cyfarwyddiadau manwl ynghylch sut i weithredu pob rhan o’r system • gwallnegesau, eu hystyr a sut i ddelio â nhw • gweithdrefnau ategu ac adfer • ble i gael mwy o help, fel llinellau cymorth ffôn a thiwtorialau ar-lein
Adolygu ar ôl gweithredu Gwneir hyn ar ôl i’r system newydd redeg am ychydig o wythnosau neu fisoedd i nodi unrhyw addasiadau a all fod yn angenrheidiol.
Cynnal • Perffeithiol • Addasol • Cywirol
Gwerthuso • Arsylwi • Pa mor hawdd ydy hi i’r staff ei defnyddio • Boddhad cwsmeriaid • Log o ddiffygion a hysbyswyd
Beth allai fynd o’i le? • Cost yn fwy na’r amcangyfrifon • Oherwydd dylunio gwael ni chaiff yr holl brosesau eu cynnwys • Yn dechnegol dda ond ni all defnyddwyr ei defnyddio • Yn chwalu gyda mewnbwn annisgwyl e.e. ffeil wag
Osgoi costau ar ôl gweithredu • Dadansoddiad cychwynnol trylwyr manwl a chytuno ynghylch nodau • Dylunio manwl • Ymgynghori â staff ac undebau • Caniatáu ar gyfer ehangu yn y dyfodol
Tasgau’r Dadansoddwr Systemau ar ôl Gweithredu • Hyfforddi defnyddwyr • Gwerthuso’r system derfynol • Cynnal y system newydd