1 / 20

Berf a Berfenw

Berf a Berfenw. Beth yw berf?. Gair sy’n dynodi gweithred yw BERF. Gall berf ddweud tri pheth wrthym: Beth yw’r weithred Pryd wnaethpwyd y weithred Pwy sy’n gwneud y weithred e.e. Canodd hi. canu yw’r weithred. mae’r weithred wedi ei gwneud - gorffennol. hi wnaeth y weithred.

huy
Download Presentation

Berf a Berfenw

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Berf a Berfenw

  2. Beth yw berf? Gair sy’n dynodi gweithred yw BERF. Gall berf ddweud tri pheth wrthym: • Beth yw’r weithred • Pryd wnaethpwyd y weithred • Pwy sy’n gwneud y weithred e.e. Canodd hi canu yw’r weithred mae’r weithred wedi ei gwneud - gorffennol hi wnaeth y weithred

  3. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng berf a berfenw? • Mae BERF yn dweud tri pheth • Mae BERFENW yn dweud un peth Dim ond enwi’r weithred mae berfenw. Dyma’r geiriau y byddwch yn eu darganfod mewn geiriadur e.e. canu, dawnsio, yfed, bwyta, gweithio, darllen, ysgrifennu, gwrando, teithio, cerdded, blino, siarad, gweiddi, sgrechian, edrych, gwylio, syllu, rhythu, denu.

  4. Sut ydw i’n defnyddio BERFENW? Mae’n rhaid defnyddio ffurf ar y ferf ‘bod’ gyda berfenw a dyma sy’n rhoi ffurf GWMPASOG y ferf i ni, sef y ffordd hir o ddweud rhywbeth. Yn aml y ffordd hir (CWMPASOG) fyddwn ni’n ei ddefnyddio ar lafar wrth siarad e.e. Mae o wedi gweld y ffilm. berfenw ffurf ar y ferf ‘BOD’

  5. Beth yw ffurf gwmpasog? • Ffurf gwmpasog yw’r ffordd hir o ddweud rhywbeth • Mae’n rhaid defnyddio ffurf ar y ferf ‘BOD’ gyda berfenw • Mae gwahanol amser i’r ferf ‘BOD’ – presennol, dyfodol, gorffennol, amherffaith a gorberffaith

  6. Y ferf ‘BOD’

  7. Beth yw berf gryno? BERF GRYNO yw’r ffurf fyr o ddweud rhywbeth. Ystyriwch y ddwy frawddeg ganlynol: Rydw i wedi gweld Sion bore heddiw. Gwelais Sion bore heddiw. Mae ystyr rhain yn union yr un fath. Cwmpasog yw’r cyntaf. Cryno yw’r ail.

  8. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng berf gryno a berf gwmpasog? Rydym yn defnyddio y ffurfiau cwmpasog mewn sefyllfaoedd ble rydym am i’r iaith fod yn anffurfiol, yn enwedig ar lafar. Mae ffurfioldeb yn perthyn i’r berfau cryno, ac felly, maen nhw’n gweddu i sefyllfaoedd ffurfiol yn enwedig rhai ffurfiau o waith ysgrifennu.

  9. Terfyniadau’r berfau cryno *Mae’n RHAID dysgu’r terfyniadau yma*

  10. Meddwl am y CWMASOG a’r CRYNO ochr yn ochr Ystyriwch beth yw’r berfau canlynol yn eu ffurfiau cwmpasog: clywaf – Rydw i’n clywed/Byddaf yn clywed gwisgai – Roedd o/hi’n (arfer) gwisgo cyrhaeddodd– Mae o/hi wedi cyrraedd caiff – Mae o’n cael/Bydd o’n cael canem – Roedden ni’n (arfer) canu

  11. Beth yw’r berfau ar waelod y tabl? Berfau AMHERSONOL yw’r rhain. Rydyn ni eisoes wedi dysgu fod berf yn dweud tri pheth wrthon ni, sef beth yw’r weithred, amser y weithred a phwy sy’n ei gwneud. Gyda berf AMHERSONOL cawn wybod dau beth: a) beth yw’r weithred b) amser y weithred Does dim GODDRYCH i ferf AMHERSONOL

  12. Beth yw GODDRYCH? Trefn brawddeg normal yn y Gymraeg yw: BERF + GODDRYCH + GWRTHRYCH Gwelodd Sian blismon. Y GODDRYCH yw’r un sy’n gwneud y weithred h.y. Sian sy’n ‘gweld’

  13. Pwy yw’r goddrych? • Cafodd y plentyn barti penblwydd. • Bwytodd Cai afal ac oren. • Ysgrifennodd y prifathro lythyr. • Cwblhaodd y disgyblion eu gwaith. • Rhedodd y bachgen yn gyflym. • Canodd Carys yn ardderchog. • Cysgodd nain yn ein tŷ ni neithiwr. • Cofiodd Sian ddod â’i gwisg nofio gyda hi.

  14. Pwy wnaeth y weithred ym mhob brawddeg? • Cafodd y plentyn barti penblwydd. • Bwytodd Cai afal ac oren. • Ysgrifennodd y prifathro lythyr. • Cwblhaodd y disgyblion eu gwaith. • Rhedodd y bachgen yn gyflym. • Canodd Carys yn ardderchog. • Cysgodd nain yn ein tŷ ni neithiwr. • Cofiodd Sian ddod â’i gwisg nofio gyda hi.

  15. Yr un sy’n gwneud y weithred yw’r… GODDRYCH

  16. Beth am ferf amhersonol? DOES DIM GODDRYCH I FERF AMHERSONOL (os yw’r frawddeg yn ei stad gweithredol) h.y. nid y goddrych fydd yn gwneud y weithred e.e. Gwelwyd y lleidr yn rhedeg o’r siop. Nid y lleidr sy’n gwneud y weithred, sef ‘gweld’

  17. Mwy o enghreifftiau… Cariwyd y bachgen i’r ambiwlans. Ganwyd Sian yn Ysbyty Glan Clwyd. Lladdwyd y gath ar y briffordd. • Ym mhob un o’r brawddegau uchod, does dim goddrych. • Nid y bachgen sy’n cario ei hun – cael ei gario gan rywun arall mae o. • Dydy Sian ddim wedi gwneud y weithred o eni. Ei mam wnaeth hynny! • Dydy’r gath ddim wedi lladd ei hun. Gyrrwr y car laddodd hi.

  18. Creu brawddegau Wrth greu brawddeg gyda berf amhersonol, mae’n bwysig peidio rhoi goddrych i’r ferf e.e. Cenir Bryn Terfel yr anthem ar ddechrau’r gêm rygbi. Yma mae Bryn Terfel yn oddrych h.y. fo sy’n gwneud y canu., felly mae’r frawddeg yn anghywir Rhaid cael berf bersonol yma neu ddefnyddio ‘gan’. Cenir yr anthem gan Bryn Terfel…

  19. Terfyniadau’r amhersonol… -IR (presennol) -WYD (gorffennol) -ID (amherffaith)

  20. Eich tro chi… Cofiwch ddefnyddio ‘gan’ yn eich brawddegau. anfonwyd gwelwyd prynir darllenir bwytwyd Byddwch yn asesu brawddegau eich gilydd

More Related