140 likes | 360 Views
Seiberfwlio. Pan fydd technoleg dda yn mynd yn ddrwg……. Bod yn ddiogel yn seiberofod. Beth ydyw?.
E N D
Seiberfwlio Pan fydd technoleg dda yn mynd yn ddrwg…….. Bod yn ddiogel yn seiberofod
Beth ydyw? • Mae seiberfwlio’n digwydd pan fydd plant neu bobl ifanc yn eu harddegau’n defnyddio’r we, neu ffonau symudol neu unrhyw fath arall o dechnoleg i fygwth, herian neu godi cywilydd ar berson arall.
Gall technoleg fod yn beth da... • Mae’n caniatáu i bobl gysylltu â’u cyfoedion, eu ffrindiau a’u teuluoedd • Mae’n rhan gadarnhaol, cynhyrchiol a chreadigol o weithgareddau ac o ddatblygu hunaniaeth • Dylid ei hyrwyddo i ddatblygu defnyddwyr technoleg hyderus • Dylid ei defnyddio i hybu arloesedd, e-ddiogelwch a sgiliau llythrennedd digidol
Gall technoleg fod yn beth drwg….. • O’i ddefnyddio’n negyddol, mae’n caniatáu i bobl fwlio eraill drwy gyfrwng: • ffonau symudol • y rhyngrwyd / safleodd rhwydweithio cymdeithasol • y cyfryngau digidol – delweddau, fideos, sain • MSN (negeseuon)
Mae ei effaith yn ymestyn ymhell • gall ddigwydd 24/7 • gall ddigwydd yn y cartref, sydd i fod yn lle ‘diogel’.
Mae ei effaith yn ymestyn ymhell • gall y gynulleidfa fod yn eang iawn • gall fod yn anodd iawn osgoi’r bwli • mae’n aml yn anodd gwybod pwy yw’r seiberfwli gan y gall guddio y tu ôl i enw ffug ac nid yw byth yn yr un lle ffisegol • gall y bwli fod o wahanol genhedlaeth neu gall ddigwydd rhwng cyfoedion/ffrindiau
Ydych chi wedi bod yn seiberfwli? • Ydych chi wedi: • anfon neges heb feddwl • anfon jôc a allai beri gofid i rywun • dweud rhywbeth negyddol ar-lein • meddwl y gellid anfon y neges at grŵp ehangach • postio llun heb ofyn caniatâd y sawl sydd yn y llun yn fwriadol neu’n anfwriadol?
Beth ddylech chi ei wneud yn ei gylch? Cadw tystiolaeth o seberfwlio drwy arbed negeseuon, e-byst a sgyrsiau MSN a chreu sgrin lun o dudalennau gwe.
Beth ddylech chi ei wneud yn ei gylch? Peidiwch ag ateb Peidiwch byth ag ateb neges gas. Os medrwch, blociwch y bwli.
Beth ddylech chi ei wneud yn ei gylch? Dweud wrth rywun • oedolyn y gallwch ymmddiried ynddo • y bobl sy’n rhedeg y wefan, y gwasanaeth technoleg neu ddarparwr y gwasanaeth ffôn. • yr heddlu (achosion difrifol)
Syniadau i atal seberfwlio • Parchu eraill bob amser – cymerwch ofal o’r hyn rydych yn ei ddweud ac yn ei anfon. Mae’n bosibl i negeseuon a delweddau gael eu gweld yn gyhoeddus a gallant fod ar-lein am byth. • Diogelu – eich cyfrifon ysgol a’ch cyfirfon ar-lein a’ch ffôn symudol drwy ddefnyddio cyfrinair – peidiwch â’i ddatgelu i neb! • ‘Ffrindiau’ – dim ond pobl rydych yn eu hadnabod go iawn ac y gallwch ymddiried ynddynt, a neb arall
Os yw’n digwydd i chi… • Peidiwch â defnyddio gwefannau mae’r bwli’n eu defnyddio a blociwch gyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn sy’n anfon negeseuon cas • Gallai newid eich enw defnyddiwr helpu. • Ac, fel ym mhob a achos o fwlio, mae dweud wrth oedolyn am yr hyn sy’n digwydd yn WIRIONEDDOL bwysig hefyd..
Help! • DYWEDWCH WRTH RYWUN • Ffoniwch Childline ar 0800 1111 • Gwefannau defnyddiol….. • www.kidsmart.org.uk • www.digizen.org • www.cybermentors.org.uk
Peidiwch â bod yn rhan o seiberfwlio. O’i weld, gofynnwch am help, a’i stopio.