110 likes | 754 Views
Y Treiglad Llaes. Mae’r treiglad llaes yn achosi:. p. mh. t. nh. c. ngh. Beth sy’n achosi’r treiglad llaes?. Mae’r treiglad llaes yn digwydd… …ar ôl y rhagenw ei benywaidd. e.e. ei ph en, ei th rwyn, ei ch eg. Rhowch y rhagenw ei benywaidd o flaen yr enwau canlynol:.
E N D
Mae’r treiglad llaes yn achosi: p mh t nh c ngh
Beth sy’n achosi’r treiglad llaes? Mae’r treiglad llaes yn digwydd… • …ar ôl y rhagenw ei benywaidd e.e. ei phen, eithrwyn, eicheg Rhowch y rhagenw ei benywaidd o flaen yr enwau canlynol: cartref punt trwyn llyfr telyn croen plentyn teulu cyfrifiadur pêl
Beth sy’n achosi’r treiglad llaes? Mae’r treiglad llaes yn digwydd… 2) ….ar ôl y cysyllteiriau a, â, na e.e. Mae angen pren mesur aphensil ar gyfer yr arholiad. Peidiwch â chyffwrdd yn y gwydrau. Doedd dim radio na theledu yn yr ystafell.
Beth sy’n achosi’r treiglad llaes? Mae’r treiglad llaes yn digwydd… 2) ….ar ôl y rhifau tri a chwe e.e. tripharot, trithebot, trichar, chwepholyn, chwethren, chwecharafan, Rhowch y rhifau tri a chwe o flaen yr enwau canlynol tegan papur planhigyn llyfr twnel
Beth sy’n achosi’r treiglad llaes? Mae’r treiglad llaes yn digwydd… 4) ….ar ôl tua e.e. tuaphump o’r gloch mewn tuaphum munud
Beth sy’n achosi’r treiglad llaes? • Pan mae berfau sy’n dechrau gyda t, p, c yn negyddol maent yn treiglo’n llaes: e.e. Threuliais i ddim amser yn y gwersyll. Phrynais i mo’r llyfr yn y siop. Chlywais i ddim sŵn o’r stryd.
Ymarfer 1.Treiglwch y geiriau mewn cromfachau. 1. Anwesodd y ferch ei (cath) yn annwyl. 2. Sglodion a (pysgod) yw fy hoff fwyd. 3. Peidiwch â (tynnu’r) posteri oddi ar y waliau. 4. (Teithiodd) hi ddim i’r ysgol ar y bws bore ‘ma. 5. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi tua (tri) o’r gloch.
Ymarfer 2. Cywirwch y brawddegau canlynol: • Cafodd y ferch ddim gwyliau eleni gan ei bod yn gorfod gweithio. 2. Ffoniodd Catrin ei tad i ofyn am gymorth. 3. Cost y tocyn oedd chwe punt. 4. Rhedodd Eleri nerth ei traed a taflodd y bêl i ochr arall y cae. 5. Gofalai’r bachgen yn ofalus am ei gi a cath. 6. Roedd yn rhaid i’r ferch frathu ei dafod wrth siarad â’i brawd. 7. Doedd dim bisged na cacen ar ôl ar y bwrdd. 8. Mae digon o fara a caws erbyn amser swper. 9. Cas fwyd Siôn oedd moron a tatws. 10.Yn anffodus, torodd y ferch ei coes wrth ddisgyn oddi ar ei ceffyl.
Ymarfer 2: (parhad) • Talodd y ferch am ei chinio â punt o’i poced. • Mae tri car y tu allan i’r tŷ. 13. Cerddodd e ddim i’r ysgol y bore hwnnw. 14. Gwelodd leidr a ceisiodd Branwen redeg ar ei ôl. 15. Mae alcohol a cyffuriau’n gwneud drwg i’r corff. 16. Peidiwch â pwyso’n erbyn y ffenestr. 17. Rydw i’n ei caru hi. 18. Mae rhedeg yn gynt na cerdded.