130 likes | 337 Views
1923. Gorchwyddiant. Pa effaith a gafodd y cyfnod o orchwyddiant yn yr Almaen ar y cyhoedd yn y wlad honno?. Amcanion y Wers. Dod i wybod : Pa effaith a gafodd y Gorchwyddiant ar bobl wahanol yn yr Almaen Pa effaith a gafodd y Gorchwyddiant ar Weriniaeth Weimar gyfan.
E N D
1923 Gorchwyddiant Pa effaith a gafodd y cyfnod o orchwyddiant yn yr Almaen ar y cyhoedd yn y wlad honno?
Amcanion y Wers Dod i wybod: Pa effaith a gafodd y Gorchwyddiant ar bobl wahanol yn yr AlmaenPa effaith a gafodd y Gorchwyddiant ar Weriniaeth Weimar gyfan Cliciwch i weld tabl yn dangos sut y gostyngodd gwerth y marc
Trafodwch ac ystyriwch y ffynonellau a ganlyn Pa effaith a gafodd y Gorchwyddiant ar bobl wahanol? Oddi wrth fenyw oedd yn gweithio mewn canolfan Gristnogol yn helpu pobl dlawd. Roedd gwraig i blismon wedi’i gadael yn weddw gyda phedwar o blant. Dyfarnwyd iddi dri mis o gyflog ei diweddar ŵr. Erbyn iddi ei dderbyn doedd y cyfan ddim ond yn ddigon i brynu tri bocs o fatsis. Der Polizist
Pa effaith a gafodd y Gorchwyddiant ar bobl wahanol? Atgofion awdur o’r Almaen. Un diwrnod es i mewn i gaffi i gael paned o goffi. Wrth i mi fynd i mewn sylwais mai 5,000 marc oedd y pris – a dyna’r union swm roedd gen i yn fy mhoced. Eisteddais i lawr, darllenais fy mhapur ac yfais fy nghoffi, gan dreulio dim mwy nag awr yn y caffi, yna gofynnais am y bil. Daeth y gweinydd ataf gan roi bil am 8,000 marc i mi. ‘Pam 8,000 marc?’ gofynnais. Clywais fod gwerth y marc wedi gostwng yn y cyfamser. Felly rhoddais y cwbl o’r arian oedd gen i i’r gweinydd ac roedd e’n ddigon caredig i’w dderbyn a’i adael ar hynny. Bil
Pa effaith a gafodd y Gorchwyddiant ar bobl wahanol? Gweinidog Iechyd yr Almaen, Chwefror 1923 Mae’r dirywiad enbyd hwn mewn amodau iechyd yn wir am yr Almaen gyfan. Yn yr ardaloedd gwledig, lle mae’r ffermwyr yn gallu tyfu a bwyta eu bwyd eu hunain, mae’n debyg bod yr amodau’n well. Ond yn y trefi … bu dirywiad pendant. Cafodd y dosbarth canol ei daro’n galed iawn, y bobl hynny sy’n byw ar incwm bychan a delir yn flynyddol, y gweddwon a’r pensiynwyr, gyda’u hincwm cymhedrol, sy’n methu â fforddio prisiau heddiw … Mae’r cyfraddau marw’n codi … a’r un modd farwolaethau a achoswyd gan newyn.
Pobl broffesiynol Gwraig weddw Effeithiau’r Gorchwyddiant Ffermwr
Nawr, gan ddefnyddio’r daflen wybodaeth, cwblhewch y tabl ar y sleid ganlynol gan roi cymaint o fanylion ag y gellwch ar gyfer …. Pobl o’r Dosbarth Canol Pensiynwyr Gwŷr Busnes Cyfoethog Y Tlodion
Meddyliwch am yr effeithiau ar grwpiau arbennig o bobl – fel fi! Adolygu Pensiynwyr Rhowch bobl eraill ar y diagram ac eglurwch effaith y gorchwyddiant ar bob un. Ffermwyr Effeithiau’r Gorchwyddiant Busnesau Bychan
Tasg AdolyguTynnwch linellau i gysylltu’r term â’i ddiffiniad cywir. Y Cytundeb Heddwch y gorfodwyd i’r Almaen i’w arwyddo ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf Y Ruhr Pan mae prisiau’n codi mor gyflym fel na ellir argraffu arian papur yn ddigon cyflym i gadw i fyny â’r prisiau uwch Cytundeb Versailles Gwrthsafiad Goddefol Ardal ddiwydiannol gyfoethog yn yr Almaen gyda ffatrïoedd a phyllau glo Pobl yn gwrthod gweithio gyda’r canlyniad fod llai o nwyddau’n gadael y Ruhr Gorchwyddiant DIWEDD
Eglurwch yr effaith a gafodd y gorchwyddiant ar economi’r Almaen. (4 marc) CBAC, Papur 1, Astudiaeth Fanwl, Mehefin 2004