100 likes | 338 Views
Siartiau Cylch. Math arall o ddiagram yw siart cylch . Mae ongl pob rhan yn cynrychioli nifer yr eitemau. Amcanion y wers. Gwybod mai math arall o ddiagram yw siart cylch. Gwybod bod ongl pob rhan yn cynrychioli nifer yr eitemau. Dehongli siartiau cylch syml. Ymarfer!.
E N D
Siartiau Cylch Math arall o ddiagram yw siart cylch. Mae ongl pob rhan yn cynrychioli nifer yr eitemau.
Amcanion y wers Gwybod mai math arall o ddiagram yw siart cylch Gwybodbod ongl pob rhan yn cynrychioli nifer yr eitemau Dehongli siartiau cylch syml
Ymarfer! Clybiau amser cinio dosbarth 7B 1Roedd gan ddosbarth 7B ddewis o glybiau amser cinio. Mae’r siart cylch yn dangos beth ddewisodd pawb. Dewisodd saith y clwb cyfrifiaduron. a Pa ffracsiwn o’r siart cylch yw’r clwb cyfrifiaduron? b Faint o ddisgyblion sydd yn nosbarth 7B?
Pa fath o gola mae dosbarth 7R yn ei hoffi? 2 Mae Geraint wedi gwneud siart cylch. Gofynnodd i fechgyn 7R pa un yw eu hoff ddiod, cola di-siwgr neu gola cyffredin. Mae yna 16 o fechgyn yn 7R. a Ysgrifennwch faint o fechgyn sy’n dewis cola cyffredin. b Ysgrifennwch faint o fechgyn sy;’n dewis cola di-siwgr
Hoff Bynciau Mae siart cylch Elen ar gyfer 7B yn dangos hoff bynciau. Dewisodd 14 o ddisgyblion Fathemateg. a Beth yw’r pwnc mwyaf poblogaidd? b Faint ddewisodd Gelf? c Faint o ddisgyblion oedd yn yr arolwg?
Sut mae dosbarth 7D yn cael eu cinio Mae’r siart cylch yma’n dangos sut mae dosbarth 7D yn cael eu cinio. a Beth yw’r mwyaf o’r rhannau yn y siart cylch? b Pa ffracsiwn o’r dosbarth sy’n cael brechdanau? c Mae 8 o ddisgyblion o ddosbarth 7D yn cael brechdanau. Faint o ddisgyblion sydd yn y dosbarth?
Sut mae dosbarth Andrew yn teithio i’r ysgol Mae Andrew wedi gwneud siart cylch. Mae’n dangos sut mae ei ddosbarth, 7P, yn teithio i’r ysgiol. Mae yna 32 o blant yn nosbarth Andrew. Llenwch y tabl yma: Dull teithio Bws ysgol Bws arbennig Car Cerdded Nifer y plant